Mae gan yr iaith Gymraeg sawl nodwedd yn ei gramadeg sy'n anghyffredin iawn ar draws ieithoedd. Mae'r papur hwn yn edrych ar bum nodwedd o'r fath, ar eu prinder yn ieithoedd y byd ac ar eu lle yng ngramadeg y Gymraeg. Mae'n dangos bod amlder testunol pob nodwedd, yng nghorff Cymraeg llafar ac ysgrifenedig, yn prinhau. Mae'r pum nodwedd hyn, a oedd yn sefydlog yn y Gymraeg ers y cofnodion cynharaf ymhell dros fil o flynyddoedd yn ôl, yn ystod oes siaradwyr hÅ·n, wedi mynd yn ddewisol neu'n ddarfodol yn yr iaith lafar: mae gramadeg yr iaith wedi newid. Mae'n debygol bod y Gymraeg yn newid oherwydd dwyieithrwydd. Ynghyd â'r cynnydd yn y defnydd cyhoeddus o'r Gymraeg yn ddiweddar, cafwyd cynnydd yn y defnydd o'r Saesneg ym mywydau pob dydd siaradwyr Cymraeg. Mae'r siaradwr Cymraeg cyffredin bellach yn siarad mwy o Saesneg na Chymraeg, y tu allan i'r teulu o leiaf. Dangoswyd bod siarad ail iaith yn rhugl ac yn rheolaidd yn effeithio ar iaith gyntaf y siaradwr, yn fwy na thebyg i leihau'r baich seicolegol wrth newid yn gyson rhwng y ddwy iaith. Dadleuir, mewn sefyllfa o'r fath, ar draws ieithoedd, fod nodweddion anghyffredin o'u hanfod yn fwy tueddol o gael eu colli. Yn olaf, mae'r papur yn edrych yn gyflym iawn ar ddatblygiadau posibl yn y dyfodol. John D. Phillips, 'Effaith newidiadau diweddar ar hynodrwydd ieithyddol y Gymraeg', Gwerddon, 3, Mai 2008, 94-117.
John D. Phillips, 'Effaith newidiadau diweddar ar hynodrwydd ieithyddol y Gymraeg' (2008)
Termau Addysg Uwch
Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn darparu geiriadur ar-lein i fyfyrwyr a staff i hwyluso'r broses o astudio, addysgu ac ymchwilio drwy gyfrwng y Gymraeg ar lefel prifysgol. Mae'r geiriadur yn cynnwys termau technegol o ystod eang o feysydd academaidd, gan gynnwys Bioleg, Cemeg, Chwaraeon, y Gyfraith, Daearyddiaeth, Hanes, Busnes, Seicoleg, Rheoli Coetiroedd, y Diwydiannau Creadigol a Mathemateg a Ffiseg. Caiff ei ehangu'n gyson i gynnwys mwy o dermau a mwy o feysydd pwnc, ac fe nodir i ba faes y mae pob term yn perthyn. Ceir diffiniadau gyda'r termau hyn, gan gynnwys weithiau diagramau, hafaliadau a lluniau i egluro'r term yn well. Yn y diffiniadau, ceir dolenni at dermau eraill cysylltiedig.
Gwefan Y Bywgraffiadur Cymreig
Mae’r wefan hon yn cynnwys dros bum mil o fywgraffiadau cryno sy’n cyflwyno unigolion a wnaeth gyfraniad pwysig i fywyd cenedlaethol yng Nghymru neu’n ehangach. Mae Llinell Amser ryngweithiol sy'n arddangos unigolion o'r Bywgraffiadur ar gael nawr. Gyrrir y llinell gan ddata agored cysylltiedig a chynnwys agored sy’n dod o brosiectau Wikimedia.
