Ychwanegwyd: 21/09/2021 Dyddiad cyhoeddi: 2021 2.1K Cymraeg Yn Unig

Gweithdai Cyfraith a Throseddeg yr Hydref 2021

Disgrifiad

Beth bynnag eich pynciau Lefel A, neu os ydych yn ddisgybl Bl12 neu Bl13, os oes diddordeb gennych astudio neu gael blas ar y Gyfraith neu Droseddeg (Criminology) fel pynciau prifysgol, byddai'n werth i chi ddod i'r sesiynau blasu isod.

Bydd cyfres o chwech gweithdy byr yn cael eu cynnal yn wythnosol rhwng 7.00-7.40pm bob nos Fercher gan ddechrau ar nos Fercher 29 Medi 2021. Bydd darlithwyr o wahanol brifysgolion yn cynnal y sesiynau ac yn rhoi cyflwyniad a thrafodaeth am rhyw 40 munud ar thema gyfreithiol neu droseddeg.

  • 29 Medi - “You can’t speak Welsh here!” Oes gen ti hawl i siarad Cymraeg?  Yr Athro Emyr Lewis, Pennaeth Ysgol y Gyfraith a Throseddeg, Prifysgol Aberystwyth
  • 6 Hydref  - 'Lladd yw lladd.... mor syml a hyn? Beth yw'r prif gwahaniaeth rhwng Llofruddiaeth fel cyhuddiad a Dynladdiad?'  Cerys Davies, Prifysgol Abertawe
  • 13 Hydref -  'Yr Hawl i Brotest' Dr Huw Pritchard, Prifysgol Caerdydd 
  • 3 Tachwedd - 'Y frwydr am Fairbourne – astudiaeth o droseddau amgylcheddol a’i ddioddefwyr' Dr Lowri Cunnington Wynn, Prifysgol Aberystwyth
  • 10 Tachwedd 'Camwedd: Atebolrwydd mewn esgeulustod am anaf i bobl a difrod i eiddo' Holly Evans, Prifysgol De Cymru
  • 17 Tachwedd - 'Difrodi Cyrff Meirw a'r Gyfraith: Achos Parchedig Emyr Owen'  Dr Hayley Roberts, Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Bangor

Cliciwch isod i gofrestru:

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Ôl-16 a Galwedigaethol, UG/Safon Uwch
Perthyn i
Hanes, Cyfraith, Gwleidyddiaeth, Troseddeg / Gwyddorau Heddlu, Cymraeg
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Adnodd Coleg Cymraeg Gweithdy/Gweminar
mân-lun gweithdai cyfraith 2021

Tanysgrifio

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.