Ychwanegwyd: 07/10/2021 Dyddiad cyhoeddi: 2021 2.2K Cymraeg Yn Unig

Gweithdai Mathemateg 2021/22

Disgrifiad

Gweithdai byw ar-lein ar gyfer myfyrwyr blwyddyn 12 a 13 a dysgwyr mewn Colegau Addysg Bellach sy'n astudio Mathemateg Safon Uwch/UG.

Arweinir y gweithdai gan ddarlithwyr mathemateg o brifysgolion Abertawe, Aberystwyth a Chaerdydd ac fe’u cefnogir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Eu bwriad yw cyfoethogi maes llafur Mathemateg Safon Uwch/UG a rhoi cyfle i chi ddod i nabod y darlithwyr.

Eleni, rhennir y gweithdai dros ddau dymor, un cyfres ym mis Tachwedd 2021 a'r ail gyfres ym mis Mawrth 2022 ac fe’u cynhelir ar nos Fercher am 7.00-8.00pm. Bydd y sesiynau yn wahanol i 2020/21. Am y tro cyntaf eleni, bydd sesiwn dynodedig lle bydd modd i chi ofyn cwestiynau i fyfyrwyr sy'n astudio mathemateg. 

2021

  • 10 Tachwedd - Theori Setiau: i anfeidredd a thu hwnt, Dr Gwion Evans, Prifysgol Aberystwyth
  • 17 Tachwedd - Graffiau a Rhwydweithiau, Dr Geraint Palmer, Prifysgol Caerdydd
  • 24 Tachwedd - Y Gymhareb Euraidd (The Golden Ratio), Dr Kristian Evans, Prifysgol Abertawe

2022

  • 09 Mawrth - Astudio Mathemateg yn y Brifysgol - safbwynt myfyrwyr sy'n astudio yn y Gymraeg
  • 16 Mawrth - Calcwlws Differol, Dr Tudur Davies, Prifysgol Aberystwyth
  • 23 Mawrth - Y Plân Cymlyg, Dr Mathew Pugh, Prifysgol Caerdydd,


 

Lefel y Casgliad
Ôl-16 a Galwedigaethol, UG/Safon Uwch
Perthyn i
Mathemateg
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Adnodd Coleg Cymraeg Gweithdy/Gweminar
mân-lun gweithdai mathemateg

Tanysgrifio

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.