Mae’r adnodd hwn ar gyfer dysgwyr a phrentisiaid sy’n astudio cymwysterau Adeiladwaith Lefel 3, ynghyd â’r staff sy’n eu cefnogi. Mae’n cynnig cyfle i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o wahanol agweddau ar y diwydiant adeiladu, o arferion adeiladu, iechyd, diogelwch a lles i’r sector hwn yng Nghymru. Mae’r adnodd rhyngweithiol dwyieithog hwn yn cynnwys gwybodaeth, gweithgareddau ac adnoddau dysgu ar draws y pum uned ganlynol: 301: Deall Arferion Adeiladu yng Nghymru 302: Gweithio yn y Sector Adeiladu yng Nghymru 304: Cydymffurfio ag iechyd, diogelwch a lles cyffredinol yn y gweithle 305: Cydymffurfio ag arferion gwaith cynhyrchiol 306: Symud, trin neu storio adnoddau. Nod yr adnodd yw cefnogi dysgwyr yn eu hastudiaethau a’u hannog i ddefnyddio cymaint o’r cynnwys â phosibl drwy gyfrwng y Gymraeg.
Plymio
Mae’r adnodd hwn ar gyfer dysgwyr a phrentisiaid sy’n astudio cymhwyster Lefel 2 Plymio, ynghyd â’r staff sy’n eu cefnogi. Mae’r adnodd rhyngweithiol dwyieithog hwn yn cynnwys gwybodaeth, gweithgareddau ac adnoddau dysgu ar draws y pedair uned ganlynol: 205PH: Deall Egwyddorion Gwyddonol 207PH: Deall Systemau Dŵr Oer 208PH: Deall Systemau Dŵr Poeth 209PH: Deall Systemau Gwres Canolog Nod yr adnodd yw cefnogi dysgwyr yn eu hastudiaethau a’u hannog i ddefnyddio cymaint o’r cynnwys â phosibl drwy gyfrwng y Gymraeg.
Gwaith Coed
Mae’r adnodd hwn ar gyfer dysgwyr a phrentisiaid sy’n astudio cymhwyster Lefel 3 Gwaith Coed ar y Safle, ynghyd â’r staff sy’n eu cefnogi. Mae’r adnodd rhyngweithiol dwyieithog hwn yn cynnwys gwybodaeth, gweithgareddau ac adnoddau dysgu ar draws y ddwy uned ganlynol: 314: Gosod cydrannau cymhleth y ffics cyntaf a’r ail ffics 315: Codi cydrannau fframwaith strwythur y to. Nod yr adnodd yw cefnogi dysgwyr yn eu hastudiaethau a’u hannog i ddefnyddio cymaint o’r cynnwys â phosibl drwy gyfrwng y Gymraeg.
Gosod Brics
Mae’r adnodd hwn ar gyfer dysgwyr a phrentisiaid sy’n astudio cymhwyster Lefel 2 Gosod Brics, ynghyd â’r staff sy’n eu cefnogi. Mae’r adnodd rhyngweithiol dwyieithog hwn yn cynnwys gwybodaeth, gweithgareddau ac adnoddau dysgu ar draws y tair uned ganlynol: 204: Gwybodaeth graidd gosod brics 205: Gosod allan i godi strwythurau gwaith maen 206: Gosod strwythurau gwaith maen. Nod yr adnodd yw cefnogi dysgwyr yn eu hastudiaethau a’u hannog i ddefnyddio cymaint o’r cynnwys â phosibl drwy gyfrwng y Gymraeg.
Plastro
Mae’r adnodd hwn ar gyfer dysgwyr a phrentisiaid sy’n astudio cymhwyster Lefel 2 Plastro Soled, ynghyd â’r staff sy’n eu cefnogi. Mae’r adnodd rhyngweithiol dwyieithog hwn yn cynnwys gwybodaeth, gweithgareddau ac adnoddau dysgu ar draws y tair uned ganlynol: 225: Gwybodaeth graidd am blastro soled 226: Creu gorffeniadau plastro soled mewnol 227: Gosod rendr soled ar arwynebau cefndir a chreu gorffeniadau. Nod yr adnodd yw cefnogi dysgwyr yn eu hastudiaethau a’u hannog i ddefnyddio cymaint o’r cynnwys â phosibl drwy gyfrwng y Gymraeg.
Cyflwyniad i NVivo
Cyfres o fideos yn rhoi cyflwyniad i NVivo gan Emma Grigorian, ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol Met Caerdydd. Mae NVivo yn feddalwedd gyfrifiadurol a ddefnyddir i gasglu, trefnu, dadansoddi a dehongli data ansoddol. Gellir ei defnyddio i ddadansoddi data o ddulliau ymchwil ansoddol megis cyfweliadau, grwpiau ffocws, holiaduron a thrawsgrifiadau drwy godio’r data ac adnabod themâu a phatrymau. Cynhelir gweithdy ar-lein ar 1 Mehefin am 2pm i gyd-fynd â’r adnodd hwn. Gallwch gofrestru ar gyfer y gweithdy yma.
Cyflwyniad i SPSS
Cyfres o fideos yn rhoi cyflwyniad i SPSS gan Dr Awel Vaughan-Evans, Darllenydd mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor. Mae SPSS yn feddalwedd gyfrifiadurol a ddefnyddir i gasglu, dadansoddi a dehongli data meintiol gan ddefnyddio dulliau ystadegol. Gellir ei ddefnyddio i ddadansoddi data o ddulliau ymchwil ansoddol megis holiaduron, cyfweliadau a grwpiau ffocws drwy godio’r wybodaeth ansoddol a’i throi’n ddata meintiol. Cynhelir gweithdy ar-lein ar 5 Mehefin am 11am i gyd-fynd â’r adnodd hwn. Gallwch gofresru ar gyfer y gweithdy yma.
Pecyn technegau newid ymddygiad
Comisiynwyd asiantaeth newid ymddygiad Claremont i greu'r Pecyn Technegau Newid Ymddygiad. Bwriad y pecyn yw rhoi arweiniad a chyngor i ymarferwyr sy'n gweithio gyda dysgwyr sydd wrthi'n gwneud penderfyniadau am eu haddysg. Mae'r daith i'r brifysgol yn gyfnod cyffrous i fyfyrwyr ond gall hefyd fod yn gyfnod ansicr, yn llawn cwestiynau ynghylch gyrwyr a rhwystrau canfyddedig sy'n ymwneud ag astudio'n Gymraeg. Gyda'n gilydd, gallwn helpu darpar fyfyrwyr a myfyrwyr i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch eu camau nesaf wrth astudio'n Gymraeg yn y brifysgol. Mae’r fideo isod yn cyflwyno trosolwg o’r Pecyn gan gynnwys: Sut i ddeall ein cynulleidfa? Y rhwystrau a'r ysgogiad sy'n dylanwadu ar benderfyniadau myfyrwyr ynghylch astudio drwy gyfrwng y Gymraeg. Y strategaethau negeseuon sy'n gallu helpu i leihau ansicrwydd, meithrin hyder a dangos manteision astudio yn Gymraeg
Beth yw ystyr bywyd? ... a chwestiynau mawr eraill
Dyma bodlediad yn y Gymraeg sydd ychydig yn wahanol i’r arfer, a sydd – fel mae’r teitl yn ei awgrymu – yn mynd i’r afael â rhai o gwestiynau mawr bywyd. Ariennir y podlediad gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a chyflwynir y gyfres gan Dr Huw Williams, darllenydd mewn Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, sydd yn cynnal sgyrsiau bywiog a ffraeth â chyfeillion amrywiol, gan gynnwys arbenigwyr a rhai academyddion blaenllaw Cymraeg. Rhagdybiaeth y gyfres yw bod pob un ohonom yn hel meddyliau ar faterion dwys sy’n rhan o fywyd pob dydd, ac mae trafod a myfyrio ar y themâu hyn yn beth iach a phwysig. Mae’r sgyrsiau yn cyflwyno’r trafodaethau drwy gyfrwng iaith bob dydd mewn ffordd hygyrch; dylai apelio at ddysgwyr y 6ed dosbarth, myfyrwyr prifysgol, ac oedolion eraill nad oes ganddynt wybodaeth flaenorol o’r pynciau dan sylw. Felly ymunwch â ni (a pharatowch hefyd am daith fach i Roswell!) Cynhyrchir y gyfres, gyda cherddoriaeth wreiddiol, gan Osian Gwynedd.
Sôn am Sgwennu: Ysgrifennu Creadigol Cyfoes
Croeso i ‘Sôn am Sgwennu’, adnodd gan Dr Llion Pryderi Roberts, Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, sy’n cyflwyno cyfres o drafodaethau am ysgrifennu creadigol cyfoes. Mae’r adnodd yn cynnwys: Podlediad ‘Sôn am Sgwennu’ – recordiadau o sgyrsiau â 4 awdur profiadol sy’n canolbwyntio ar y broses ymarferol o ysgrifennu ac ar agweddau perthnasol i’w gwaith ac i astudio’r maes: Caryl Lewis Ifor ap Glyn Annes Glynn Llŷr Gwyn Lewis Mae'r adnodd hefyd yn cynnwys dogfen i bob recordiad sy’n nodi’r cwestiynau a ofynnwyd ac sy’n nodi’n fras y codau amser perthnasol ar gyfer pob cwestiwn (fel bod modd gwrando ar y recordiad o’i gwr neu symud o un cwestiwn i’r llall) Ysgrifau ‘Sôn am Sgwennu’ – 8 ysgrif fer sy’n trafod agweddau perthnasol i’r broses o ysgrifennu’n greadigol ac i astudio’r maes: ‘Ysgrifennu Creadigol: Dechrau arni a datblygu syniad’, Llion Pryderi Roberts ‘Sgrifennu’, Elinor Wyn Reynolds ‘Cymeriadu’, Megan Angharad Hunter ‘Creu Cerdd’, Mari George ‘Perlau mân Llwyd Owen’ ‘Annwyl Leo, Annwyl Iestyn: Proses gydweithredol cyfres Y Pump’, Iestyn Tyne a Leo Drayton ‘Sgwennu Nofel’, Marlyn Samuel ‘Ysgrifennu i Blant’, Casia Wiliam Adnodd ar gyfer myfyrwyr Addysg Uwch yn bennaf yw ‘Sôn am Sgwennu’, ond gall fod yn berthnasol i ddisgyblion UG a Safon Uwch, athrawon, ac unrhyw un sy’n ymddiddori ym maes ysgrifennu creadigol. Dyfarnwyd nawdd ar gyfer yr adnodd hwn drwy gyfrwng cynllun Grantiau Bach y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Hoffwn ddiolch i’r Coleg, i’r holl awduron am eu parodrwydd i gymryd rhan yn y prosiect ac i’m cydweithwyr yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd am eu cymorth parod.
Cydweithio trwy’r Gymraeg: Aseswyr a Chyflogwyr
Mae’r recordiad hwn yn cynnwys trafodaeth banel fywiog sy’n canolbwyntio ar rôl aseswyr wrth weithio gyda chyflogwyr a phrentisiaid i amlygu gwerth y Gymraeg fel sgil allweddol yn y gweithle. Berni Tyler - Cyfarwyddwr Consortiwm B-wbl (Cadeirydd) Dafydd Bowen - Cyfarwyddwr Pobl a Llefydd, Mentera Gwyn-Arfon Williams – Aseswr yn y gwaith, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Grŵp Llandrillo Menai Rhian Williams – Aseswr, Sgil Cymru Sue Jeffries – Rheolwr Gyfarwyddwr, Sgil Cymru Angharad Elfyn – Prentis, Sgil Cymru Helen Davies – Swyddog Addysg Bellach a Phrentisiaethau, Coleg Cymraeg Uchafbwyntiau’r Gweminar: - Lansiad swyddogol yr adnodd ‘Pecyn Prentis’, gyda chyfranwyr o’r adnodd yn rhannu eu profiadau uniongyrchol. - Trafodaeth rhwng aseswyr a chyflogwyr ar sut gall y pecyn gefnogi eu gwaith o ddydd i ddydd. - Arferion da yn cael eu rhannu ar sut i argyhoeddi prentisiaid a chyflogwyr o fanteision defnyddio’r Gymraeg. - Sgwrs agored ar sut i gynyddu hyder aseswyr yn y Gymraeg, gan rannu heriau, llwyddiannau ac enghreifftiau ysbrydoledig. Cynhaliwyd y sesiwn ar y 18fed o Fehefin 2025.
Pecyn Prentis
Siop un stop ar gyfer cyflogwyr i gefnogi prentisiaid dwyieithog a’r Gymraeg. Mae Pecyn Prentis yn adnodd digidol cynhwysfawr wedi’i lunio er mwyn helpu cyflogwyr i recriwtio, datblygu a chefnogi prentisiaid sy’n defnyddio’r Gymraeg. Yma, cewch gyfuniad gwerthfawr o wybodaeth gyfredol, cyngor arbenigol ac adnoddau ymarferol sy’n addas ar gyfer pob cam o’r daith brentisiaeth. O ddarparwyr prentisiaethau i gymorth gyda’r iaith Gymraeg a chyngor gyrfa, mae’r adnodd yn cwmpasu’r cyfan. Mae'n cynnwys astudiaethau achos ysbrydoledig, clipiau fideo bywiog a storïau o lwyddiant gan brentisiaid cyfredol neu sydd newydd gymhwyso, yn ogystal â chan eu cyflogwyr. Boed yn gyflogwr newydd i fyd prentisiaethau neu’n sefydliad profiadol, mae Pecyn Prentis yn cynnig gwir fewnwelediad go-iawn, enghreifftiau o arfer dda, a chefnogaeth benodol er mwyn galluogi pob prentis i ffynnu mewn amgylchedd dwyieithog.
