Ymaelodwch â’r Coleg

Ymaelodwch â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i sicrhau mynediad llawn i adnoddau’r Porth

Pori a Mewngofnodi

Porwch trwy’r Adnoddau Agored neu mewngofnodwch i Rhith-amgylchedd Dysgu Blackboard y Porth
grisiau oren

Modiwlau Prifysgol

Mae’r modiwlau prifysgol ar y Porth, nifer ohonynt yn fodiwlau traws-sefydliadol, yn cynrychioli modiwlau o fewn rhaglenni gradd prifysgolion ac mae mynediad iddynt ar y Porth wedi ei gyfyngu i fyfyrwyr sydd yn astudio’r modiwlau o fewn eu sefydliad. Rhaid i fyfyrwyr yn gyntaf gofrestru ar y Porth ac yna trefnir mynediad i'r modiwlau trwy eu sefydliad cartref.

Oherwydd natur traws-sefydliadol nifer o'r modiwlau, mae dull dysgu'r modiwlau yn aml yn dra gwahanol i ddull dysgu modiwlau prifysgol arferol, gan gynnwys defnydd o ddarlithoedd/seminarau dros y rhwydwaith fideo-gynadledda i ddysgu ar y cyd rhwng sefydliadau a phenwythnosau preswyl i ddod â myfyrwyr o wahanol sefydliadau at ei gilydd e.e. penwythnosau gwaith maes.