Adnodd ar gyfer myfyrwyr adeiladu (Lefel 1 a 2) sy’n canolbwyntio ar gyflwyniad a pherthnasedd sgiliau ymarferol, yn benodol gwaith coed a gwaith saer, plastro, bricwaith a pheintio ac addurno. Mae’n pontio’r agendor rhwng tasgau go iawn a gweithgareddau'r ystafell ddosbarth trwy gyfrwng clipiau fideo byrion o gyfweliadau â gweithwyr ifanc yn y diwydiant adeiladu wrth eu gwaith, a chlipiau byrion o dasgau go iawn yn cael eu cyflawni ar y safle adeiladu. Datblygwyd yr adnodd gan Cwmni Cynnal ar ran Llywodraeth Cymru ac mae'r adnodd hefyd ar gael drwy wefan HWB.
Myfyriwr Adeiladu
Prentis-iaith
Mae'r cyrsiau byr hyn ar gyfer prentisiaid sydd yn awyddus i fagu eu hyder i ddefnyddio'u Cymraeg yn y gweithle. Maent yn galluogi'r prentisiaid i gwblhau rhywfaint o'u cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r cyrsiau ar gael ar bedwar lefel: Ymwybyddiaeth, Dealltwriaeth, Hyder, Rhuglder ac mae cwis ar gael i ganfod pa lefel sy'n addas ar eich cyfer.
Astudiwch Adeiladu yn Gymraeg neu’n Ddwyieithog!
Sesiwn sydd yn cyflwyno manteision astudio Adeiladwaith yn Gymraeg neu’n ddwyieithog.
Am Adeiladu
Gwefan ddwyieithog gyda gwybodaeth ac adnoddau cyffredinol ar gyfer y diwydiant adeiladu. Ariennir gan lefi CITB.
