Dyma gasgliad o fideos gan staff yn rhannu arferion da o weithredu cofrestru awtomatig, ynghyd â phrofiadau dysgwyr o’r cynllun. Mae cofrestru awtomatig yn arfer sy’n cynyddu ar draws y sector, gyda chefnogaeth ac anogaeth y Coleg Cymraeg, er mwyn hwyluso mynediad myfyrwyr sy’n medru’r Gymraeg at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg. Mae’n golygu bod myfyrwyr sy’n siaradwyr Cymraeg yn cael eu cofrestru ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn awtomatig, yn hytrach nag ar ddarpariaeth cyfrwng Saesneg. Am ragor o wybodaeth a chyngor ar sut i weithredu cofrestru awtomatig, cysylltwch â Swyddog Cangen y Coleg yn eich sefydliad.
Cofrestru awtomatig: arferion da
Cyhoeddi Academaidd
Panel o academyddion yn rhannu eu profiadau a’u cyngor ynghylch cyhoeddi academaidd yng nghwmni'r Athro Huw Morgan, Dr Hannah Sams, Dr Sam Parry, Dr Geraint Palmer-Liyu a Dr Rhiannon Marks. Mae’r drafodaeth yn addas i ymchwilwyr sy’n awyddus i ddysgu rhagor am y broses o gyhoeddi eu gwaith. Cynhaliwyd y digwyddiad yn y Llyfrgell Genedlaethol ar 25 Mehefin 2026.
Cyflwyniad i Wasg Prifysgol Cymru
Cyflwyniad i Wasg Prifysgol Cymru gan Uwch Olygydd Comisiynu, Cymraeg a Phynciau Cymreig y wasg, Dr Llion Wigley. Yn y cyflwyniad hwn, ceir trosolwg o gefndir y wasg ynghyd â chanllaw manwl i’r broses o gyflwyno a chyhoeddi cyfrolau.
Cyflwyniad i Gwerddon
Cyflwyniad i e-gyfnodolyn academaidd y Coleg Cymraeg, Gwerddon, gan yr is-olygydd, Dr Hywel Griffiths. Mae Gwerddon yn gyfnodolyn mynediad agored sy’n cyhoeddi ymchwil Cymraeg gwreiddiol mewn ystod eang o feysydd academaidd. Ei nod yw symbylu a chynnal trafodaeth academaidd ar draws ystod eang o feysydd, a chreu cronfa o waith ysgolheigaidd at ddefnydd myfyrwyr ymchwil ac academyddion cyfrwng Cymraeg. Mae Gwerddon yn gydnaws â gofynion y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) ac yn gweithredu cyfundrefn arfarnu annibynnol yn ogystal ag arddel y safonau golygyddol uchaf. Yn y cyflwyniad hwn, ceir trosolwg o gefndir Gwerddon ynghyd â chanllaw manwl i’r broses o gyflwyno a chyhoeddi erthyglau yn y cyfnodolyn.
Deallusrwydd Artiffisial a’r Gymraeg
Mae Deallusrwydd Artiffisial (DA) yn newid tirwedd addysg uwch yn gyflym. Mae’n dylanwadu ar y ffordd y mae myfyrwyr yn dysgu, sut mae staff yn cynllunio addysgu ac yn asesu, a sut mae sefydliadau’n cefnogi datblygiad academaidd a sgiliau digidol. Er bod DA yn cynnig cyfleoedd sylweddol, mae hefyd yn codi cwestiynau pwysig ynghylch uniondeb academaidd, llythrennedd digidol, tegwch a chynhwysiant. Mae’r adroddiad hwn yn archwilio’r defnydd o Ddeallusrwydd Artiffisial yng nghyd-destun addysg uwch cyfrwng Cymraeg, gan roi sylw arbennig i’r cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu siaradwyr Cymraeg a defnyddwyr ieithoedd lleiafrifol Mae’r adroddiad yn dod â gwaith ymchwil, profion ymarferol ac adborth gan staff a myfyrwyr ynghyd i ddarparu trosolwg o DA a’i oblygiadau i addysg cyfrwng Cymraeg. Amlygir enghreifftiau o arfer da a nodi ffyrdd o hyrwyddo defnydd cyfrifol, moesegol a chynhwysol o DA. Ceir yma ganllawiau ymarferol ar ddewis offer addas, ysgrifennu promptiau effeithiol, gwirio dibynadwyedd a chywirdeb cynnwys a gynhyrchir gan DA, gan fynd i’r afael â materion megis preifatrwydd, rhagfarn a thryloywder. Gobeithiwn y bydd yr adroddiad yn sbardudno trafodaeth, arbrofi a chydweithio ar draws y sector er mwyn sicrhau bod siaradwyr Cymraeg yn gallu manteisio’n deg ar ddatblygiadau DA, gan gefnogi dull dwyieithog, cynhwysol a chyfrifol o ddefnyddio’r technolegau hyn mewn addysg uwch.
LinkedIn i Staff Academaidd
Recordiad o weminar a gynhaliwyd ar 3 Mehefin 2026. Cyflwyniad i staff academaidd sy’n awyddus i ddatblygu eu presenoldeb proffesiynol ar LinkedIn. Yn ystod y cyflwyniad byddi di’n dysgu sut i ddefnyddio’r platfform yn effeithiol i: Rwydweithio’n broffesiynol Hyrwyddo digwyddiadau a gweithgareddau Datblygu a chryfhau dy broffil academaidd Meithrin hyder i rannu cynnwys Ymgysylltu â myfyrwyr a phartneriaid Rhannu dy waith Adeiladu a thyfu rhwydweithiau newydd yn dy faes Cyflwynir y gweithdy gan Mari Gwenllian Roberts ac Elinor Churchill o Adran Gyrfaoedd Prifysgol Bangor. Ceir hefyd gyfraniadau gan Dr Miriam Elin Jones o Brifysgol Abertawe, a Dr Gareth Evans-Jones o Brifysgol Bangor yn rhannu arferion da a phrofiadau personol o ddefnyddio LinkedIn yn broffesiynol.
Cynhadledd Ymchwil 2026
Cynhelir y Gynhadledd Ymchwil ar 25–26 Mehefin yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, a chaiff ei ffrydio ar sianel YouTube y Coleg. Gweler rhagor o wybodaeth ar wefan y Coleg, a bydd recordiadau o'r papurau i'w gweld isod yn dilyn y gynhadledd. Mae modd gweld y posteri ymchwil a arddangosir yn y gynhadledd drwy glicio ar y dolenni isod.
Pecyn technegau newid ymddygiad
Comisiynwyd asiantaeth newid ymddygiad Claremont i greu'r Pecyn Technegau Newid Ymddygiad. Bwriad y pecyn yw rhoi arweiniad a chyngor i ymarferwyr sy'n gweithio gyda dysgwyr sydd wrthi'n gwneud penderfyniadau am eu haddysg. Mae'r daith i'r brifysgol yn gyfnod cyffrous i fyfyrwyr ond gall hefyd fod yn gyfnod ansicr, yn llawn cwestiynau ynghylch gyrwyr a rhwystrau canfyddedig sy'n ymwneud ag astudio'n Gymraeg. Gyda'n gilydd, gallwn helpu darpar fyfyrwyr a myfyrwyr i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch eu camau nesaf wrth astudio'n Gymraeg yn y brifysgol. Mae’r fideo isod yn cyflwyno trosolwg o’r Pecyn gan gynnwys: Sut i ddeall ein cynulleidfa? Y rhwystrau a'r ysgogiad sy'n dylanwadu ar benderfyniadau myfyrwyr ynghylch astudio drwy gyfrwng y Gymraeg. Y strategaethau negeseuon sy'n gallu helpu i leihau ansicrwydd, meithrin hyder a dangos manteision astudio yn Gymraeg
Cydweithio trwy’r Gymraeg: Aseswyr a Chyflogwyr
Mae’r recordiad hwn yn cynnwys trafodaeth banel fywiog sy’n canolbwyntio ar rôl aseswyr wrth weithio gyda chyflogwyr a phrentisiaid i amlygu gwerth y Gymraeg fel sgil allweddol yn y gweithle. Berni Tyler - Cyfarwyddwr Consortiwm B-wbl (Cadeirydd) Dafydd Bowen - Cyfarwyddwr Pobl a Llefydd, Mentera Gwyn-Arfon Williams – Aseswr yn y gwaith, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Grŵp Llandrillo Menai Rhian Williams – Aseswr, Sgil Cymru Sue Jeffries – Rheolwr Gyfarwyddwr, Sgil Cymru Angharad Elfyn – Prentis, Sgil Cymru Helen Davies – Swyddog Addysg Bellach a Phrentisiaethau, Coleg Cymraeg Uchafbwyntiau’r Gweminar: - Lansiad swyddogol yr adnodd ‘Pecyn Prentis’, gyda chyfranwyr o’r adnodd yn rhannu eu profiadau uniongyrchol. - Trafodaeth rhwng aseswyr a chyflogwyr ar sut gall y pecyn gefnogi eu gwaith o ddydd i ddydd. - Arferion da yn cael eu rhannu ar sut i argyhoeddi prentisiaid a chyflogwyr o fanteision defnyddio’r Gymraeg. - Sgwrs agored ar sut i gynyddu hyder aseswyr yn y Gymraeg, gan rannu heriau, llwyddiannau ac enghreifftiau ysbrydoledig. Cynhaliwyd y sesiwn ar y 18fed o Fehefin 2025.
Cynhadledd Ymchwil 2025
Cynhaliwyd y Gynhadledd Ymchwil ar 26–27 Mehefin ym Mhrifysgol Aberystwyth a'r Llyfrgell Genedlaethol, ac fe’i ffrydiwyd ar sianel YouTube y Coleg. Mae modd gweld recordiadau o'r sesiynau a chopiau o'r posteri ymchwil drwy glicio ar y dolenni isod.
Rhannu arferion da ar gyfer rheolwyr canol
Sgwrs banel: Rhannu arferion da ar gyfer rheolwyr canol (addysg bellach a phrentisiaethau) Recordiad o drafodaeth banel gyda phedwar rheolwr maes cwricwlwm Addysg Bellach wrth iddynt drafod eu hymagwedd at gynyddu’r ddarpariaeth ddwyieithog / Gymraeg o fewn eu hadrannau. Maent yn trafod eu harferion da yn ogystal â sut maent wedi goresgyn heriau: Yusuf Ibrahim, Pennaeth Cynorthwyol – Addysg Uwch, Astudiaethau Academaidd, Dysgu Sylfaenol ac Oedolion - Coleg Caerdydd a'r Fro (Cadeirio) Lucy Breckon, Rheolwr Dysgu Seiliedig ar Waith (Iechyd, Gofal a Mentrau Masnachol) – Coleg Sir Benfro Rhian Pardoe, Rheolwr Maes Dysgu Iechyd a Gofal – Coleg Gwyr Abertawe Amy Thomson, Rheolwr Maes Rhaglen Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus – Grŵp Llandrillo Menai Rachel Lewis, Rheolwr Cwricwlwm Adeiladwaith – Coleg Pen y Bont Cynhaliwyd y digwyddiad yn ar y 5ed o Chwefror 2025.
Dysgwrdd TAR AHO
Wyt ti'n astudio'r cwrs TAR AHO? (Tystysgrif Addysg i Raddedigion, Addysg a Hyfforddiant Ol-orfodol). Yn siarad Cymraeg, neu eisiau cynyddu dy hyder wrth ddefnyddio'r Gymraeg? Dalia i fyny gyda'r sesiwn yma! Ymunodd Sgiliaith â ni i roi cyngor ar sut i annog a chefnogi myfyrwyr i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg, ac amlygodd aelod profiadol o staff sydd bellach yn addysgu’n ddwyieithog yn y sector rai adnoddau defnyddiol. Cynhaliwyd y sesiwn hon ar 29 Ionawr 2025.
