
Llwyfan e-ddysgu y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yw'r Porth, sy'n galluogi prifysgolion Cymru i rannu adnoddau cyfrwng Cymraeg yn genedlaethol, a dysgu modiwlau prifysgol ar y cyd gan ddefnyddio'r technolegau e-ddysgu diweddaraf.
Datblygwyd yr holl adnoddau a modiwlau ar y Porth gan ddarlithwyr o brifysgolion Cymru trwy nawdd a chydweithrediad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (a'r Ganolfan Addysg Uwch cyn Ebrill 2011). Mae ystod eang o'r meysydd a welir ar y Porth yn adlewyrchiad o'r datblygiadau sylweddol sydd wedi bod yn y sector, ac mae'r Porth bellach yn ganolog i'r holl ddatblygiadau yn y sector Addysg Uwch cyfrwng Cymraeg.
Mae'r Porth yn elfen allweddol o weledigaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol o greu cymuned academaidd Gymraeg lle y gall myfyrwyr fanteisio ar addysg brifysgol trwy gyfrwng y Gymraeg o'r safon uchaf, a chroesewir unrhyw fyfyrwyr neu staff cyfrwng Cymraeg o bob prifysgol yng Nghymru i ymuno â'r Coleg i fanteisio ar adnoddau'r Porth.