Porwch trwy’r Adnoddau Agored neu mewngofnodwch i Rhith-amgylchedd Dysgu Blackboard y Porth
Hawlfraint
Dylai staff sy’n uwchlwytho adnoddau ar y Porth gofio bod cyfreithiau hawlfraint y DU mewn grym, a dylent sicrhau bod yr holl ddeunyddiau addysgu a uwchlwythir yn perthyn i un o’r categorïau canlynol:
Mae’r aelod o staff yn ddeiliad hawlfraint
Nid oes hawlfraint ar y deunydd
Mae’r defnydd o’r deunydd wedi’i ganiatáu o dan y gyfraith
Mae’r aelod o staff wedi cael yr hawl i ddefnyddio’r deunydd gan ddeiliad yr hawlfraint
Os rhoddwyd yr hawl i ddefnyddio’r deunydd gan ddeiliad hawlfraint arall, dylid nodi hynny’n amlwg yn eich deunyddiau. Os rhoddwyd caniatâd hawlfraint am gyfnod cyfyngedig, cyfrifoldeb yr aelod o staff yw tynnu’r deunyddiau o’r safle ar ddiwedd y cyfnod a ganiatawyd. Mae deunyddiau a uwchlwythir ar y Porth hefyd wedi’u rheoli gan bolisïau hawlfraint sefydliad cartref y defnyddiwr.