Ymaelodwch â’r Coleg

Ymaelodwch â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i sicrhau mynediad llawn i adnoddau’r Porth

Pori a Mewngofnodi

Porwch trwy’r Adnoddau Agored neu mewngofnodwch i Rhith-amgylchedd Dysgu Blackboard y Porth
swigod oren porth

Sefydlu a datblygu'r Porth

Ym mis Medi 2008 dechreuwyd trafodaethau yn y Grŵp E-Ddysgu a Dysgu Cyfunol ynglŷn â sefydlu dull mwy hyblyg o rannu adnoddau a rheoli modiwlau cydweithredol. Sefydlwyd gweithgor o arbenigwyr e-ddysgu o brifysgolion Cymru a'r Ganolfan Addysg Uwch i asesu anghenion y sector, a gwnaethpwyd argymhelliad i sefydlu llwyfan e-ddysgu annibynnol ar gyfer y sector yn seiliedig ar Blackboard Learn. Yn Chwefror 2009 derbyniodd yr argymhelliad gefnogaeth y Grŵp Sector AU Cyfrwng Cymraeg a chefnogaeth ariannol gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW).

Sefydlu'r Porth

Yn Ebrill 2009 lluniwyd cynllun prosiect a sefydlwyd tîm prosiect, gyda chynrychiolwyr o'r Ganolfan Addysg Uwch ac arbenigwyr o'r prifysgolion gan gynnwys Prifysgol Abertawe fel lletywyr y Porth:

  • Swyddog Gweithredol: Dr Ioan Matthews, Cyfarwyddwr (Y Ganolfan Addysg Uwch)
  • Rheolwr Prosiect: Owain Huw, Rheolwr Technolegau Digidol ac E-Ddysgu (Y Ganolfan Addysg Uwch)
  • Uwch-Ddefnyddwyr: Haydn Blackey, Pennaeth Arloesi mewn Dysgu ac Addysgu (Prifysgol Morgannwg); Kate Wright, Swyddog Datblygu E-Ddysgu (Prifysgol Aberystwyth); Bethan Wyn Jones, Gwasanaethau TG (Prifysgol Bangor)
  • Uwch-Gyflenwr: Steve Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr, Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth (Prifysgol Abertawe)
  • Sicrwydd y Prosiect: Dr Dafydd Trystan, Rheolwr Datblygu (Y Ganolfan Addysg Uwch); Dr Gwennan Schiavone, Swyddog Datblygu (Y Ganolfan Addysg Uwch); Peter Langley, Swyddog Systemau (Prifysgol Abertawe)
Yn Awst 2009, lansiwyd y Porth yn swyddogol yn yr Eisteddfod Genedlaethol, yng nghwmni'r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau. Nododd: "Mae’r llwyfan e-ddysgu newydd hwn yn adnodd ardderchog i dynnu sylw at adnoddau, deunyddiau a datblygiadau ym maes Addysg Uwch trwy gyfrwng y Gymraeg, a hynny ar draws y sector Addysg Uwch cyfrwng-Cymraeg. Bydd o fudd difesur i fyfyrwyr a staff, yn ogystal ag i’r Coleg Ffederal, ac mae’n bleser gen i longyfarch y Ganolfan ar adnodd mor wych."

Datblygiad Y Porth

I sicrhau llawn botensial y llwyfan, cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau i staff prifysgolion ar draws Cymru yn 2009-10, ac fe gyflwynwyd papur i nifer o gynadleddau gan gynnwys 'Cydweithredu yn Gymraeg' yng nghynhadledd Ewropeaidd Blackboard, lle'r oedd diddordeb mawr yn y modd arloesol y mae'r Porth yn rhannu adnoddau ac yn hwyluso dysgu modiwlau traws-sefydliadol.

Y Dyfodol

Mae sefydlu'r Porth wedi gweddnewid potensial adnoddau cyfrwng Cymraeg i gyrraedd cynulleidfa newydd ehangach, trwy ddarparu lleoliad canolog, cyhoeddus i’r sector rannu adnoddau mewn modd cydweithredol. Mae'r Porth hefyd yn cynnig llwyfan cydnabyddedig i adnoddau a modiwlau newydd fydd yn deillio o sefydlu'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn 2011.