Ymaelodwch â’r Coleg

Ymaelodwch â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i sicrhau mynediad llawn i adnoddau’r Porth

Pori a Mewngofnodi

Porwch trwy’r Adnoddau Agored neu mewngofnodwch i Rhith-amgylchedd Dysgu Blackboard y Porth
swigod oren porth

Cyflwyniad i'r Porth

Sefydlwyd llwyfan e-ddysgu'r Porth gan y Ganolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg yn 2009 i gynorthwyo yn y gwaith o ddatblygu ac ehangu cyfleoedd astudio drwy’r Gymraeg ym mhrifysgolion Cymru. Mae'r Porth yn gwneud defnydd o dechnolegau e-ddysgu o fewn Rhith-amgylchedd Dysgu Blackboard Learn 9.1 i gyfoethogi profiad myfyrwyr cyfrwng Cymraeg a galluogi iddynt ddysgu ar y cyd gyda myfyrwyr o sefydliadau eraill mewn modd effeithiol gan ddefnyddio adnoddau traws-sefydliadaol.

Mae'r Porth yn greiddiol i raglen datblygu academaidd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac yn cyfrannu at y weledigaeth o adeiladu cymuned academaidd Gymraeg.

Rheolwr Gwasanaethau Gwybodaeth, Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
o.huw@colegcymraeg.ac.uk