Ychwanegwyd: 09/10/2020 Dyddiad cyhoeddi: 2020 2.8K

Gweithdai Cyfraith a Throseddeg i fyfyrwyr Lefel A

Disgrifiad

Beth bynnag eich pynciau Lefel A, neu os ydych yn ddisgybl Bl12 neu Bl13, os oes diddordeb gennych astudio neu gael blas ar y Gyfraith neu Droseddeg (Criminology) fel pynciau prifysgol, byddai'n werth i chi fwrw golwg ar y sesiynau blasu isod.

Cynhaliwyd y Gweithdai wythnosol rhwng 7.00-7.40pm bob nos Fercher gan ddechrau ar nos Fercher 4 Tachwedd 2020. Roedd darlithydd gwahanol o brifysgol gwahanol yn rhoi cyflwyniad 20 munud ac yna sesiwn drafod am 20 munud ar thema gyfreithiol neu droseddeg.

  • 4 Tachwedd  - 'Revenge Porn a'r Gyfraith' - Dr Hayley Roberts, Prifysgol Bangor
  • 11 Tachwedd - 'Dal y Lleidr' - Holly Evans, Prifysgol De Cymru
  • 18 Tachwedd - Troseddeg Werdd - pwysigrwydd achosion o ‘niwed amgylcheddol,’ yn erbyn cyfraith amgylcheddol' - Dr Lowri Cunnington Wynn, Prifysgol Aberystwyth 
  • 25 Tachwedd - '"Cofio dy Wyneb": Yr Hawl i Breifatrwydd ac Offer Adnabod Wynebau, Achos Bridges a'r heddlu'n recordio wynebau mewn torfeydd' - Dr Huw Pritchard, Prifysgol Caerdydd
  • 2 Rhagfyr- 'Sesiwn Sgiliau Allweddol ar gyfer astudio'r Gyfraith - cyfathrebu, dadansoddi, ymchwilio, perswadio' - Trilby James, Prifysgol Abertawe
  • 9 Rhagfyr-  Rhyddid neu iechyd?  Hawliau dynol yn ystod Cyfnod Cloi C-19Emyr Lewis, Pennaeth Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Aberystwyth

Mae modd clicio ar y dolenni isod i weld recordiadau o'r sesiynau.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
UG/Safon Uwch
Perthyn i
Hanes, Cyfraith, Troseddeg / Gwyddorau Heddlu, Cymraeg, Addysg Grefyddol
Trwydded
Parth Cyhoeddus
Adnodd Coleg Cymraeg Gweithdy/Gweminar
mân-lun gweithdy cyfraith title thumbnail for law workshop

Tanysgrifio

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.