Mae Darlith Edward Lhuyd yn gyflwyniad blynyddol ar wahanol agweddau o fywyd academaidd a chyfoes Cymru a'r byd. Ceir amrywiaeth eang o themâu gan gynnwys daeareg, llenyddiaeth, ecoleg neu hanes. Trefnir y ddarlith rhwng y Coleg a Chymdeithas Ddysgedig Cymru. Noder, ni fu darlithoedd yn 2020 - 2022 oherwydd Covid-19.
Darlith Flynyddol Edward Lhuyd
Darlith Edward Lhuyd 2024: Yr Athro Paul O’Leary
Traddodwyd Darlith Flynyddol Edward Lhuyd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chymdeithas Ddysgedig Cymru 2024 gan yr Athro Paul O’Leary yn y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth, ar 27 Tachwedd 2024. Pam fod gwleidyddion blaenllaw yn cyfeirio at hanes mor aml? A pha fath o hanes sy’n apelio atynt? Mae’r ddarlith hon yn dangos bod gwleidyddion yn mowldio hanes at ddibenion y presennol ac yn gweu mytholegau er mwyn cyfreithloni eu safbwyntiau heddiw. Bwriad y ddarlith yw archwilio'r mytholegau hyn mewn ymgais i ddangos sut y maent yn effeithio ar ein diwylliant gwleidyddol a'r drafodaeth ar hanes yn y pau cyhoeddus. Dangosir sut y mae gwleidyddion wedi cynhyrchu mytholegau ar gyfer y Gymru ddatganoledig mewn ymgais i greu fersiwn o'r gorffennol sy'n gweddu i'r ffordd newydd o lywodraethu'r wlad – senedd newydd, hanes newydd. Athro Emeritws ym Mhrifysgol Aberystwyth yw Paul O'Leary ac mae’n Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Bu'n Athro Syr John Williams mewn Hanes Cymru yn Aberystwyth. Ymhlith ei lyfrau mae: yr e-lyfr Ffrainc a Chymru, 1830–1880: Dehongliadau Ffrengig o Genedl Ddi-wladwriaeth (Coleg Cymraeg Cenedlaethol, 2015); Claiming the Streets: Processions and Urban Culture in South Wales, c.1830–1880 (2012); ac Immigration and Integration: the Irish in Wales, 1798–1922 (2000). Gyda Beth Jenkins a Stephanie Ward fe gydolygodd y gyfrol Gender in Modern Welsh History: Perspectives on Masculinity and Femininity in Wales from 1750 to 2000 (2023).
Darlith Edward Lhuyd 2013: Ar Drywydd Edward Lhwyd
Darlith Flynyddol Edward Lhuyd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chymdeithas Ddysgedig Cymru 2013 gan yr Athro Brynley F. Roberts. Gallwch weld fideo o'r ddarlith drwy glicio
Darlith Edward Lhuyd 2014: Newid hinsawdd sydyn: datgelu cyfrinachau'r gorffennol
Yr Athro Siwan Davies yn traddodi Darlith Flynyddol Edward Lhuyd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chymdeithas Ddysgedig Cymru.Traddodwyd y ddarlith ym Mhrifysgol Abertawe nos Fercher 12 Tachwedd 2014.
Darlith Edward Lhuyd 2015: Heneiddio a Gofal
Heneiddio a Gofal: Ein Cyfrifoldeb a'n Braint' – Darlith Flynyddol Edward Lhuyd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chymdeithas Ddysgedig Cymru 2015.Traddodwyd gan yr Athro Mari Lloyd-Williams ar nos Fercher 4 Tachwedd 2015 yn y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.
Darlith Edward Lhuyd 2017: Ynni, Gwaith a Chymhlethdod
Ynni, Gwaith a Chymhlethdod: Saith Chwyldro Hanesyddol' - Darlith Flynyddol Edward Lhuyd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chymdeithas Ddysgedig Cymru 2017. Traddodwyd gan yr Athro Emeritws R. Gareth Wyn Jones ar nos Iau 9 Tachwedd 2017 yn Pontio, Bangor. Yn y ddarlith hon, dehonglir hanes bywyd ar ein planed dros 4.5 biliwn blwyddyn ei bodolaeth. Dadleuir bod modd adnabod chwe chwyldro ynni ffurfiannol yn hanes ein planed. Drwy ffrwyno ffynhonnell newydd o ynni, daw'r potensial i wneud gwaith ychwanegol, sy'n arwain at gymhlethdod materol ac at gymhlethdod cymdeithasol cynyddol. Beth yw'r patrymau yn y chwe chwyldro? Beth yw eu goblygiadau ar gyfer y seithfed chwyldro, sydd ar ein gwarthaf ni heddiw?
Darlith Edward Lhuyd 2023:Dr Carol Bell
Teitl y ddarlith: Her pawb i greu dyfodol cynaliadwy: gweld y patrwm a buddsoddi ar gyfer y tymor hir Darlith Flynyddol Edward Lhuyd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chymdeithas Ddysgedig Cymru 2023 gan Dr Carol Bell. Bu Dr Bell yn gyn Reolwr Gyfarwyddwr y Global Oil & Gas Group yn y Chase Manhattan Bank (1997 i 1999) a, chyn hyn, yn bennaeth adran Ymchwil Ecwiti Ewropeaidd JP Morgan yn Llundain. Enillodd radd MA mewn Gwyddorau Naturiol (Biocemeg) o Brifysgol Caergrawnt, BA mewn Gwyddorau Daear (Daeareg) o'r Brifysgol Agored ac MA a PhD gan Sefydliad Archeoleg Coleg Prifysgol Llundain. Yng Nghymru, mae hi'n aelod o nifer o fyrddau, gan gynnwys, Cyngor Cynghorol Cymru ar Arloesi, Amgueddfa Cymru – National Museum Wales, Sefydliad Cyfarthfa, a Chymdeithas Bêl-droed Cymru, ac mae newydd ymddeol o fyrddau Banc Datblygu Cymru, Amgueddfa Cymru a Chanolfan Mileniwm Cymru. Mae hi hefyd ar gyngor Research England, ac ar fyrddau’r National Physical Laboratory a Museum of London Archaeology yn ogystal â thri cwmni cyhoeddus rhyngwladol.