Adnodd fideo newydd sy’n dod â hanes yr iaith Gymraeg yn fyw mewn 4 munud. O’r Frythoneg, geni’r Gymraeg a’r fersiynau ysgrifenedig cynharaf yn Oes y Tywysogion drwy’r Deddfau Uno a’r Chwyldro Diwydiannol i sefydlu’r Urdd ac ysgolion cyfrwng Cymraeg yn yr ugeinfed ganrif, dyma fideo sy’n mynd o’r flwyddyn 40 i 2022, pan ddefnyddiwyd y Gymraeg am y tro cyntaf ar y llwyfan chwaraeon mwyaf un, sef yng Nghwpan pêl-droed y Byd. “Heddiw, mae dros hanner miliwn yn siarad yr iaith ac mae Llywodraeth Cymru am gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 fel bod y Gymraeg yn dod yn rhan annatod o fywyd bob dydd, mewn cymunedau, ysgolion, yn y gwaith a thechnoleg ddigidol.” Adnodd i’w ddefnyddio’n eang gyda dosbarthiadau Cymraeg o bob oed, ac yn benodol ar gyfer Cymraeg Ail Iaith Safon Uwch Uned 5 (Y Gymraeg yn y Gymdeithas.) Dolen i'r fideo ar YouTube - gllir dewis isdeitlau (Cymraeg) ar y fideo yn YouTube (bydd isdeitlau Saesneg ar gael yn fuan). Ariannir gan Lywodraeth Cymru.
Amserlen Fideo: Hanes yr Iaith
Trafferth mewn Tafarn 2024
Adnodd fideo newydd sy’n rhoi gwedd gyfoes ar gywydd enwog Dafydd ap Gwilym er mwyn cynorthwyo gydag astudiaethau Safon Uwch Cymraeg Uned 5 (Rhyddiaith yr Oesoedd Canol, Yr Hengerdd a’r Cywyddau). Canolbwyntir ar 4 rhan o’r testun er mwyn adrodd y stori, gan fanylu ar y cynnwys mewn iaith gyfoes a rhoi sylw penodol i nodweddion arddull a chrefft y bardd. Sgript wedi ei baratoi gan Dr Eurig Salisbury, darlithydd yn Adran y Gymraeg Prifysgol Aberystwyth. Dolen i'r fideo ar YouTube - gllir dewis isdeitlau (Cymraeg) ar y fideo yn YouTube. Ariannir gan Lywodraeth Cymru.
Sbia ar hwn
Wyt ti eisiau dysgu sut i fachu sylw ar y cyfryngau cymdeithasol? Beth am greu cynnwys fydd yn cael ei rannu i bob cwr o'r ryngrwyd? Eisiau tips gan yr arbenigwyr? Mae Sbia ar Hwn yn gwrs digidol newydd i dy helpu i lwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae'r cwrs digidol hwn wedi'i ddylunio i helpu myfyrwyr a disgyblion ysgol i baratoi ar gyfer gweithio ym myd y cyfryngau cymdeithasol. Byddwn yn edrych ar sut i fachu a hoelio sylw, creu cynnwys gafaelgar, sut i gyflwyno straeon newyddion a defnyddio'r Gymraeg yn effeithiol i gyfathrebu â chynulleidfaoedd amrywiol.
Coel Gwrach
Ni fu erlid gwrachod yng Nghymru. Nifer syfrdanol fychan o ‘wrachod’ a gafodd eu canfod yn euog a’u crogi yng Nghymru. Dim ond pump, o’i gymharu â mwy na 200,000 o fenywod a’u crogwyd neu eu llosgi yng ngorllewin Ewrop ar ôl cael eu cyhuddo o ‘witchcraft’ rhwng 1484 a 1750. Mae sawl ‘coel gwrach’ neu ofergoel am wrachod lle mae’r profiad Cymreig yn cael ei gyfuno ar gam neu ei ddrysu gan lên a hanes Saesneg neu Brydeinig. Ymgais yw prosiect Coel Gwrach i sicrhau fod Gwen, Rhydderch, Lowri, Agnes a Margaret yn cael eu lle mewn hanes drwy gyfrwng y Gymraeg, eu hiaith hwythau yn hytrach nag iaith y llys, ond hefyd bod eu straeon yn cael ail-gyfle i’w clywed mewn cymdeithas.
BLC Unedau Chwaraeon Lefel 3 (B)
25 o sesiynau dysgu cyfunol ychwanegol ar gyfer dysgwyr sy’n astudio cwrs Chwaraeon (lefel 3). Mae modd gweld y sesiynau yn eich porwr drwy ddilyn y dolenni isod. Mae hefyd modd i golegau lawrlwytho'r cynnwys er mwyn eu gosod o fewn eu llwyfannau dysgu lleol. Mae ffeil zip yma yn cynnwys y ffeiliau SCORM ar gyfer yr holl unedau. Mae cynnwys y sesiynau hyn yn ddwyieithog, ond dim ond yn Gymraeg mae modd ateb y cwestiynau. Hawlfraint Heart of Worcestershire College ar ran The Blended Learning Consortium a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’r adnoddau hyn i gael eu defnyddio mewn sefydliadau addysgiadol yn unig ac ni ddylid eu haddasu na’u hailwerthu.
10 mlynedd o JOMEC Cymraeg
Dyma bodlediad yn cynnwys 10 o raddedigion JOMEC Cymraeg ac enwau adnabyddus o'r cyfryngau yng Nghymru. Mae'r gyfres yn cynnwys unigolion o gefndiroedd gwahanol, gydag agweddau amrywiol at yr iaith sydd yn gweithio mewn gwahanol feysydd. Mae yna gynnwys diddorol, perthnasol a defnyddiol i fyfyrwyr prifysgolion Cymru, disgyblion ysgol a chynulleidfaoedd ehangach. Millie Stacey o’r drydedd flwyddyn yn sgwrsio gyda Tirion Davies, newyddiadurwraig radio i Global News. Carys Williams yn cyfweld a Dafydd Wyn Orritt sydd yn swyddog gweithredol cyfrif yn Equinox Communications. Efa Ceiri o’r drydedd flwyddyn yn sgyrsio gyda Catrin Lewis, Golwg 360. Lois Campbell o flwyddyn 3 yn sgwrsio gyda Ciara Conlon a Jess Clayton o dîm cynhyrchu Hamsh Dim Sbin/ITV Cymru Lena Mohammed, sydd yn ei blwyddyn olaf, yn sgwrsio gyda'r cyflwynydd Melanie Owen. Hanna Morgans Bowen o flwyddyn 1 sydd yn cyfweld â'r newyddiadurwr Aled Biston, S4C.
Astudiaethau Busnes
Yn yr adnodd hwn byddwch yn cael y cyfle i ddatblygu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o fusnesau a’u marchnadoedd. Mae’r adnodd wedi ei rhannu’n ddwy rhan: Rhan 1) Modiwlau Archwilio Busnes Rhan 2) Modiwlau Marchnata Yma cewch wybodaeth ynglŷn â busnesau a chwmnïau yng Nghymru y gallwch ei defnyddio i ymchwilio ymhellach neu er mwyn cwblhau aseiniadau. Byddwch hefyd yn dod ar draws ymarferion byr ac astudiaethau achos a fydd yn profi eich dealltwriaeth yn fras. Mae'r adnodd hwn yn targedu dysgwyr sy'n astudio cyrsiau busnes ar lefel 3.
Unedau Diwydiannau Creadigol
Mae'r casgliad hwn yn cynnwys chwech pecyn e-ddysgu ar y meysydd canlynol: Busnes o fewn y Diwydiannau Creadigol Celf a Dylunio o fewn y Diwydiannau Creadigol Cyfathrebu ac ymchwil ym maes y Cyfryngau Creadigol Archwilio’r Celfyddydau Perfformio ac Ymarfer Proffesiynol Llwybrau Gyrfa a chyfleoedd o fewn y Diwydiannau Creadigol yng Nghymru Y diwydiant cerddoriaeth ac ymarfer proffesiynol Mae'r pecynnau yn addas ar gyfer dysgwyr sy'n astudio'r cymwysterau perthnasol ar lefelau 2 a 3 mewn colegau addysg bellach.
Cefnogi iechyd meddwl a lles ymchwilwyr ôl-raddedig
Canllaw i oruchwylwyr doethuriaethau ar sut i gefnogi iechyd meddwl a lles eich myfyrwyr ymchwil. Mae'r canllaw yn cynnwys yr heriau y gallai ymchwilwyr eu hwynebu yn ystod pob cam o'u doethuriaeth, a datrysiadau posib. Cyfieithwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn cydweithrediad â UKCGE.
Paratoi ar gyfer y Viva
Canllaw i ymgeiswyr doethurol ar baratoi ar gyfer yr arholiad Viva. Mae'r pecyn yn cynnwys gwybodaeth ar sut i baratoi at yr arholiad, beth i'w ddisgwyl ar y diwrnod, a chwestiynau cyffredin a ofynnir mewn arholiad Viva. Cyfieithwyd y wybodaeth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn cydweithrediad â UKCGE.
Gweithdai Adolygu Cymdeithaseg
Dau weithdy ar-lein ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio Lefel A neu arholiadau Lefel 2 neu 3 mewn Cymdeithaseg. Mae'r Gweithdy gyntaf ar thema 'Sgiliau Ymchwil' a'r ail weithdy ar thema 'Anghyfartaledd'. Arweinir y Gweithdai gan ddarlithwyr o brifysgolion Bangor a Chaerdydd.
Cyflwyniad i Droseddeg
Bwriad pennaf y llyfr hwn yw rhoi cyflwyniad i droseddeg fel maes astudio pwnc gradd academaidd i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf mewn sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru. Dyma’r symbyliad i ddatblygu gwerslyfr academaidd cynhwysfawr yn y Gymraeg a fyddai’n cyflwyno myfyrwyr i agweddau beirniadol o ddilyn ac astudio troseddeg drostynt eu hunain. Yn ogystal â chynnig yr adnodd yn yr iaith Gymraeg, mae’r gyfrol hefyd yn gofyn i fyfyrwyr berthnasu damcaniaethau troseddeg o fewn cyd-destun troseddu yn y Gymru gyfoes.