Adnoddau Agored
Yn ogystal â Oriel Gwe o wefannau a gyllidwyd gan y Ganolfan Addysg Uwch ac adnodd Termau, sy'n cynnwys nifer o eiriaduron o feysydd pwnc penodol, mae nifer o adnoddau a modiwlau agored ar gael ar Rith-amgylchedd Dysgu y Porth.
Academi Cynadleddau AchosMae'r adnodd hwn yn cynnwys ffilm sy'n olrhain hanes cynhadledd achos er mwyn gwarchod plant, ynghyd â chyflwyniad byr a chanllaw. Mae'r ffilm, sydd wedi ei rhannu i glipiau, yn para rhwng 40 a 50 munud o hyd.
Datblygwyd yr adnodd gan Brifysgol Morgannwg er mwyn darparu arweiniad ar y modd y cynhelir cynhadledd achos i fyfyrwyr ym meysydd Nyrsio, Bydwreigiaeth, Astudiaethau Heddlu, Astudiaethau Iechyd a Gwaith Cymdeithasol.
Adnodd DyslecsiaDatblygwyd yr adnodd hwn i gyd fynd â'r modiwl 'Anawsterau Dysgu Penodol - Dyslecsia'. Mae'n cynnwys darlith pwerbwynt ar 'Dyscalcwlia' yn ogystal â chyflwyniad i 'Arddulliau Dysgu'. Datblygwyd y modiwl a'r adnoddau gan Brifysgol Casnewydd i ymdrin yn uniongyrchol â dulliau addysgu a dysgu ar gyfer disgyblion sydd â dyslecsia, mewn ymgais i gynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth addysgwyr o ddyslecsia.
Adnoddau am yr hanesydd Gwyn Alf WilliamsDyma fanylion am waith yr Athro Gwyn Alf Williams, gan ganolbwyntio ar ei yrfa fel cyflwynydd teledu. Bydd y deunydd hwn o ddiddordeb penodol i fyfyrwyr hanes flwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Caerdydd sydd yn gwneud modiwl 'Y Gymru Fodern', ond bydd o ddefnydd i unrhyw fyfyriwr hanes sydd yn astudio gwaith yr hanesydd amlwg Cymreig hwn.
'Cymru, Ewrop a'r Byd' - Pecyn Athrawon Bagloriaeth CymruBwriad y pecyn hwn yw rhoi cymorth i athrawon i gyflwynor elfen Cymru, Ewrop ar Byd o Fagloriaeth Cymru. Trefnwyd y pecyn o gwmpas themâu gwahanol, a phob un yn edrych ar le Cymru yn Ewrop ac yn y byd mewn modd bywiog a chyffrous. Mae pob theman cynnwys ystod o adnoddau (cynllun gwers, cyflwyniadau, taflenni gwaith, gweithgareddau) ar cyfan wedii baratoi gan arbenigwyr yn eu meysydd. Maer pecyn yn caniatáu i fyfyrwyr ddatblygur Sgiliau Allweddol (cyfathrebu, technoleg gwybodaeth, cymhwyso rhif, gweithio gydag eraill, datrys problemau, gwella dysgu a pherfformiad personol) syn ganolog i gymhwyster Bagloriaeth Cymru.
Cynllun Colegau CymruMae'r adnodd hwn yn gasgliad o ddeunyddiau ar gyfer darlithwyr a hyfforddeion ar draws y sector Addysg. Mae'n cynnwys matiau Cyfnod Sylfaen, matiau thematig tri cham, llawlyfr iaith, arweiniad ar fethodoleg addysgu Cymraeg fel ail iaith, deunydd sain a chyflwyniadau pwerbwynt i'w defnyddio fel sail i ddarlithoedd. Datblygwyd hwn gan Goleg Prifysgol y Drindod er mwyn darparu adnoddau i hwyluso hyfforddi hyfforddeion di-Gymraeg ar y cwrs BA Addysg a TAR Cynradd.
Dulliau Ymchwil MeintiolBydd yr adnoddau yma yn cyflwyno myfyrwyr i ddulliau ymchwil meintiol a'r rhaglenni cyfrifiadurol sy'n cael eu defnyddio i ddadansoddi data.
Gloywi IaithMae'r adnodd hwn yn cynnwys deunyddiau megis matiau iaith, matiau defnyddio iaith i bwrpas, ymarferion a chyfeirlyfr iaith. Bydd yr adnoddau o ddefnydd i gyrsiau hyfforddi athrawon cychwynnol yn ogystal ag athrawon newydd gymhwyso a rhai profiadol sy'n gwirio adnoddau a chynlluniau gwersi.
Datblygwyd yr adnodd gan Brifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant er mwyn sicrhau adnodd hylaw i addysgu sesiynau gloywi iaith ac arweiniad ar addysgu'r iaith yn y sector gynradd.
Gwaith Theori ac Arfer CymraegMae'r adnodd yma yn cynnwys deunyddiau darlith cyflawn ar gyfer cwrs rhan dau, Theori ac Ymarfer Daearyddiaeth.
Llyfrgell Adnoddau FideoDatblygwyd yr adnodd hwn gan Brifysgol Bangor. Mae'n cynnwys cyfres o ffilmiau byrion yn dangos nifer o wahanol gamau pwysig a ddefnyddir mewn arbrofion a thechnegau labordy ar draws y Gwyddorau Biolegol. Mae'r ffilmiau yn berthnasol i ddau faes: Ymarferiadau Biofeddygol a Molecwlar ac Ymarferiadau trwy'r microsgop - maes eang ar draws nifer o gwricwla, modylau a defnydd recriwtio. Mae modd defnyddio'r ffilmiau ar draws lefelau dysgu 4-7 ar hyd ystod eang o adrannau biolegol Cymru.
Llyfryddiaeth Theatr Cymru GynnarMae'r adnodd hwn yn cynnwys llyfryddiaeth yn ymdrin â gweithgaredd dramataidd a theatraidd yng Nghymru yn ystod yr hanner canrif rhwng 1880 a 1940. Cyflwynir dramodwyr a llyfryddiaeth o'u gweithiau oedd yn weithgar yn y cyfnod a chanolir ar weithiau a gyhoeddwyd a/neu sydd â gwybodaeth bendant ynghylch teitlau, awduron ayb. Datblygwyd yr adnodd hwn er mwyn cyfoethogi'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ym maes Theatr Cymru Gynnar a chynorthwyo myfyrwyr i ddarganfod deunydd cyfeiriol a chefndirol yn y maes.
Pecyn NyrsioMae'r rhaglen ryngweithiol hon wedi ei seilio ar Bapur Briffio LLAIS: Ymwybyddiaeth o Iaith mewn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Ysgrifennwyd y papur gan yr Athro Fiona Irvine, o Brifysgol Liverpool John Moores a Gwerfyl Roberts o Brifysgol Bangor. Fe'i troswyd yn fformat dysgu electronig gan Ian Welsh, Ymgynghorydd Addysgol.
Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer CorffMae'r adnodd hwn yn gasgliad o ddeunyddiau dysgu rhyngddisgyblaethol ar gyfer pynciau Chwaraeon ac Ymarfer Corff. Mae'n cynnwys adnoddau ar ffurf cyflwyniadau pwerbwynt ar gyfer darlithoedd, tasgau ac aseiniadau, cyfieithiadau o destunau, sylwebaeth arbenigol ar faterion llosg yn ymwneud â chwaraeon, ynghyd â dwy sesiwn ymgynghorol wedi eu recordio ar DVD. Datblygwyd yr adnodd gan Brifysgol Aberystwyth er mwyn rhoi arweiniad i fyfyrwyr ar ddulliau ymchwil a materion moesegol mewn ymarfer ac ymchwil, yn ogystal a materion proffesiynol a datblygu gyrfa.