Beth am ddefnyddio meddalwedd cyfrifiadurol hwyliog yn eich addysgu ar-lein? Yma cewch ddysgu am wahanol blatfformau er mwyn creu profiadau dysgu amrywiol a defnyddiol ar gyfer eich myfyrwyr. Yn yr adnodd hwn, cewch gyflwyniad i’r platfformau canlynol: Kahoot Padlet Quizzizz Quizlet Cyflwynydd: Dr Nia Cole Jones Mae Dr Nia Cole Jones yn uwch-ddarlithydd gyda’r Brifysgol Agored. Graddiodd â gradd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg o Brifysgol Aberystwyth, ac wedyn aeth yn ei blaen i astudio M.Phil a PhD ar ddatblygiad y Gymraeg ym meysydd chwaraeon a’r newyddion. Mae wedi gweithio mewn addysg uwch ers dros ddegawd, gan ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau iaith myfyrwyr ar draws pob lefel.
Meddalwedd defnyddiol ar gyfer addysgu ar-lein
Gweithdy Sgiliau Addysgu ar gyfer myfyrwyr Ôl-radd
Amcanion y gweithdy · Gwybodaeth broffesiynol – datblygu eich gwybodaeth am y pwnc y byddwch yn ei ddysgu; · Gwybodaeth fethodolegol – cyflwyniad i theori sy'n sail i ddysgu ac arferion addysgu (arddulliau dysgu) · Sgiliau dynameg grŵp penodol – dynameg grŵp, strategaethau ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd; · Gwybodaeth sefydliadol – safonau a rheoliadau, rheolau ac arferion, normau a gwerthoedd. Cynnwys Bydd y gweithdy ar-lein wedi ei rannu yn bedair rhan: Rhan 1: Deall rhinweddau personol tiwtor o safon uchel Rhan 2: Dysgu'r sgiliau allweddol sy'n ymwneud â chynllunio gwaith addysgu Rhan 3: Dod yn gyfarwydd ag amrywiaeth o ddulliau addysgu gyda grwpiau bach Rhan 4: Dod i ddeall rhai egwyddorion allweddol sy’n ymwneud ag asesu. Cyflwynydd: Dyddgu Hywel Cefndir Astudiodd Dyddgu gwrs ‘BSc (Anrh.) Dylunio a Thechnoleg Addysg Uwchradd yn arwain at Statws Athro Cymwysedig’ ym Mhrifysgol Bangor a graddiodd gyda gradd dosbarth cyntaf. Bu’n ddarlithydd a thiwtor pwnc Dylunio a Thechnoleg Lefel A yng Ngholeg Meirion Dwyfor, cyn cael ei phenodi’n athrawes Dylunio a Thechnoleg yn Ysgol Gyfun Rhydywaun. Erbyn hyn, mae wrth ei bodd yn gweithio fel uwch-ddarlithydd Addysg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, ac mae yno ers dros saith mlynedd bellach. Mae’n arbenigo mewn defnydd effeithiol o ddulliau addysgu, ymgysylltu â myfyrwyr a’r defnydd o dechnoleg. Bydd y gweithdy hwn o fudd i fyfyrwyr ôl-radd sydd yn camu i’r byd addysgu am y tro cyntaf, ac eisiau datblygu ar lawr y dosbarth ac ar-lein wrth addysgu’n hyderus ac yn arloesol.
Newyddiaduraeth o Bedwar Ban Byd 2023
Sesiynau ar-lein sy'n trafod gwaith a phrofiadau newyddiadurwyr sydd yn, neu wedi gweithio dramor, a phwysigrwydd a rôl y Gymraeg yn ei gyrfa. Cyfle i fyfyrwyr, dysgwyr, disgyblion ac academyddion sydd yn ymddiddori mewn newyddiaduraeth i glywed gan lu o newyddiadurwyr a’i holi. SEMINARAU 2023: Illtud Dafydd, 31 Ionawr 2023 (GWYLIWCH Y RECORDIAD) Newyddiadurwr chwaraeon gyda'r asiantaeth newyddion ryngwladol Agence France-Presse ym Mharis. Megan Davies, 15 Chwefror 2023 (GWYLIWCH Y RECORDIAD) Newyddiadurwr sydd wedi gweithio i Vogue ym Mharis cyn dychwelyd i Gymru i weithio i BBC Cymru. Andy Bell, 15 Mawrth 2023 (GWYLIWCH Y RECORDIAD) Newyddiadurwr, cynhyrchydd a gohebydd sydd wedi gweithio yn y byd darlledu yn Awstralia am dros dri degawd ac yn ‘lais Awstralia’ i gyfryngau Cymraeg.
Ar-lên 2021-22: Sesiynau Adolygu Llenyddiaeth UG/Safon Uwch (Rhagfyr 2021 - Mawrth 2022)
Mae'r gweminarau adolygu byw hyn yn cael eu trefnu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer myfyrwyr blwyddyn 12 a 13 sy'n astudio Cymraeg Iaith Gyntaf UG/Safon Uwch. Bydd y sesiynau'n cael eu cynnal gan ddarlithwyr o adrannau Cymraeg prifysgolion Bangor, Aberystwyth, Abertawe a Chaerdydd, gyda'r bwriad o gyfoethogi eich dealltwriaeth o rai o'r testunau llenyddiaeth yr ydych yn eu hastudio yn y dosbarth. Bydd y sesiynau'n cael eu cynnal yn Gymraeg drwy Zoom rhwng 4.30-5.15pm ar brynhawniau Mercher, gyda'r sesiwn gyntaf ar nos Fercher 1 Rhagfyr 2021. 2021 1 Rhagfyr 2021: Dafydd ap Gwilym, Dr Dylan Foster Evans, Prifysgol Caerdydd (Bl.13) 8 Rhagfyr 2021: Gwerthfawrogi Rhyddiaith, Yr Athro Angharad Price, Prifysgol Bangor (Bl.13 + Bl.12) 2022 2 Chwefror 2022: Ymarfer Papur Gramadeg, Dr Alec Lovell, Prifysgol Abertawe (Bl.12) 9 Chwefror 2022: Hedd Wyn (Ffilm), Yr Athro Tudur Hallam, Prifysgol Abertawe (Bl.12) 16 Chwefror 2022: Branwen, Dr Aled Llion Jones, Prifysgol Bangor (Bl.13) 2 Mawrth 2022: Martha, Jac a Sianco (Caryl Lewis), Dr Bleddyn Owen Huws, Prifysgol Aberystwyth (Bl.13) 9 Mawrth 2022: Sul y Mamau yn Greenham (Menna Elfyn), Dr Rhiannon Marks, Prifysgol Caerdydd (Bl.12) 16 Mawrth 2022: Y Genhedlaeth Goll (Alan Llwyd), Yr Athro Mererid Hopwood, Prifysgol Aberystwyth Bydd y ddolen ar gyfer y digwyddiad yn cael ei hanfon atoch ar e-bost ar y diwrnod neu'r diwrnod cynt. Croeso i ddisgyblion, myfyrwyr, athrawon ac athrawon dan hyfforddiant. Ni fyddwn yn gallu eich gweld, ond bydd modd defnyddio'r botwm sgwrsio i gyfrannu neu ofyn cwestiwn. Cofiwch ddilyn cyfrif Twitter @CymraegCCC a chyfrif Instagram @instagymraeg am fwy o wybodaeth a newyddion am y Gymraeg fel Pwnc. I gofrestru, cliciwch ar y ddolen ffurflen gofrestru isod:
Astudio Cymraeg yn y brifysgol (Gweminar)
Gweminar Astudio Cymraeg yn y brifysgol Ym mlwyddyn 12 neu 13? Eisiau gwybod mwy am astudio Cymraeg fel pwnc yn y brifysgol? Dewch i gael mwy o wybodaeth am yr hyn sydd ar gael, ac i glywed barn ein llysgenhadon sy'n astudio'r pwnc am eu cyrsiau a'u bywyd fel myfyrwyr y Gymraeg. Cyflwyniad a recordiwyd ym mis Tachwedd 2021. Mae'n cynnwys: Cyflwyniad am astudio Cymraeg yn y brifysgol (hyd at 19 munud) e.e. Lle mae modd astudio? Beth sydd modd ei astudio - o ran cyrsiau a modiwlau? Pa gymorth ariannol sydd ar gael? Sgwrs rhwng ein llysgenhadon a myfyrwyr cyfredol am astudio Cymraeg yn y brifysgol (19 munud ymlaen) Cyflwyniad cyfrwng Cymraeg.
Adnoddau Iechyd a Lles
Yma, cewch fynediad at adnoddau iechyd a lles y gellid eu defnyddio mewn darlith, seminar neu mewn cyfarfod tiwtora personol. Yn cyd-fynd a phob adnodd, mae taflen cyfarwyddiadau i'r darlithydd Mae'r adnoddau yn cynnwys: Gweithgaredd 1: Yr Olwyn Lles Cyfarwyddiadau: Yr Olwyn Lles Gweithgaredd 2: Yr arf hunan-asesu lles Cyfarwyddiadau: Yr arf hunan-asesu lles Paratowyd y gwaith gan Dyddgu Hywel, Uwch Ddarlithydd Addysg, Prifysgol Metropolitan Caerdydd. Ffynonellau Cymorth Os oes gennych argyfwng meddygol, problem ddifrifol neu sy’n fygythiad i fywyd, ffoniwch 999 Os ydych yn gofidio am eich iechyd meddwl, y cam cyntaf i gael help yw dweud hyn wrth eich meddyg teulu. Ceir rhestr o linellau cymorth, elusennau a gwybodaeth defnyddiol ar wefan meddwl.org
Ymwybyddiaeth iaith a dwyieithrwydd mewn addysgu
Mae'r adnodd yn cynnwys pedwar cyflwyniad: Cyflwyniad 1 - Ymwybyddiaeth Iaith yng nghyd-destun Addysg Uwch Cyflwyniad 2 - Proffilio Grŵp Cyflwyniad 3 - Dwyieithogi darlith neu seminar Cyflwyniad 4 - Adnoddau i gefnogi addysgu dwyieithog Amcanion y gweithdy hwn yw: Cyflwyniad i ymwybyddiaeth iaith mewn addysg yng nghyd-destun addysg uwch. Datblygu dealltwriaeth o bwysigrwydd proffilio myfyrwyr a sut gellir defnyddio’r wybodaeth hyn i gynllunio darlithoedd a seminarau. Cyflwyniad i dechnegau amrywiol ac ymarferol er mwyn dwyieithogi darlith a seminar a chyfoethogi profiad iaith myfyrwyr mewn gwersi Saesneg. Rhannu adnoddau defnyddiol i gefnogi hyfforddeion i fewnosod y Gymraeg o fewn darlithoedd a seminarau. Cynnwys: Diweddariad o sefyllfa’r Gymraeg o ran polisïau ar lefel cenedlaethol yng nghyd-destun Addysg Uwch. Trosolwg o fanteision proffilio sgiliau iaith myfyrwyr (gallu, defnydd ac agweddau o’r Gymraeg) a sut gall hyfforddeion ddefnyddio’r wybodaeth hyn i gynllunio eu haddysgu a chreu cyfleodd i fyfyrwyr ddefnyddio a datblygu eu Cymraeg. Technegau amrywiol ac ymarferol er mwyn dwyieithogi darlith a seminar. Cyngor ar gynnwys termau allweddol Cymraeg mewn darlithoedd pennaf Saesneg. Trosolwg o adnoddau defnyddiol i gefnogi hyfforddeion i fewnosod y Gymraeg o fewn darlithoedd a seminarau (e.e. Y Termiadur Addysg, Ap Geiriaduron, Cysgliad). Ar ddiwedd y gweithdy hwn dylai hyfforddeion fod yn gallu: Dangos dealltwriaeth o ymwybyddiaeth iaith yng nghyd-destun addysg uwch ac effaith hyn ar barodrwydd myfyrwyr i ystyried cwblhau gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg. Bod yn ymwybodol o bwysigrwydd proffilio sgiliau iaith myfyrwyr, magu strategaethau i gasglu gwybodaeth am broffil iaith unigol myfyrwyr a defnyddio’r wybodaeth i gynllunio darlithoedd a seminarau. Defnyddio ystod eang o strategaethau er mwyn dwyieithogi darlithoedd a seminarau. Defnyddio ystod o adnoddau i fewnosod y Gymraeg o fewn darlithoedd a seminarau. Cyflwynwyr: Helen Humphreys, Sgiliaith Yn fentor a hyfforddwr dwyieithrwydd a’r Gymraeg mewn Addysg Bellach a Dysgu yn Seiliedig ar waith, mae fy swydd yn fy ngalluogi i ysbrydoli, rhannu syniadau, adnoddau ac arfer dda o fewn y sectorau yma. Wedi bod yn ddarlithydd gwbl ddwyieithog yng Ngholeg Sir Gâr, cefais gyfrifoldeb ychwanegol o fewn y coleg fel Mentor dysgu Staff yn yr Iaith Gymraeg. Bu’r rôl yma yn gyfle i rannu arferion da gyda staff y coleg, eu monitro a datblygu eu sgiliau o fewn y dosbarth cyn dod yn aelod o staff rhan amser ac yna llawn amser gyda Sgiliaith yn 2017. Sioned Williams, Sgiliaith Mae Sioned Williams yn Fentor a Hyfforddwr Datblygiad Proffesiynol i ganolfan Sgiliaith. Ei gwaith craidd yw darparu hyfforddiant staff, cefnogaeth a chyngor, adnoddau a rhannu arfer da o ran dwyieithrwydd a mewnosod y Gymraeg gyda darlithwyr, tiwtoriaid ac aseswyr yn y sector addysg bellach a dysgu yn seiliedig ar waith gyda’r nod o wella sgiliau a phrofiadau dysgwyr ym maes dwyieithrwydd.
Datblygu Gyrfa: Rhwydweithio Digidol ac Academaidd
Amcanion y gweithdy hwn yw: I gyflwyno rhwydweithio fel sgil bwysig ar gyfer datblygu gyrfa, ac i gynnig cymorth a chyngor ymarferol ar sut i fynd ati i rwydweithio mewn cyd-destun digidol ac academaidd. Cynnwys: Yn y gweithdy hwn, byddwn yn edrych ar beth yw rhwydweithio, a sut i fynd ati i ddefnyddio dulliau rhwydweithio i’ch helpu i gynllunio, ymchwilio a datblygu’ch gyrfa. Bydd y gweithdy yn egluro sut i ddefnyddio amryw o wahanol wefannau cymdeithasol mewn cyd-destun academaidd a phroffesiynol, gan ganolbwyntio yn benodol ar ddefnyddio LinkedIn, a gwneud y mwyaf o’r potensial mae’r safle yn ei gynnig i fyfyrwyr a graddedigion. Ar ddiwedd y gweithdy hwn dylai hyfforddeion fod yn gallu: Teimlo’n hyderus am ddatblygu a defnyddio rhwydweithiau academaidd a phroffesiynol Deall potensial gwahanol wefannau cymdeithasol ar gyfer rhwydweithio gyrfaol Creu proffil LinkedIn effeithiol a deall sut i wneud y mwyaf o wahanol nodweddion y safle. Cyflwynydd: Mari Gwenllian Price Mae Mari yn gweithio i’r Adran Gyflogadwyedd ym Mhrifysgol Bangor ers bron i ddeg mlynedd ac yn cynnig cyngor gyrfaol a sesiynau o fewn y cwricwlwm fel rhan o’i rôl. Mae hi hefyd yn gweithio ar gynlluniau lleoliadau gwaith yn y Brifysgol, ac yn un o arweinwyr y Wobr Gyflogadwyedd. Mae Mari wedi cwblhau MA mewn Addysg a Chyngor Gyrfaol o fewn addysg uwch drwy Brifysgol Warwick, ac wedi edrych mewn i ddiddordebau gyrfaol myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg fel maes ymchwil ei thraethawd hir.
Tiwtora a Mentora: taith y tiwtor a’r myfyriwr
Amcanion y gweithdy hwn yw: Deall pwy yw’r tiwtor personol? Cyflwyno rhai o brif egwyddorion tiwtora personol Ystyried y gefnogaeth sydd ar gael i diwtoriaid personol ar lefel leol (e.e. yn eich Ysgol / Adran) ac yn y sefydliad Cynnwys: Mae tiwtora personol yn ganolog i brofiadau myfyrwyr ac mae rhaglenni tiwtora personol yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr dderbyn arweiniad, cyngor a chymorth ar bob math o bethau yn ystod eu taith academaidd yn y brifysgol. Mae taith pob unigolyn yn un wahanol ac mae disgwyl i raglenni tiwtora personol ddiwallu anghenion gwahanol fathau o fyfyrwyr ynghyd ag ymateb i brosesau a gweithdrefnau ar lefel sefydliadol. Mae’r gweithdy hwn yn cynnig cyfle i ystyried rhai o’r prif egwyddorion sydd wrth wraidd rôl y tiwtor personol gan gyfeirio at rai disgwyliadau a chamau ymarferol y gall y tiwtor eu cymhwyso i’w rôl. Ar ddiwedd y gweithdy hwn dylai hyfforddeion fod yn gallu: Diffinio rhai o brif nodweddion rôl y tiwtor personol Adnabod yr hyn y mae angen i diwtoriaid personol ei ystyried wrth diwtora Ystyried ffyrdd i gefnogi myfyrwyr mewn gwahanol sefyllfaoedd a chyd-destunau Ystyried ffyrdd i deilwra sesiynau tiwtora er mwyn diwallu anghenion Ystyried pwysigrwydd rhwydweithio a chreu partneriaeth â myfyrwyr er mwyn datblygu dulliau tiwtora effeithiol Ystyried ffyrdd y gall myfyrwyr gyfrannu at y broses diwtora Adnabod yr hyn sydd ar gael i gefnogi tiwtoriaid personol Cyflwynydd: Dr Angharad Naylor Mae Dr Angharad Naylor yn Uwch-ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Mae’n Gyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu ac yn Diwtor Personol Hŷn.
Defnyddio meddalwedd recordio Panopto
Mae’r gyfres hon yn esbonio sut mae defnyddio meddalwedd Panopto, gan gynnwys sut i fynd ati i recordio, sut i olygu, sut i rannu’r clipiau fideo ag eraill a sut i ddefnyddio Panopto ar gyfer asesu. Mae'r adnodd yn cynnwys: Cyflwyniad - Cyflwyniad byr ar ffurf fideo yn esbonio beth yw’r meddalwedd recordio Panopto ac ar gyfer beth mae’n cael ei ddefnyddio. Cychwyn arni: Lawrlwytho’r recordydd Panopto -Sut i lawrlwytho’r recordydd Panopto ar gyfer Windows Paratoi eich safle Blackboard - Sut i baratoi eich safle Blackboard ar gyfer defnyddio Panopto (cwrs gwreiddiol a chwrs ultra) Creu eich recordiad cyntaf - Sut i fynd ati i recordio Golygu syml - Sut i fynd ati i olygu dechrau a diwedd recordiad a thynnu rhan o ganol recordiad Copïo recordiad o un ffolder i un arall - Sut i gopïo recordiad o un ffolder Panopto i un arall Symud recordiad o un ffolder i un arall - Sut i symud recordiad o un ffolder Panopto i un arall Is-deitlau - Sut i olygu neu ddileu’r is-deitlau Gosod y recordiad o fewn strwythur modiwl - Sut i osod dolen i recordiad Panopto o fewn Blackboard (safle yn y wedd wreiddiol) Gosod y recordiad o fewn strwythur modiwl - Sut i osod dolen i recordiad Panopto o fewn Blackboard (safle Ultra) Panopto ar gyfer asesu: Creu ffolder aseiniadau - Sut i greu ffolder aseiniadau o fewn eich safle Blackboard i alluogi myfyrwyr gyflwyno gwaith ar ffurf fideo Uwchlwytho fideo i'r ffolder aseiniadau - Fideo i fyfyrwyr ar sut i uwchlwytho ffeil i’r ffolder aseiniadau Gosod cwis o fewn recordiad - Creu a gosod cwisiau o fewn recordiad - Dogfen Sway Rhannu recordiad gydag eraill - Sut i rannu fideo ag eraill a hawliau gwylio Cyflwynydd: Bethan Wyn Jones Mae Bethan Wyn Jones yn Uwch Dechnolegydd Dysgu ym Mhrifysgol Bangor ac hefyd ar secondiad rhan-amser gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol fel technolegydd e-ddysgu. Mae ganddi dros 18 mlynedd o brofiad yn gweithio ym maes e-ddysgu ac yn benodol ar y defnydd o dechnoleg dysgu fel cyfrwng i hyrwyddo darpariaeth cyfrwng Cymraeg o fewn Addysg Uwch.
Gweithdai Iechyd 2021 (Mai 2021)
Cyfres o bedwar gweithdy rhithiol i fyfyrwyr blwyddyn 12, neu flwyddyn gyntaf mewn colegau addysg bellach, sydd â diddordeb mewn Nyrsio, Bydwreigiaeth, Therapi Iaith a Lleferydd, Ffisiotherapi a Fferylliaeth. Dyma gyfle i ddysgu mwy am y swyddi hyn, a'r gwasanaeth iechyd yn gyffredinol, yn ogystal â derbyn cyngor ar sut i ymgeisio'n llwyddiannus. Bydd y gweithdai yn cael eu cynnal yn wythnosol ym mis Mai rhwng 4.30-6.00 pm. 5 Mai 2021 - Taith Iechyd teulu Brynglas (cyflwyniad i'r gwasanaeth iechyd) 12 Mai 2021 - Nyrsio a Bydwreigiaeth 19 Mai 2021 - Therapi Iaith a Lleferydd, Ffisiotherapi a Fferylliaeth 26 Mai 2021 - Sut i ymgeisio'n llwyddiannus ar gyrsiau iechyd I gofrestru, cliciwch isod:
Datblygu gweithlu a chymunedau dwyieithog y dyfodol
Cynhaliwyd digwyddiad ar y cyd â ColegauCymru ar ffurf weminar Zoom, gyda gwleidyddion o’r dair prif blaid yng Nghymru i drafod cyfraniad y sector ôl-16 at y nod o greu gweithlu a chymunedau dwyieithog a miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Roedd y digwyddiad yn rhoi cyfle i glywed yr hyn y mae’r pleidiau yn ymrwymo i wneud er mwyn symud y gwaith o ran datblygu dwyieithrwydd y sector ôl-16 yn ei blaen yn ystod tymor nesaf y Senedd yn ogystal â blaenoriaethau’r Coleg Cymraeg a ColegauCymru. Gallwch wylio'r sesiwn wrth glicio ar y ddolen isod:
