Pump gweithdy byw ar gyfer myfyrwyr blwyddyn 12 a 13 a dysgwyr mewn Colegau Addysg Bellach sy'n astudio Mathemateg Safon Uwch/UG. Trefnir y gweithdai gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac fe'u harweinir gan ddarlithwyr mathemateg o brifysgolion Abertawe, Aberystwyth a Chaerdydd. Eu bwriad yw cyfoethogi maes llafur Mathemateg Safon Uwch/UG a rhoi cyfle i chi ddod i nabod y darlithwyr.
Cynhelir y gweithdai wythnosol rhwng 7.00-7.45pm bob nos Fercher gan ddechrau ar nos Fercher 24 Chwefror 2021 (Bydd dolen ar gael fan hyn ar y noson i chi gael ymuno'n fyw).
- 24 Chwefror - Data, Dr Geraint Palmer, Prifysgol Caerdydd
- 3 Mawrth - Mathemateg mewn Chwaraeon, Dr Tudur Davies, Prifysgol Aberystwyth
- 10 Mawrth - Tebygolrwydd, Dr Kristian Evans, Prifysgol Abertawe
- 17 Mawrth - Rhifau Cymhlyg, Dr Mathew Pugh, Prifysgol Caerdydd
- 24 Mawrth - Grwpiau Cymesuredd, Dr Gwion Evans, Prifysgol Aberystwyth
Bydd cyflwyniadau'r darlithwyr yn Gymraeg a byddant yn cael eu recordio. Bydd y recordiadau ar gael i'w gwylio yma maes o law.
I gofrestru ar gyfer y gweithdai, cliciwch isod: