Gweminar Astudio Cymraeg yn y brifysgol Ym mlwyddyn 12 neu 13? Eisiau gwybod mwy am astudio Cymraeg fel pwnc yn y brifysgol? Dewch i gael mwy o wybodaeth am yr hyn sydd ar gael, ac i glywed barn ein llysgenhadon sy'n astudio'r pwnc am eu cyrsiau a'u bywyd fel myfyrwyr y Gymraeg. Cyflwyniad a recordiwyd ym mis Tachwedd 2021. Mae'n cynnwys: Cyflwyniad am astudio Cymraeg yn y brifysgol (hyd at 19 munud) e.e. Lle mae modd astudio? Beth sydd modd ei astudio - o ran cyrsiau a modiwlau? Pa gymorth ariannol sydd ar gael? Sgwrs rhwng ein llysgenhadon a myfyrwyr cyfredol am astudio Cymraeg yn y brifysgol (19 munud ymlaen) Cyflwyniad cyfrwng Cymraeg.
Astudio Cymraeg yn y brifysgol (Gweminar)
150 Adnodd Newydd
Datganiad i'r Wasg: Mae 150 o adnoddau newydd wedi eu cyhoeddi ar y Porth Adnoddau, gwefan adnoddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, er mwyn cefnogi darlithwyr ac ymarferwyr mewn colegau addysg bellach a hyfforddwyr yn y maes prentisiaethau. Bydd yr adnoddau yn cefnogi’r addysgwyr i gynnig darpariaeth Gymraeg a dwyieithog i bob dysgwr a phrentis beth bynnag eu sgiliau Cymraeg yn unol ag amcanion y Cynllun Gweithredu Addysg Bellach a Phrentisiaethau Cymraeg a lansiwyd gan y Llywodraeth yn 2019. Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi arwain prosiect cenedlaethol i greu a diweddaru dros 150 o adnoddau digidol Cymraeg a dwyieithog ar draws pedwar pwnc blaenoriaeth sef Iechyd a Gofal, Gofal Plant, Gwasanaethau Cyhoeddus ac Amaeth. Ariannwyd y prosiect yn dilyn grant gwerth £150,000 gan Lywodraeth Cymru. Ar hyn o bryd, canran isel iawn o weithgareddau dysgu yn y sector ôl-16 sy’n digwydd drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog ond mae’r Cynllun Gweithredu yn anelu at gynnydd sylweddol dros y blynyddoedd i ddod. Mae sicrhau bod adnoddau addas ar gael i ymarferwyr, darlithwyr a hyfforddwyr yn allweddol i wireddu amcanion y cynllun yn enwedig o gofio mai canran gymharol isel o’r gweithlu sy’n ystyried eu hunain yn siaradwyr Cymraeg. Yn ôl rheolwr y prosiect, Dr Lowri Morgans sy’n Reolwr Academaidd gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, bydd y prosiect yn cael effaith bellgyrhaeddol ar amcanion Strategaeth Cymraeg 2050 y Llywodraeth i “ddatblygu darpariaeth addysg ôl-orfodol sy’n cynyddu cyfraddau dilyniant ac yn cefnogi pawb, ni waeth pa mor rhugl eu Cymraeg, i ddatblygu sgiliau yn yr iaith i’w defnyddio’n gymdeithasol ac yn y gweithle.” Meddai Dr Morgans: “Nod y prosiect yw sicrhau bod adnoddau dysgu cyfunol o’r radd flaenaf ar gael yn ddwyieithog neu drwy gyfrwng Cymraeg o Lefel 1 i 3 ar draws y meysydd blaenoriaeth. “Mae ein cydlynwyr pwnc sy’n arbenigwyr profiadol yn eu meysydd wedi cydweithio gydag arbenigwyr e-ddysgu i sicrhau bod yr adnoddau sydd wedi eu datblygu yn cwrdd ag anghenion darlithwyr ac ymarferwyr yng Nghymru ac yn llenwi’r bylchau a adnabuwyd o ran diffyg adnoddau Cymraeg a dwyieithog.” I gefnogi prentisiaid yn benodol, mae’r Coleg wedi comisiynu “Prentis-iaith ar Lefel Dealltwriaeth”. Mae’r adnodd yn cefnogi hyfforddeion sydd yn meddu ar rywfaint o ddealltwriaeth o’r Gymraeg i ddatblygu eu sgiliau ymhellach ac yn dilyn llwyddiant y fersiwn wreiddiol, “Prentis-iaith ar Lefel Ymwybyddiaeth”, a gomisiynwyd yn flaenorol ar gyfer datblygu ymwybyddiaeth iaith sydd wedi cael ei lawrlwytho o’r Porth Adnoddau dros 11,000 o weithiau. Mae 14 o adnoddau wedi eu creu a’u diweddaru yn y maes Gofal Plant gan gynnwys Posteri Geirfa Ddwyieithog Gofal Plant. Yn ôl Joanne DeBurgh sy’n ddarlithydd Gofal Plant yng Ngholeg Penybont: “Rydyn ni wedi argraffu’r holl bosteri ar bapur A3 ac mae’n nhw wedi cael eu gosod ym mhob ystafell ddosbarth. Hefyd, yn yr adran Gofal Plant, mae copïau A5 wedi cael eu rhoi yn llyfrau'r myfyrwyr er mwyn helpu gydag unrhyw dasgau ble mae angen y termau yn y Gymraeg. “Mae pob adnodd wedi bod yn ddefnyddiol. Rydyn ni angen adnoddau dwyieithog gan nad oes gennym ni lawer o fyfyrwyr sydd yn dod o ysgolion neu deuluoedd Cymraeg.” Mae 16 o adnoddau wedi eu creu a’u diweddaru yn y maes Iechyd a Gofal. Yn ôl Moli Harrington sy’n ddarlithydd Iechyd a Gofal yng Ngholeg Merthyr Tudful: “Mae'n wych gweld bod y Coleg Cymraeg nid yn unig wedi comisiynu adnoddau o'r newydd, ond hefyd wedi cymryd yr amser i gasglu a diweddaru cyflwyniadau roedd staff y sector wedi'u creu yn barod. Mae rhannu adnoddau ymysg gwahanol Golegau yn hwyluso addysgu dwyieithog o fewn y maes Iechyd a Gofal ar draws Cymru ac yn rhoi mwy o amser i ni ganolbwyntio ar ein dysgwyr. Edrychaf ymlaen at weld pa adnoddau bydd yn cael eu rhoi ar Borth Adnoddau'r Coleg Cymraeg nesaf.” Mae 62 o adnoddau wedi eu creu a’u diweddaru yn y maes Gwasanaethau Cyhoeddus gan gynnwys 60 uned ddysgu rhyngweithiol. Yn ôl Carolann Healy sy’n ddarlithydd Gwasanaethau Cyhoeddus yng Ngholeg Sir Gâr: “Mae’n wych gweld bod fersiynau dwyieithog o adnoddau Gwasanaethau Cyhoeddus y BLC ar gael ac maen nhw wedi cael derbyniad da gan y myfyrwyr a’r darlithwyr. Mae’r Gymraeg nawr yn cryfhau ei hun fel iaith normal a naturiol yn ein colegau addysg bellach ac yn paratoi gweithlu sy’n ddwyieithog. Mae’r adnoddau yma hefyd yn ffordd o gryfhau sgiliau iaith myfyrwyr mewn meysydd newydd ac i rai sydd efallai heb ymarfer yr iaith ers dyddiau ysgol.” Mae 63 o adnoddau wedi eu creu a’u diweddaru yn y maes Amaeth gan gynnwys adnodd iechyd anifeiliaid ar y fferm a gafodd ei ddiweddaru. Yn ôl David John sy’n ddarlithydd Amaeth yng Ngholeg Penybont: “Mae'r adnoddau yn rhagorol ac yn help mawr yn y wers yn enwedig i gyflwyno pwnc newydd. Rydw i’n hoff iawn eich bod yn gallu toglo rhwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hawdd.” Gellid dod o hyd i’r holl adnoddau newydd drwy ddilyn y ddolen isod.
Esboniadur Tirfesureg
Adnodd hawdd i'w ddefnyddio sy’n cynnwys diffiniadau ac esboniadau o dermau sy’n ymwneud â phwnc Tirfesureg. Mae’r adnodd ar gyfer nifer o wahanol ddefnyddwyr, gan gynnwys myfyrwyr prifysgol, dysgwyr mewn colegau addysg bellach a gweithwyr yn y sector adeiladu a thirfesureg. Bydd o fudd i’r sector cyhoeddus yng Nghymru o ran terminoleg sy’n berthnasol i gynlluniau datblygu lleol a cheisiadau cynllunio. Mae’r cofnodion wedi’u rhannu’n ddau gategori, sef tirfesureg pur a thirfesureg tir ac eiddo. Mae’r adnodd yn ffrwyth gwaith Adran Amgylchedd Adeiledig Prifysgol De Cymru.
Barod ar gyfer Prifysgol
Mae Barod ar gyfer Prifysgol yn hwb sy'n hawdd ei ddefnyddio, p'un a ydych ar fin symud ymlaen i addysg lefel prifysgol, neu'n cefnogi rhywun sy'n gwneud hynny - efallai fel rhiant, athro, gofalwr neu gynghorydd. Gallwch chwilio yn ôl pwnc – fel sgiliau astudio, llesiant ac iechyd meddwl, neu fywyd myfyrwyr – yn ôl sefydliad, ac yn ôl maes pwnc, fel y gallwch fod yn siŵr o fynd yn syth i'r adnoddau sydd eu hangen arnoch.
Tregyrfa
Adnodd digidol sy'n cynnwys gwybodaeth am swyddi a chyfleoedd yn y maes iechyd a gofal yng Nghymru. Datblygwyd gwefan Tregyrfa gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC). Bwriad Tregyrfa yw rhannu gwybodaeamth am y cyfoeth o gyfleoedd gwaith sydd ar gael o fewn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'r maes gofal.
Cyflwyno'r Gymraeg: Lefel 3 Gwasanaethau Amddiffyn sydd â Gwisg Swyddogol
Casgliad o adnoddau i gefnogi addysgwyr sy’n dymuno cyflwyno mwy o Gymraeg wrth addysgu'r cwrs Lefel 3 Gwasanaethau Amddiffyn sydd â Gwisg Swyddogol yw’r adnodd hwn. Mae'r casgliad wedi'i greu er mwyn cefnogi addysgwyr wrth iddynt gynllunio a gosod gweithgareddau gwaith dosbarth neu dystiolaeth yn seiliedig ar sgiliau Cymraeg y dysgwyr. Mae’r casgliad yn cynnwys: • canllaw er mwyn esbonio sut mae defnyddio’r adnodd. • dogfennau 'Mapio’r Cyfleoedd i gyflwyno’r Gymraeg' fesul uned craidd. • posteri dwyieithog gyda thermau allweddol ar gyfer pob uned.
Cyflwyno'r Gymraeg: Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd
Casgliad o adnoddau i gefnogi addysgwyr sy’n dymuno cyflwyno mwy o Gymraeg wrth addysgu'r cwrs Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plentyn: Craidd yw’r adnodd hwn. Mae'r casgliad wedi'i greu er mwyn cefnogi addysgwyr wrth iddynt gynllunio a gosod gweithgareddau gwaith dosbarth neu dystiolaeth yn seiliedig ar sgiliau Cymraeg y dysgwyr. Mae’r casgliad yn cynnwys: • canllaw er mwyn esbonio sut mae defnyddio’r adnodd. • dogfennau 'Mapio’r Cyfleoedd i gyflwyno’r Gymraeg' fesul uned craidd. • posteri dwyieithog gyda thermau allweddol ar gyfer pob uned. • adnodd sy’n darparu syniadau i ddysgwyr er mwyn ddefnyddio’r Gymraeg ar leoliadau gwaith.
Dysgu Rhannau'r Corff
Adnodd rhyngweithiol byr sy'n cyflwyno rhannau o'r corff i ddefnyddwyr yn Gymraeg. Mae cyfle i ymarfer labeli'r corff ac i ddysgu am y termau lluosog.
Arddangosfa Golwg ar Gelf
Arddangosfa arbrofol yw 'Golwg ar Gelf' sy'n gyfle i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg, sydd yn astudio ar draws meysydd Celf a Dylunio, rannu eu gwaith yn rithiol.
Mentimeter
Dyma weithdy i'ch rhoi chi ar ben ffordd wrth ddefnyddio gwefan Mentimeter yn hyderus yn eich addysgu fel ffordd o ymgysylltu a'ch myfyrwyr. www.mentimeter.com Bydd y gweithdy hwn o fudd i unrhyw un sydd am ddatblygu ac adeiladu ar ddulliau addysgu ar-lein, dysgu arloesol, cyflwyno ar-lein ac ymgysylltu gyda myfyrwyr. Cefndir Hyfforddwr: Mae'r sesiwn hon yn cael ei harwain gan Dyddgu Hywel. Astudiodd Dyddgu gwrs ‘BSc (Anrh.) Dylunio a Thechnoleg Addysg Uwchradd yn arwain at Statws Athro Cymwysedig’ ym Mhrifysgol Bangor, graddiodd gyda gradd dosbarth cyntaf. Bu’n ddarlithydd a thiwtor pwnc Dylunio a Thechnoleg Lefel A yng Ngholeg Meirion Dwyfor, cyn cael ei phenodi’n athrawes Dylunio a Thechnoleg yn Ysgol Gyfun Rhydywaun. Mae wrth ei bodd yn gweithio fel uwch ddarlithydd Addysg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd erbyn hyn, ac yno ers dros saith mlynedd bellach, gyda’i arbenigedd mewn defnydd effeithiol o ddulliau addysgu, ymgysylltu a myfyrwyr a’r defnydd o dechnoleg.
Tiwtora a Mentora: taith y tiwtor a’r myfyriwr
Amcanion y gweithdy hwn yw: Deall pwy yw’r tiwtor personol? Cyflwyno rhai o brif egwyddorion tiwtora personol Ystyried y gefnogaeth sydd ar gael i diwtoriaid personol ar lefel leol (e.e. yn eich Ysgol / Adran) ac yn y sefydliad Cynnwys: Mae tiwtora personol yn ganolog i brofiadau myfyrwyr ac mae rhaglenni tiwtora personol yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr dderbyn arweiniad, cyngor a chymorth ar bob math o bethau yn ystod eu taith academaidd yn y brifysgol. Mae taith pob unigolyn yn un wahanol ac mae disgwyl i raglenni tiwtora personol ddiwallu anghenion gwahanol fathau o fyfyrwyr ynghyd ag ymateb i brosesau a gweithdrefnau ar lefel sefydliadol. Mae’r gweithdy hwn yn cynnig cyfle i ystyried rhai o’r prif egwyddorion sydd wrth wraidd rôl y tiwtor personol gan gyfeirio at rai disgwyliadau a chamau ymarferol y gall y tiwtor eu cymhwyso i’w rôl. Ar ddiwedd y gweithdy hwn dylai hyfforddeion fod yn gallu: Diffinio rhai o brif nodweddion rôl y tiwtor personol Adnabod yr hyn y mae angen i diwtoriaid personol ei ystyried wrth diwtora Ystyried ffyrdd i gefnogi myfyrwyr mewn gwahanol sefyllfaoedd a chyd-destunau Ystyried ffyrdd i deilwra sesiynau tiwtora er mwyn diwallu anghenion Ystyried pwysigrwydd rhwydweithio a chreu partneriaeth â myfyrwyr er mwyn datblygu dulliau tiwtora effeithiol Ystyried ffyrdd y gall myfyrwyr gyfrannu at y broses diwtora Adnabod yr hyn sydd ar gael i gefnogi tiwtoriaid personol Cyflwynydd: Dr Angharad Naylor Mae Dr Angharad Naylor yn Uwch-ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Mae’n Gyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu ac yn Diwtor Personol Hŷn.
Adnodd Gofal Anifeiliaid
Mae’r adnodd rhyngweithiol hwn wedi ei gynllunio i roi gwybodaeth am y sgiliau sylfaenol a gwybodaeth sydd eu hangen er mwyn gofalu’n briodol am amrywiaeth eang o anifeiliaid. Mae'r cynnwys wedi ei rannu i gyfres o unedau sy'n canolbwyntio ar grwpiau gwahanol o anifeiliaid. Mae'r unedau yn pwysleisio anghenion rhywogaethau o fewn amrediad o gategorïau. Fel cyfanwaith, mae’r cwrs byr hwn yn cyflwyno agweddau allweddol ar sut i ofalu am anifail, ac yn dangos sut i ddefnyddio’r sgiliau a gwybodaeth angenrheidiol er mwyn cynnal iechyd a lles yr anifail.
