Nod yr ap hwn yw cefnogi dysgywr a gweithwyr ym maes Gwasanaethau Cyhoeddus i ddefnyddio'r Gymraeg gyda'r cyhoedd. Mae’r geirfa sy’n cael ei ddefnyddio o fewn yr ap yn cyd-fynd gyda’r eirfa ar fanyleb Pearson BTEC Lefel 3 Diploma Estynedig Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae'r ap yn cynnwys clipiau sain o dermau a geirfa defnyddiol i helpu defnyddwyr gyda ynganu geirfa, ynghyd â cwisiau rhyngweithiol i brofi gwybodaeth.
Ap Gwasanaethu Trwy'r Gymraeg
Gweithdy Prezi gan Dyddgu Hywel
Mae’r gweithdy hwn gan Dyddgu Hywel, darlithydd Addysg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, yn cynnwys gwybodaeth a hyfforddiant syml cam-wrth-gam i ddefnyddio’r meddalwedd cyflwyno Prezi. Beth yw Prezi? Prezi yw meddalwedd cyflwyno sydd yn ymgysylltu gyda myfyrwyr yn y dosbarth. Mae’n ddull arloesol o gyflwyno gwahanol bynciau trwy ddefnyddio symudiad a gofod i ddod â’ch syniadau yn fyw, a’ch gwneud yn gyflwynydd unigryw. Cynnwys y sesiwn Beth yw Prezi? Rhagflas Prezi Hyfforddiant Prezi Manteision Prezi
Gweithdy Socrative gan Dyddgu Hywel
Mae’r gweithdy hwn gan Dyddgu Hywel, darlithydd Addysg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, yn cynnwys gwybodaeth a hyfforddiant syml cam-wrth-gam i ddefnyddio’r ap Socrative gyda’ch myfyrwyr yn y dosbarth, mewn darlith neu seminar. Beth yw Socrative? Yr ap angenrheidiol mewn dosbarth ar gyfer hwyl, ymgysylltiad effeithiol ac asesu ar gyfer dysgu. Cynnwys y sesiwn Beth yw Socrative? Rhagflas Socrative Hyfforddiant Socrative Manteision Socrative
Tystysgrif Sgiliau Iaith - Adnoddau Cefnogol
Dyma becyn adnoddau cefnogol y Dystysgrif Sgiliau Iaith. Mae’r pecyn yn cynnwys gwybodaeth am y Dystysgrif, adnoddau dysgu cefnogol, fideos enghreifftiol ac hen bapurau. Pwrpas yr adnoddau yw cynorthwyo ymgeiswyr y Dystysgrif Sgiliau Iaith i baratoi ar gyfer eu hasesiadau. Ond, maent ar gael yn rhad ac am ddim, ac yn addas i unrhyw un sydd am wella ei sgiliau iaith Gymraeg. Mae'r adnoddau yn cynnwys gwybodaeth a thasgau ymarfer am y canlynol: Amserau'r Ferf Yr Arddodiaid Personau'r Ferf Rhagenwau Cywair Iaith Treiglo Sillafu Gwallau Cyffredin Osgoi Ymadroddion Saesneg
Chwe Cham i Ddoethuriaeth Lwyddiannus gan Dr Leila Griffiths
Mae’r adnodd hwn wedi’i anelu at y sawl sy’n newydd i astudiaethau ôl-raddedig ac mae’n canolbwyntio ar ddysgu gweithredol, cyfeirnodi a datblygu sgiliau ymchwilio, meddwl, darllen ac ysgrifennu beirniadol. Mae'n cynnwys cyfres o weithdai byrion (15 munud o hyd) yn cylchdroi o amgylch ‘Cwblhau traethodau hir yn effeithiol’
Gweithdy Doctoriaid Yfory 2020
Adnodd ar gyfer aelodau o gynllun Doctoriaid Yfory 3. Mae’n trafod awgrymiadau ar gyfer sicrhau profiad gwaith yn y maes iechyd a gofal. Mae hefyd yn trafod beth i'w gynnwys yn y datganiad personol. Cyflwyniad ydyw gan Sara Whittam o Brifysgol Caerdydd.
Adnoddau Astudiaethau Busnes Lefel 3 BTEC
Astudiaethau Busnes (L3): sesiynau dysgu cyfunol 30 o sesiynau dysgu cyfunol ar gyfer dysgwyr sy’n astudio cwrs Astudiaethau Busnes (lefel 3). Mae modd gweld y sesiynau yn eich porwr drwy ddilyn y dolenni isod. Mae hefyd modd i golegau lawrlwytho'r cynnwys er mwyn eu gosod o fewn eu llwyfannau dysgu lleol. Mae'r ffeil zip yn cynnwys ffeiliau SCORM ar gyfer yr holl unedau. Mae cynnwys y sesiynau hyn yn ddwyieithog, ond dim ond yn Gymraeg mae modd ateb y cwestiynau. Hawlfraint Heart of Worcestershire College ar ran The Blended Learning Consortium a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’r adnoddau hyn i gael eu defnyddio mewn sefydliadau addysgiadol yn unig ac ni ddylid eu haddasu na’u hailwerthu.
Adnoddau Chwaraeon Lefel 3 BTEC
Anatomeg a Ffisioleg (L3): sesiynau dysgu cyfunol 30 o sesiynau dysgu cyfunol ar Anatomeg a Ffisioleg ar gyfer dysgwyr sy’n astudio cwrs Chwaraeon (lefel 3). Mae modd gweld y sesiynau yn eich porwr drwy ddilyn y dolenni isod. Mae hefyd modd i golegau lawrlwytho'r cynnwys er mwyn eu gosod o fewn eu llwyfannau dysgu lleol. Mae ffeil zip yma yn cynnwys y ffeiliau SCORM ar gyfer yr holl unedau. Mae cynnwys y sesiynau hyn yn ddwyieithog, ond dim ond yn Gymraeg mae modd ateb y cwestiynau. Hawlfraint Heart of Worcestershire College ar ran The Blended Learning Consortium a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’r adnoddau hyn i gael eu defnyddio mewn sefydliadau addysgiadol yn unig ac ni ddylid eu haddasu na’u hailwerthu.
Gohebu ar...Covid-19
Dyma wefan rhyngweithiol sy'n adnodd defnyddiol i ddarpar newyddiadurwyr ar ohebu ar Covid-19. Mae'n cynnwys gwybodaeth ar sut mae'r newyddion yn cael ei greu yn ystod y pandemig a gwybodaeth ar y galw am newyddion dibynadwy yn ystod yr argyfwng. Mae yma hefyd ganllaw ar ba Lywodraeth sy'n gyfrifol am beth wrth ymateb i Covid-19. Yn ogystal, mae'n cynnwys fideos i'w gwylio a cwis. Mae'r adnodd yma yn un o dri a chyrhaeddodd y rhestr fer yn 2020 ar gyfer gwobrau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am greu Adnodd Cyfrwng Cymraeg.
Cyflwyniadau Astudiaethau Crefyddol/Athroniaeth (bl. 11-13)
Casgliad o gyflwyniadau PowerPoint yn ymwneud ag agweddau ar faes llafur Safon UG/Uwch Astudiaethau Crefyddol. Gan Dr Gareth Evans-Jones, Prifysgol Bangor.
Genres y Cywydd
Casgliad o ddetholiad o ysgrifau beirniadol thematig a gyhoeddwyd dros y blynyddoedd yn y cylchgrawn Dwned, sef cylchgrawn hanes a llên Cymru’r Oesoedd Canol. Mae’r 14 o ysgrifau yn trafod agweddau ar fathau penodol o gywyddau cyfnod Beirdd yr Uchelwyr. Ceir trafodaeth gyffredinol ar y gwahanol genres a geid yn y cyfnod, ffugfarwnadau, canu i noddwr penodol, ymrysonau barddol, cerddi i drefi, cywyddau i farfau a gynnau, cerddi am ferched a phenwisgoedd merched, cerddi am blant, cerddi am chwarae cardiau a gemau bwrdd, cerddi i adar fel llateion, ac ymdriniaeth â chywydd enwog Dafydd ap Gwilym, ‘Trafferth mewn tafarn’. Mae’r adnodd yn ddefnyddiol i fyfyrwyr Chweched Dosbarth a myfyrwyr prifysgol, i athrawon ac academyddion.
CAEA Ymwybyddiaeth Iaith – Gwaith Cymdeithasol
Adnodd rhyngweithiol sy'n anelu at greu’r amodau i fyfyrwyr gwaith cymdeithasol fedru rhoi eu hun yn sgidiau’r defnyddiwr a theimlo a deall pam fod gwasanaeth yn Gymraeg yn ystyriaeth bwysig. Mae’r modiwl yn cynnwys 5 uned sy’n hoelio sylw ar: Ddeall anghenion iaith; Mynd dan groen y profiad dwyieithog; Ystyried cyd-destun y Gymraeg – ei chyflwr cyfoes a pheth o’i hanes ac effaith hynny ar ddefnyddwyr gwasanaeth; Dadansoddi’r berthynas rhwng iaith a grym, oblygiadau strategaeth Mwy na geiriau a’r cynnig rhagweithiol, a Dod yn barod i ymarfer a gweithredu’n unol â gofynion Mwy na geiriau. Yn ddelfrydol, dylai myfyrwyr weithio eu ffordd trwy'r deunyddiau o uned 1 i 5 wrth i drafodaeth a dysgu adeiladu fesul tipyn o'r naill i'r llall. Fodd bynnag, mae'r unedau hefyd yn hunangynhwysol i raddau helaeth, a gellir defnyddio unedau, neu rannau o uned, ar y cyd â modiwlau neu ddeunyddiau dysgu eraill.