Gall myfyrwyr prifysgol, gan gynnwys myfyrwyr ymchwil, ymaelodi fel aelod o gymuned myfyrwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol trwy ddefnyddio'r ffurflen isod. Wrth ymaelodi bydd modd i chi ddewis cyfrinair i sicrhau mynediad llawn i adnoddau'r Porth.
Wrth gwblhau a chyflwyno'r ffurflen ymaelodi isod rydych yn cytuno i'r Datganiad Rhannu Data'r Coleg isod ac yn ymrwymo i lynu i reoliadau Cytundeb Defnydd y Porth.
Er mwyn i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol allu gweithredu ei phrosesau’n effeithiol bydd angen ar adegau rhannu data am aelodau gyda sefydliadau unigol – ac yn achos myfyrwyr, gyda’r undebau myfyrwyr. Bydd hyn yn digwydd ar adegau pan fo’r Coleg a’r sefydliadau yn cydweithredu ar faterion sy’n ymwneud yn uniongyrchol â phrosesau’r Coleg e.e. cofrestru ar fodiwlau neu drefniadau etholiadau cynrychiolwyr myfyrwyr a staff. Gwneir hyn yn unol â Pholisi Gwarchod Data y Coleg a'r Ddeddf Gwarchod Data 1998.