Teclyn yw hwn sy'n cynnwys gwybodaeth am adnoddau, rhaglenni ac apïau ymarferol y gall staff eu defnyddio i wella'u Cymraeg a defnyddio i wella Cymraeg eu dysgwyr. Mae'r wefan yn hollol ddwyieithog ac yn addas i bawb, beth bynnag eich sgiliau iaith Gymraeg.






Adnoddau Dan Sylw
Teclyn Iaith
Am Filiwn: Podlediad
Podlediad sy’n trin a thrafod agweddau ar fyd addysg sy’n datblygu disgyblion i fod yn siaradwyr Cymraeg yng nghyd-destun anelu at filiwn o siaradwyr. Bydd y podlediad yn apelio at unrhyw un sy’n dilyn cwrs hyfforddi athrawon, yn athro newydd gymhwyso, neu’n aelod o’r gweithlu addysg. Bydd o ddiddordeb hefyd i unrhyw un sydd eisiau gwybod mwy am rôl byd addysg wrth anelu at gyrraedd miliwn o siaradwyr. Mae'n adnodd arbennig o dda i gydfynd â'r Fframwaith Cymwyseddau Iaith i Ymarferwyr Addysg.
Fferm Ddiogel
*Mae angen penwisg 'Oculus Quest 2' i ddefnyddio fersiwn VR yr adnodd hwn. Mae fersiwn AR ar gael hefyd ac mae modd lawrlwytho a defnyddio'r fersiwn hon ar ffôn neu dabled.*
Y profiad VR gorau i unrhyw un sydd â diddordeb mewn diogelwch fferm!
Mae Fferm Ddiogel wedi’i dylunio i helpu dysgwyr i nodi a deall peryglon posibl ar y fferm, yn ogystal â dysgu sut i’w hosgoi mewn ffyrdd diogel ac ymarferol. Archwiliwch iard y fferm, lle byddwch yn dysgu am y peryglon sy'n gysylltiedig â lleoliadau amaethyddol ac offer a geir yn gyffredin ar y fferm. Ymwelwch â'n canolfan hyfforddi ATV, lle byddwch yn dysgu am beryglon reidio ATVs. Yn olaf, gallwch gael profiad o weithio gydag anifeiliaid mewn amgylchedd diogel a rheoledig, gan ddysgu am y risgiau sy'n gysylltiedig â thrin da byw.
Mae ein ap yn cynnwys pum avatar cyfeillgar, Ceri, Bevan, Jack, Yana, a Geth, a fydd yn eich arwain trwy bob senario, gan roi awgrymiadau a chyngor defnyddiol ar hyd y ffordd. Byddant yn eich helpu i nodi peryglon, deall y risgiau posibl y maent yn eu hachosi, a sut i osgoi'r risgiau hynny.
Perffaith ar gyfer darlithwyr ac aseswyr sydd eisiau addysgu elfennau ymarferol o'r cwricwlwm mewn amgylchedd diogel a rheoledig.
Mae sain yr adnodd hwn yn Gymraeg gydag is-deitlau Saesneg a Chymraeg.
*Mae angen penwisg 'Oculus Quest 2' i ddefnyddio fersiwn VR yr adnodd hwn. Mae fersiwn AR ar gael hefyd ac mae modd lawrlwytho a defnyddio'r fersiwn hon ar ffôn neu dabled.*
Mwy na Geiriau: Cyfathrebu mewn Iechyd a Gofal
Nod yr adnodd hwn yw cyflwyno ymwybyddiaeth iaith mewn iechyd a gofal i fyfyrwyr addysg uwch ac ymarferwyr proffesiynol.
Ei brif amcan yw meithrin hyder myfyrwyr i ddefnyddio eu Cymraeg gyda chleifion a chydweithwyr yn y GIG.
Datblygwyd yr adnodd hwn ar gyfer myfyrwyr addysg uwch (lefel 4+) sydd yn astudio unrhyw bwnc iechyd a gofal ac yn bwriadu mynd ymlaen i ddilyn gyrfa yn y maes. Mae hefyd yn addas ar gyfer ymarferwyr proffesiynol a gellir ei ddefnyddio fel rhan o ddatblygiad proffesiynol parhaus.
Ac eithrio Uned 1, mae pob uned yn dilyn llwybr claf penodol er mwyn dangos sut mae gwahanol broffesiynau yn cydblethu ac yn cael effaith ar brofiad y claf neu ddefnyddiwr gwasanaeth. Gellir gweithio drwy’r pecyn cyfan yn ôl ei drefn neu ddewis a dethol unedau penodol. Mae modd addysgu’r unedau yn yr ystafell ddosbarth neu eu hastudio’n annibynnol.
Mae rhan fwyaf o’r unedau yn cyflwyno geiriau, ymadroddion a therminoleg Cymraeg i’w defnyddio gyda chleifion a staff. Er y bydd yr eirfa hon yn gyfarwydd i fyfyrwyr sydd eisoes yn siarad Cymraeg, fe’u hanogir i ystyried sut i rannu a dysgu’r eirfa i’w cyfoedion. Yn sgil hyn, mae’r cynnwys hwn yn addas i bob myfyriwr, beth bynnag fo’u gallu Cymraeg.
Dewisa Lefel A Cymraeg: Ymgyrch ac adnoddau
Ymgyrch a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw Dewisa Lefel A Cymraeg sy'n ceisio annog rhagor o ddysgwyr ifanc i astudio Lefel A Cymraeg drwy ddarparu adnoddau hyrwyddo i godi ymwybyddiaeth o’r manteision di-ben-draw sydd gan yr iaith i fywyd academaidd, gwaith a chyfleoedd diwylliannol.
Mae gan yr ymgyrch, a lansiwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru, gynnwys y gall athrawon ac ysgolion ei ddefnyddio fel ffordd o ennyn diddordeb dysgwyr, rhieni a gofalwyr yn y Gymraeg drwy’r canlynol:
- Tynnu sylw at y ffaith bod Lefel A Cymraeg yn agor drysau i gyfoeth o lwybrau prifysgol
- Pwysleisio’r amrywiaeth o yrfaoedd a diwydiannau lle mae’r Gymraeg yn sgil gwerthfawr iawn
- Rhoi cipolwg ar ehangder ac amrywiaeth cwricwlwm Lefel A Cymraeg
- Arddangos Lefel A Cymraeg fel pwnc modern, creadigol a pherthnasol
- Gwahodd dysgwyr i ymuno â chymuned lewyrchus o siaradwyr Cymraeg sy’n angerddol am eu diwylliant, eu treftadaeth a’r iaith
Mae'r adnoddau yn cynnwys:
- Cynnwys gweledol: instazines, cardiau proffil, dyfyniadau, negeseuon holi ac ateb, negeseuon chwilio
- Fideos
- Posteri amrywiol
- Asedau cyfryngau cymdeithasol (GIFs)
- Pecyn cymorth athrawon
Gellir defnyddio a rhannu'r adnoddau yn ddigidol neu mewn print, ar y cyfryngau cymdeithasol neu drwy eu hymgorffori mewn cyflwyniadau a phrospectws.
Mae'r holl gynnwys ar gael yn ddwyieithog i'w lawrlwytho drwy'r ddolen Dropbox isod.
I gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch neu am y Gymraeg fel pwnc yn gyffredinol, cysylltwch â Dr Ffion Eluned Owen, Swyddog Hyrwyddo’r Gymraeg fel Pwnc y Coleg: ff.owen@colegcymraeg.ac.uk.
Dwyieithrwydd ar gyfer y gweithle: Sgiliau proffesiynol
Pwrpas yr adnodd hwn yw helpu datblygu hyder i weithio'n ddwyieithog.
Twy gyfres o ymarferion bydd cyfle i ymarfer nifer o sgiliau perthnasol ar gyfer defnyddio'r Gymraeg yn y gweithle gan gynnwys:
- drafftio e-bost
- paratoi CV
- gwneud cyflwyniad yn Gymraeg.
Astudiaethau Achos Busnes
Mae’r pecynnau hunan astudio yma’n defnyddio astudiaeth achos Cymreig i gyflwyno damcaniaethau busnes i ddysgwyr mewn colegau addysg bellach. Mae’r pecynnau wedi cael eu hanelu at ddysgwyr ar lefel tri ond gallant fod yn berthnasol i ddysgwyr ar lefelau is ac uwch hefyd.
Mae’r adnoddau yn cyflwyno:
- Nodweddion gwasanaeth cwsmer da
- Nodweddion busnes mân-werthu
- Rheoli cadwyn gyflenwi
- Rheoli digwyddiad
- Adeiladu tîm mewn busnes
Yn ogystal â’r pecynnau, ceir dolen at yr astudiaethau achos ar ffurf fideo ar wahân.
Gweminar Astudio Cymraeg yn y brifysgol (2022)
Ym mlwyddyn 12 neu 13? Eisiau gwybod mwy am astudio Cymraeg fel pwnc yn y brifysgol? Dewch i gael mwy o wybodaeth am yr hyn sydd ar gael, ac i glywed barn ein llysgenhadon sy'n astudio'r pwnc am eu cyrsiau a'u bywyd fel myfyrwyr y Gymraeg.
Cyflwyniad a recordiwyd ym mis Tachwedd 2022. Mae'n cynnwys:
- Cyflwyniad am astudio Cymraeg yn y brifysgol (hyd at 29 munud) e.e. Lle mae modd astudio? Beth sydd modd ei astudio - o ran cyrsiau a modiwlau? Pa gymorth ariannol sydd ar gael?
- Sgwrs rhwng ein interniaid (Aled a Hari) â'n llysgenhadon cyfredol am astudio Cymraeg yn y brifysgol (19 munud ymlaen)
Cyflwyniad cyfrwng Cymraeg yng nghwmni Aled (Prifysgol Bangor); Hari a Deio (Prifysgol Caerdydd); Elain (Prifysgol Aberystwyth); a Cara ac Elen (Prifysgol Abertawe).
Seicoleg: Dulliau Ymchwil
Nod y gyfres hon o adnoddau yw cyflwyno gwybodaeth am rai o'r prif egwyddorion a thechnegau sy’n cael eu defnyddio wrth gynnal ymchwil ym maes seicoleg.
Mae pob uned yn cynnwys:
- crynodeb
- darlith ar ffurf cyflwyniadau fideo
- cwis aml-ddewis
- cwestiynau seminar
- llyfryddiaeth
Mae’r holl unedau a restrir isod i’w cael yma mewn un pecyn.
Cyfranwyr y thema hon yw:
- Emma Hughes-Parry
- Dr Mirain Rhys
- Dr Hanna Binks
- Dr Kyle Jones
- Dr Gwennant Evans
- Dr Rachel Rahman.
Cynhyrchwyd y deunyddiau hyn â chefnogaeth Cronfa Adfer a Buddsoddi Addysg Uwch Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Cwrs Codi Hyder i Aseswyr
Diben y cwrs hunanastudio ar-lein hwn yw rhoi’r adnoddau a’r wybodaeth i aseswyr weithio yn ddwyieithog yn hyderus gyda’u dysgwyr.
Mae'r cwrs yn ystyried rhai o’r buddion a'r heriau o weithio'n ddwyieithog ac mae'n cyflwyno gwybodaeth, adnoddau a chymhelliant i allu datblygu darpariaeth a gweithio yn hyderus trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae'r cwrs yn ddwyieithog, ond mae wedi ei anelu at godi hyder aseswyr sy'n siarad Cymraeg wrth iddynt ddarparu eu hyfforddiant trwy gyfrwng y Gymraeg.
Doctoriaid Yfory 5.1
Cynllun i gefnogi disgyblion blwyddyn 12 a dysgwyr a myfyrwyr ym mlwyddyn olaf o'u hastudiaethau yn y coleg/prifysgol gyda'u ceisiadau i astudio Meddygaeth.
- Mawrth: Cyflwyniad i'r rhaglen
- Ebrill: Profiad gwaith
- Mai: C21 Cwricwlwm Ysgol Feddygol Prifysgol Caerdydd
- Mai: Sgyrsiau gyda nifer o feddygon proffesiynol
- Mehefin: Cwricwlwm Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe
- Mehefin: Astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ac Ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
- Gorffennaf: Llwybrau amgen i feddygaeth
- Awst: Egwyl yr haf
- Medi: Sesiwn cwestiwn ac ateb ar Ddatganiad Personol
- Hydref: Ceyfweliadau meddygol traddodiadol
- Tachwedd: Cyfweliadau MMI
- Rhagfyr: Cyfweliadau
COFRESTRWCH ISOD (Dyddiad Cau cofrestru - 4 Chwefror 2022):
PAAC: Dulliau Ymchwil
DULLIAU YMCHWIL
Mae'r e-lyfr hwn yn cynnig trosolwg cryno o rai o brif hanfodion y broses ymchwil. Gall fod o ddefnydd i fyfyrwyr Lefel A Cymdeithaseg a hefyd i unigolion sydd yn cychwyn astudio'r maes yn y brifysgol.
MANYLION AM Y GYFRES PAAC (Pecyn Adnoddau Amlgyfrwng Cymraeg):
Pecyn o e-lyfrau a fideos i gefnogi dysgu cymdeithaseg drwy gyfrwng y Gymraeg. Cynulleidfa’r deunyddiau hyn yw disgyblion sy’n astudio Lefel A Cymdeithaseg mewn ysgolion ledled Cymru, a myfyrwyr blwyddyn gyntaf sydd am astudio’r pwnc yn y brifysgol.
Mae pecyn yn cynnwys adnoddau ar gyfer y themau canlynol:
Datblygwyd yr e-lyfrau gan Dr Cynog Prys a Dr Rhian Hodges o Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Bangor.