Datblygwyd yr adnoddau a'r modiwlau sydd ar y Porth gan ddarlithwyr o brifysgolion ledled Cymru. Maent yn deillio o strategaeth Cynlluniau Datblygu Academaidd mewn meysydd penodol ac o brosiectau wedi eu hariannu o Gronfa Datblygiadau Strategol a Phrosiectau y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (a'r Ganolfan Addysg Uwch cyn 2011).
Mae rhai adnoddau yn agored i bawb, ond am resymau hawlfraint a thrwyddedu Blackboard mae adnoddau eraill wedi eu cyfyngu i fyfyrwyr a staff prifysgolion yng Nghymru sydd wedi cofrestru fel defnyddwyr o'r Porth. Mae mynediad i rai modiwlau prifysgol ar y Porth wedi'i gyfyngu i'r myfyrwyr hynny sy'n astudio'r modiwl o fewn eu sefydliad cartref.