Darlith Flynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 2011: Seiliau Cyfansoddiadol y Ddeddfwrfa Gymraeg, gan yr Athro Richard Wyn Jones. Traddodwyd y ddarlith yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a'r Fro.
Darlith Flynyddol 2011: Seiliau Cyfansoddiadol y Ddeddfwrfa Gymreig
Dilyn Ddoe: Hynt Dau Gymro – Lloyd George a William Morris (1996)
Prin iawn yw'r Cymry sydd wedi eu hethol yn Brif Weinidogion. Mae'n siwr mai David Lloyd George yw'r unig un sy'n dod i feddwl llawer ohonom. Ond ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd Cymro Cymraeg arall yn Brif Weinidog, a hynny'n bell o rif 10 Stryd Downing - ym mhen draw'r byd yn Awstralia. William Morris Hughes oedd ei enw a hanes y g?r hwnnw a'i berthynas â Lloyd George fydd dan sylw yn y rhaglen hon yng nghyfres Dilyn Ddoe. Elidir, 1996.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Elin Royles, 'Llywodraeth ranbarthol a chymdeithas sifil yng Nghymru a Chatalwnia' (2010)
Roedd cryfhau ac adfywio democratiaeth yn rhesymeg gyffredin dros sefydlu llywodraeth ranbarthol yn Sbaen ac yn y Deyrnas Unedig. Yn y cyd-destun hwn, mae'r erthygl hon yn ceisio asesu effaith llywodraeth ranbarthol ar y berthynas rhwng cymdeithas sifil a llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru a Chatalwnia. Wedi'i seilio ar astudiaethau achos, asesir i ba raddau y mae strwythurau llywodraeth ranbarthol yn hyrwyddo cyfranogiad mewn cymdeithas sifil a dadansoddir effaith llywodraeth ranbarthol ar hunaniaeth cymdeithas sifil. Er y gwahaniaethau, yn y ddau achos, roedd y llywodraethau rhanbarthol wedi ymgymryd ag ymdrechion 'o'r brig i lawr' i adeiladu cymdeithas sifil ac mae'r olaf wedi cyfrannu at y prosiectau adeiladu cenedl yng Nghatalwnia a Chymru. Mae'r canfyddiadau yn tynnu sylw at y goblygiadau democrataidd negyddol o bosibl sy'n deillio o'r cysylltiadau rhwng llywodraeth ranbarthol a chymdeithas sifil, ac effeithiau diwylliant gwleidyddol ehangach. Elin Royles, 'Llywodraeth ranbarthol a chymdeithas sifil yng Nghymru a Chatalwnia', Gwerddon, 5, Ionawr 2010, 27-52.
Ewsgadi: Gwlad y Basg (1989)
Eddie Ladd sy'n cyflwyno rhaglen o Ewsgadi, sef Gwlad y Basg. Mae'r rhaglen yn edrych ar ddirywiad yr iaith, problemau diweithdra, yr amgylchedd, colli diwylliant ac ati. Criw Byw, 1989.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Gwaedd yng Nghymru – J. R. Jones
Casgliad o ysgrifau gan yr athronydd J. R. Jones yn trafod parhad yr iaith Gymraeg a hunaniaeth Gymreig yn wyneb Prydeiniad y gymdeithas, yr Arwisgiad a dadfeiliad crefydd.
Atgofion Gohebydd o Gymro (1983)
Rhaglen am David Raymond, yn enedigol o Gydweli, ond sydd bellach wedi ymgartrefu ym Mharis. Gohebydd tramor ydoedd, yn gweithio i'r Daily Mail, Raynolds News a'r Daily Mirror. Glansevin, 1983.
Be Ddywedodd Gerallt Gymro am ei Gyfoeswyr – Huw Pryce a Glenda Carr
Roedd Gerallt Gymro yn sylwebydd craff ac yn awdur dysgedig a thoreithiog a ysgrifennodd ar amrywiaeth o bynciau. Dyma gasgliad difyr o sylwadau ganddo am ei gyfoeswyr sy'n darlunio'r cyfnod ac yn dweud llawer am Gerallt ei hun yn ogystal.
Be Ddywedodd Marx I – W. J. Rees
Detholiad o waith Karl Marx yn ei eiriau ei hun wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg gan W. J. Rees. Mae'r casgliad hwn yn edrych ar syniadau'r athronydd chwyldroadol ar gymdeithas a chymdeithaseg. Dyfynnir o gyhoeddiadau megis Y Teulu Sanctaidd, Yr Ideoleg Almaenaidd a Maniffesto'r Blaid Gomiwnyddol.
Be Ddywedodd Marx II – W. J. Rees
Detholiad o waith Karl Marx yn ei eiriau ei hun wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg. Yma ceir disgrifiadau gan Marx ar wahanol fathau o gymdeithas, e.e. cymdeithasau cyntefig, ffiwdal, cyfalafol. Dyfynnir o gyhoeddiadau megis Y Teulu Sanctaidd, Yr Ideoleg Almaenaidd a Maniffesto'r Blaid Gomiwnyddol.
Be Ddywedodd Weber – Ellis Roberts a Robat Powel
Detholiad o waith Max Weber yn ei eiriau ei hun wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg. Weber oedd un o brif sylfaenwyr cymdeithaseg fodern a llywiodd ei ddull gweithio newydd 'Verstehen', sef dull deongliadol neu gyfranogol o astudio ffenomena gymdeithasol, y maes. Rhoddodd Weber bwyslais ar ddeall yr ystyr a phwrpas mae unigolyn yn ei roi i'w weithredoedd ei hun.
Byd Pawb: Llifogydd Pacistan (2010)
Mae Luned Jones o Gaerdydd yn gweithio i Oxfam Cymru. Mae'r rhaglen hon yn ei dilyn i brifddinas Pacistan, Islamabad, i ymuno â'r ymdrech ryngwladol i roi cymorth i rai o'r 17 miliwn o bobl sydd wedi'u heffeithio gan y llifogydd diweddar yn y wlad. SMS, 2010.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Bywyd Coll Lloyd George (1996)
Rhaglen am un o Gymry mwyaf dylanwadol y ganrif, pensaer y wladwriaeth les, a Phrif Weinidog Prydain Fawr. Yn ôl A. J. P. Taylor, Lloyd George oedd arweinydd mwya' Prydain ers Oliver Cromwell. Mae'r rhaglen hefyd yn sôn am ddarganfod ffilm golledig am fywyd y Prif Weinidog hyd at 1918. Dangosir darnau o'r ffilm hwnnw yn y rhaglen hon. Teliesyn, 1996.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.