Cynlluniwyd yr adnoddau hyn i gynorthwyo tiwtoriaid i feithrin eu sgiliau addysgu dwyieithog a chynyddu eu hymwybyddiaeth o Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR) a’r set ddata LA26. Defnyddir y set ddata i gofnodi darpariaeth Gymraeg a dwyieithog yn y sector addysg ôl-16 yng Nghymru. Nod yr adnoddau yw rhoi hyder i diwtoriaid yn y ffordd y cofnodir gweithgarwch a gwblhawyd yn y Gymraeg neu’n ddwyieithog ar y LLWR, a’u helpu i ganfod ble mae eu darpariaeth ar hyn o bryd. Fe’u cynlluniwyd hefyd i roi cyngor ymarferol i diwtoriaid ar sut i symud eu haddysgu i fyny’r continwwm dwyieithrwydd. Mae’r pecyn yn cynnwys: Llawlyfr - dogfen waith y gellir ei defnyddio i gyfeirio ati, yn ogystal ag i sefydlu targedau personol penodol ar gyfer cynyddu’r ddarpariaeth Gymraeg/dwyieithog. Cwrs e-ddysgu ar-lein - Deall Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR). Mae’r modiwl dysgu ar-lein rhyngweithiol hwn yn rhoi trosolwg o Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR) a sut y caiff ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru i gofnodi darpariaeth Gymraeg a dwyieithog yn y sector addysg ôl-16 yng Nghymru. Ap geirfa ddwyieithog Sgiliaith - ‘Ap Adborth Sgiliaith’ - Yn yr ap hwn ceir ystod eang o eiriau ac ymadroddion cyffredinol y gall tiwtoriaid eu defnyddio i roi adborth a phrofiadau Cymraeg/ dwyieithog i ddysgwyr. Mae dolenni i'r adnoddau ar gael isod ac maent hefyd ar gael ar wefan Sgiliaith sgiliaith@gllm.ac.uk
Pecyn Cefnogi Tiwtoriaid Addysg Bellach
Plastro
Mae’r adnodd hwn ar gyfer dysgwyr a phrentisiaid sy’n astudio cymhwyster Lefel 2 Plastro Soled, ynghyd â’r staff sy’n eu cefnogi. Mae’r adnodd rhyngweithiol dwyieithog hwn yn cynnwys gwybodaeth, gweithgareddau ac adnoddau dysgu ar draws y tair uned ganlynol: 225: Gwybodaeth graidd am blastro soled 226: Creu gorffeniadau plastro soled mewnol 227: Gosod rendr soled ar arwynebau cefndir a chreu gorffeniadau. Nod yr adnodd yw cefnogi dysgwyr yn eu hastudiaethau a’u hannog i ddefnyddio cymaint o’r cynnwys â phosibl drwy gyfrwng y Gymraeg.
Gosod Brics
Mae’r adnodd hwn ar gyfer dysgwyr a phrentisiaid sy’n astudio cymhwyster Lefel 2 Gosod Brics, ynghyd â’r staff sy’n eu cefnogi. Mae’r adnodd rhyngweithiol dwyieithog hwn yn cynnwys gwybodaeth, gweithgareddau ac adnoddau dysgu ar draws y tair uned ganlynol: 204: Gwybodaeth graidd gosod brics 205: Gosod allan i godi strwythurau gwaith maen 206: Gosod strwythurau gwaith maen. Nod yr adnodd yw cefnogi dysgwyr yn eu hastudiaethau a’u hannog i ddefnyddio cymaint o’r cynnwys â phosibl drwy gyfrwng y Gymraeg.
Gwaith Coed
Mae’r adnodd hwn ar gyfer dysgwyr a phrentisiaid sy’n astudio cymhwyster Lefel 3 Gwaith Coed ar y Safle, ynghyd â’r staff sy’n eu cefnogi. Mae’r adnodd rhyngweithiol dwyieithog hwn yn cynnwys gwybodaeth, gweithgareddau ac adnoddau dysgu ar draws y ddwy uned ganlynol: 314: Gosod cydrannau cymhleth y ffics cyntaf a’r ail ffics 315: Codi cydrannau fframwaith strwythur y to. Nod yr adnodd yw cefnogi dysgwyr yn eu hastudiaethau a’u hannog i ddefnyddio cymaint o’r cynnwys â phosibl drwy gyfrwng y Gymraeg.
Plymio
Mae’r adnodd hwn ar gyfer dysgwyr a phrentisiaid sy’n astudio cymhwyster Lefel 2 Plymio, ynghyd â’r staff sy’n eu cefnogi. Mae’r adnodd rhyngweithiol dwyieithog hwn yn cynnwys gwybodaeth, gweithgareddau ac adnoddau dysgu ar draws y pedair uned ganlynol: 205PH: Deall Egwyddorion Gwyddonol 207PH: Deall Systemau Dŵr Oer 208PH: Deall Systemau Dŵr Poeth 209PH: Deall Systemau Gwres Canolog Nod yr adnodd yw cefnogi dysgwyr yn eu hastudiaethau a’u hannog i ddefnyddio cymaint o’r cynnwys â phosibl drwy gyfrwng y Gymraeg.
Adeiladwaith
Mae’r adnodd hwn ar gyfer dysgwyr a phrentisiaid sy’n astudio cymwysterau Adeiladwaith Lefel 3, ynghyd â’r staff sy’n eu cefnogi. Mae’n cynnig cyfle i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o wahanol agweddau ar y diwydiant adeiladu, o arferion adeiladu, iechyd, diogelwch a lles i’r sector hwn yng Nghymru. Mae’r adnodd rhyngweithiol dwyieithog hwn yn cynnwys gwybodaeth, gweithgareddau ac adnoddau dysgu ar draws y pum uned ganlynol: 301: Deall Arferion Adeiladu yng Nghymru 302: Gweithio yn y Sector Adeiladu yng Nghymru 304: Cydymffurfio ag iechyd, diogelwch a lles cyffredinol yn y gweithle 305: Cydymffurfio ag arferion gwaith cynhyrchiol 306: Symud, trin neu storio adnoddau. Nod yr adnodd yw cefnogi dysgwyr yn eu hastudiaethau a’u hannog i ddefnyddio cymaint o’r cynnwys â phosibl drwy gyfrwng y Gymraeg.
Ap Adeiladu trwy'r Gymraeg
Nod yr ap hwn yw cefnogi dysgwyr, prentisiaid a gweithwyr sydd angen cefnogaeth i allu defnyddio’r Gymraeg yn hyderus mewn sefyllfaoedd proffesiynol sy’n ymwneud â maes Adeiladu. Mae'r ap wedi'i rannu mewn i'r adrannau canlynol: Cyffredinol Sgwrsio Adeiladu Gwaith Brics Plastro Soled Plymio Trydan Iechyd a Diogelwch Cymorth Cyntaf Anafiadau Gorchmynion Gyrfaoedd mewn adeiladu Offer
Cynhyrchu Cig
Gwefan cynhyrchu cig oen a chig eidion ar gyfer dysgwyr sy’n astudio cymwysterau Amaethyddiaeth Lefelau 2 a 3. Yma, cewch ddysgu am wahanol agweddau o’r diwydiant cynhyrchu cig, o faterion rheoli cyllid a busnes i fridiau addas a systemau gwahanol. Ewch ati i bori! Mae'r wefan yn cynnwys saith uned ar gynhyrchu cig eidion: Trosolwg o Ddiwydiant Cig Eidion y DU Bridiau Gwartheg Cig Eidion System Buchod Sugno a Ffynonellau Gwartheg Stôr Cyflwyniad i Systemau Pesgi Gwartheg Cig Eidion Rheoli Ffrwythlondeb Buches a Buchod Cyfnewid Iechyd a Lles Gwartheg Cig Eidion Ystyriaethau Busnes Wrth Ffermio Cig Eidion a saith uned cynhyrchu cig oen: Trosolwg o Ddiwydiant Cig Oen y DU Bridiau a’r System Haenedig Dysgu am Ddefaid Blwyddyn y Bugail Y Farchnad Ŵyn Prif Dasgau Hwsmonaeth Defaid Ystyriaethau Busnes Wrth Ffermio Defaid
Matiau Iaith
Dyma gasgliad o fatiau iaith sy’n gallu eu defnyddio gan athrawon profiadol, athrawon newydd gymhwyso, a myfyrwyr TAR i ddatblygu geirfa ac iaith disgyblion o fewn pynciau uwchradd. Bwriad y matiau iaith yw codi hyder a chynyddu capasiti unigolion i ddefnyddio’r Gymraeg yn hyderus wrth addysgu eu pwnc yn yr ysgol uwchradd. Mae matiau wedi eu datblygu ar gyfer y pynciau canlynol: Cymraeg Ail Iaith Ieithoedd: Ffrangeg Bioleg Cemeg Ffiseg Technoleg Digidol Dylunio a Thechnoleg
Cit Chwaraeon
Casgliad o adnoddau e-ddysgu Chwaraeon wedi'u teilwra ar gyfer dysgwyr ar Lefel 2. Ceir gwybodaeth ymarferol am sut i gynllunio a rhedeg sesiwn, y gwahanol swyddi a chyfrifoldebau yn y byd chwaraeon, cyngor defnyddiol a chip ar fywyd bob dydd amrywiaeth o bobl broffesiynol yn y maes. Mae'r adnodd wedi'i rannu yn dair uned: Cynllunio a Chyflawni Sesiwn Chwaraeon Rolau a chyfrifoldebau Staff Chwaraeon a Hamdden Gweithio yn y Diwydiant Chwaraeon
Pecyn Prentis
Siop un stop ar gyfer cyflogwyr i gefnogi prentisiaid dwyieithog a’r Gymraeg. Mae Pecyn Prentis yn adnodd digidol cynhwysfawr wedi’i lunio er mwyn helpu cyflogwyr i recriwtio, datblygu a chefnogi prentisiaid sy’n defnyddio’r Gymraeg. Yma, cewch gyfuniad gwerthfawr o wybodaeth gyfredol, cyngor arbenigol ac adnoddau ymarferol sy’n addas ar gyfer pob cam o’r daith brentisiaeth. O ddarparwyr prentisiaethau i gymorth gyda’r iaith Gymraeg a chyngor gyrfa, mae’r adnodd yn cwmpasu’r cyfan. Mae'n cynnwys astudiaethau achos ysbrydoledig, clipiau fideo bywiog a storïau o lwyddiant gan brentisiaid cyfredol neu sydd newydd gymhwyso, yn ogystal â chan eu cyflogwyr. Boed yn gyflogwr newydd i fyd prentisiaethau neu’n sefydliad profiadol, mae Pecyn Prentis yn cynnig gwir fewnwelediad go-iawn, enghreifftiau o arfer dda, a chefnogaeth benodol er mwyn galluogi pob prentis i ffynnu mewn amgylchedd dwyieithog.
Cyflwyniad i yrfa mewn Therapi Iaith a Lleferydd
Bwriad yr adnodd hwn yw: Rhoi gwybodaeth i fyfyrwyr am broffesiwn Therapi Iaith a Lleferydd Egluro beth yw cyfathrebu a phwysigrwydd y proffesiwn wrth gefnogi unigolion gydag anghenion cyfathrebu Rhoi blas ar seminar lefel blwyddyn gyntaf yn y brifysgol Mae’r adnodd hwn wedi ei ddatblygu ar y cyd gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol Wrecsam gyda chefnogaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
