Fel rhan o'r Rhaglen Datblygiad Staff cynhelir cyfres o weithdai ledled Cymru ar gyfer pawb yn y sector Addysg Uwch sy’n dymuno derbyn hyfforddiant sgiliau trwy gyfrwng y Gymraeg, gyda deunydd cefnogol ar gael ar y Porth. Cynigir y sesiynau hyn i bob aelod o staff, boed yn staff newydd neu staff profiadol, yn ogystal ag i fyfyrwyr ymchwil ôl-radd, lle bynnag y bônt.