Cyflwyniad Yr Athro Richard Wyn Jones, wedi'i recordio ar y Maes, Eisteddfod Tregaron 2022.
Mae Richard yn trafod hanes o lwyddiant etholiadol Llafur Cymru dros y ganrif ddiwethaf, trwy'r prism o hunaniaethau byd olwg Cymreig.
Cyflwyniad Yr Athro Richard Wyn Jones, wedi'i recordio ar y Maes, Eisteddfod Tregaron 2022.
Mae Richard yn trafod hanes o lwyddiant etholiadol Llafur Cymru dros y ganrif ddiwethaf, trwy'r prism o hunaniaethau byd olwg Cymreig.
E-lyfr cynhwysfawr yn egluro Cyfraith Gyhoeddus a Chyfraith Cyfansoddiadol Cymru a'r DU. Mae'r fersiwn diwygiedig hwn o'r gyfrol wreiddiol a gyhoeddwyd yn 2016, yn adlewyrchu'r newidiadau pwysig a ddaeth yn sgil Deddf Cymru 2017, yn ogystal ag effaith 'Brexit' ar ddeddfwriaeth ac ar ddatganoli. Adnodd angenrheidiol i fyfyrwyr y gyfraith yng Nghymru a chyfrol anhepgor i unrhyw un sydd â diddordeb yn y maes. Cyhoeddwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, 2021.
Cynhadledd ar-lein ar gyfer myfyrwyr is-raddedig ac ôl-raddedig, neu unrhyw un sydd â diddordeb yn y maes, a gynhaliwyd ar 4 Mawrth 2021.
Roedd y gynhadledd yn trafod gwahanol agweddau o'r Gyfraith yng Nghymru heddiw. Cafwyd gair o groeso gan yr Arglwydd Lloyd-Jones, Ynad yng Ngoruchaf Lys y Deyrnas Unedig a chyflwyniad gyda sesiwn cwestiwn ac ateb gan Jeremy Miles AS, Cwnsler Cyffredinol Cymru. Yn ogystal â hyn, cafwyd panel galwedigaethol gan ddwy gyfreithwraig broffesiynol a hefyd trafodaeth lle gofynnwyd am farn myfyrwyr ar ddysgu'r Gyfraith a Throseddeg drwy gyfrwng y Gymraeg yn ein prifysgolion.
Cliciwch isod i wylio recordiadau o'r gynhadledd:
Araith a draddodwyd gan yr athronydd J. R. Jones yn Eisteddfod y Barri 1968 yn trafod y Cymry Cymraeg fel pobl a'u hawydd i oroesi.
Rhaglen sy'n olrhain hanes David Ifon [Ivon] Jones (1883-1924) a'i ymroddiad i De Affrica ar ôl iddo ymfudo yno tra'n dioddef o'r salwch TB. Teliesyn, 1994.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Ail gyfrol hunangofiant Huw T. Edwards, ffigwr blaenllaw yn hanes undebaeth a gwleidyddiaeth Cymru yn yr ugeinfed ganrif. Gweler y gyfrol gyntaf, Tros y Tresi,
Y gyntaf o ddwy gyfrol hunangofiant Huw T. Edwards, ffigwr blaenllaw yn hanes undebaeth a gwleidyddiaeth Cymru yn yr ugeinfed ganrif. Yn y gyfrol hon ceir hanes gwreiddiau a magwraeth yr awdur yn ardal Penmaen-mawr, ei swyddi cynnar a'i gyfnod yn filwr yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Clywn am y dylanwadau fu arno, ac am ddatblygiad ei yrfa fel undebwr a'i ymwneud â'r Blaid Lafur a bywyd cyhoeddus Cymru. Gweler yr ail gyfrol, Troi'r Drol,
Astudiaeth o sut aeth dau ddramodydd ati i drafod dyfodiad arfau niwclear – sef Saunders Lewis, mewn drama anorffenedig ganddo, a Friedrich Dürrenmatt, yn ei ddrama Die Physiker (Y Ffisegwyr).
Cyfres ddogfen ddwy ran am David Lloyd George yng nghwmni'r hanesydd a'r awdur Hywel Williams.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Mewn rhaglen arbennig, cawn y newyddion a'r dadansoddi diweddaraf o effeithiau'r llosgfynydd yng Nghwlad Yr Iâ. Pam fod y llwch wedi achosi'r fath argyfwng? Am faint mae'n debygol o barhau? Angharad Mair fydd yn holi arbenigwyr yn y maes, yn ogystal â'r Cymry sy'n methu dod adref o wledydd tramor. Tinopolis, 2010.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Ar Ebrill 27 (1994) cynhelir etholiad yn Ne Affrica pan fydd yr hawl am y tro cyntaf erioed gan bawb o drigolion y wlad, y duon yn ogystal a'r gwynion, i bleidleisio. Emyr Daniel sy'n edrych ar hanes y gwahanol bobloedd sydd yn byw yn y wlad hynod o brydferth hon ac, er gwaetha'r trais a'r tlodi, yn gweld arwyddion o obaith. Merlin Television, 1994.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Mae'r pecyn deunyddiau yma yn cynnwys deunydd sydd yn cyflwyno ac yn cefnogi sesiwn chwarae rôl sydd yn ysgogi trafodaeth am ymateb y ddynoliaeth i newid hinsawdd. Mae'r deunydd yn sail i ffug-ddadl y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd lle mae grŵp o fyfyrwyr yn chwarae rhan gwlad neu gr?p penodol o wledydd. Mae'r adnoddau yn cynnwys disgrifiad o'r dasg, gwahanol ffyrdd o negydu ymatebion lliniaru, ymaddasu a llywodraethu, yn ogystal â phecynnau gwybodaeth am bob gwlad/gr?p o wledydd. Mae cyflwyniad Powerpoint byr hefyd ar gael er mwyn cyflwyno a strwythuro'r gweithdai. Mae'r deunyddiau yn ddelfrydol ar gyfer cynnal sesiynau gyda myfyrwyr chweched dosbarth er mwyn arddangos cymhlethdodau cymdeithasol, gwleidyddol ac amgylcheddol newid hinsawdd. Datblygwyd y deunyddiau gan Dr Hywel Griffiths a Dr Rhys Dafydd Jones, Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Prifysgol Aberystwyth. Cliciwch ar 'Cyfryngau Cysylltiedig' uchod i lawrlwytho'r holl ddogfennau yn y ..
Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.