Roedd Rhyfel Cartref America (1861-65) yn un o ddigwyddiadau ffurfiannol pwysicaf yn hanes yr Unol Daleithiau. Ceir llwyth o dystiolaeth am yr ymgyrchoedd gan y Cymry a oedd yn rhan o’r brwydro – oherwydd roedd yn llythrennol miloedd o filwyr Cymraeg eu hiaith yn ymladd ym myddin yr Undeb (y Gogledd). Mae’r adnoddau hyn yn rhannu ychydig o’r dystiolaeth, gan gynnwys disgrifiadau byw o rai o ddigwyddiadau enwocaf y rhyfel. Bydd hyn o ddiddordeb arbennig i fyfyrwyr hanes ym mhrifysgolion Abertawe, Aberystwyth a Bangor sydd yn ymgymryd â’r modiwl ail flwyddyn ‘Rhyfel Cartref America’.
Llythyrau Rhyfel Cartref America
Cynhadledd Hanes 2021: 'Menywod a'r Byd' (17 Mawrth 2021)
17 Mawrth 2021 (13:00-16:30)
Cynhadledd ar gyfer myfyrwyr is-radd ac ôl-radd Hanes ond hefyd unrhyw un sydd â diddordeb mewn pobl ac hanes. Bydd y gynhadledd yn dilyn thema ‘Menywod a’r Byd’ gyda chyflwyniadau diddorol ar fywydau menywod yn y Canol Oesoedd.
- Menywod ym Mywgraffiadau Brenhinol y Canol Oeseodd - Dr Rebecca Thomas, Prifysgol Bangor
- Menywod a'r naratifau amdanynt yng Nghymru Oes y Chwyldro Ffrengig - Dr Marion Löffler, Prifysgol Caerdydd
- Llofruddiaeth mewn lleiandy: Voyeurs Americanaidd yn Quebec Gatholig - Dr Gareth Hallet Davis, Prifysgol Abertawe
- Portreadau o fenywod yn y Rhyfel Mawr - Dr Gethin Matthews, Prifysgol Abertawe
Gwylich recordiadau'r gynhadledd isod:
Tywysogion (2007)
Cyfres sy'n adrodd hanes saith o dywysogion Cymru, yng nghwmni Richard Wyn Jones.
Ffilmiau'r Bont, 2007.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Gwefan Y Bywgraffiadur Cymreig
Mae’r wefan hon yn cynnwys dros bum mil o fywgraffiadau cryno sy’n cyflwyno unigolion a wnaeth gyfraniad pwysig i fywyd cenedlaethol yng Nghymru neu’n ehangach.
Mae Llinell Amser ryngweithiol sy'n arddangos unigolion o'r Bywgraffiadur ar gael nawr. Gyrrir y llinell gan ddata agored cysylltiedig a chynnwys agored sy’n dod o brosiectau Wikimedia.
Gwrthwynebwyr y Rhyfel Mawr (2014)
Hanes pedwar gwrthwynebydd cydwybodol o Gymru yn ystod y Rhyfel Mawr. Gwas ffarm o Laneilian Ynys Môn oedd Percy Ogwen Jones. Mae ei hanes yn cael ei adrodd gan ei fab, Geraint Percy, yn Ysgol Penysarn. Ar ôl wynebu sawl tribiwnlys cafodd Percy ei arestio a'i ddanfon i Faracs Wrecsam ac yna i Kinmel. Mae Dr Jen Llywelyn wedi ymchwilio i fywyd yr heddychwr George M. Ll. Davies. Yn Aberdaron clywn hanes carchariad George am bregethu yn erbyn rhyfel a'r effaith andwyol a gafodd hyn ar ei iechyd. Aeth Gwenallt i guddio gyda pherthnasau iddo ger Rhydcymerau a Llandeilo i drio osgoi cael ei garcharu. Dr Christine James sydd yn sôn am y cyfnod hwn ym mywyd y bardd ym mro ei febyd: Pontardawe ac Alltwen. Gwrthododd Ithel Davies wneud unrhyw waith fyddai'n helpu'r rhyfel yn ystod ei garchariad. Yng Nghwmtudu mae aelod o'i deulu, Jon Meirion Jones, yn sôn am y driniaeth lem a ddioddefodd Ithel oherwydd ei ddaliadau. Mae'r hanesydd Aled Eirug yn siarad am y broses a wynebai'r gwrthwynebwyr cydwybodol, y tribiwnlysoedd, carcharu, cynllun y Swyddfa Gartref yn Dartmoor a chynghrair y Bluen Wen. Boom Cymru, 2014.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Gwyn Alf Hanesydd y Bobl
Rhaglen Ddogfen ar Gwyn Alf Williams. Yr Athro Gwyn Alf Williams, un o brif haneswyr Cymru.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Hedd Wyn: Canrif o Gofio
100 mlynedd wedi marwolaeth Hedd Wyn, Ifor ap Glyn sy'n olrhain hanes ei fywyd. Yn 2013, gwerthodd nai Hedd Wyn, Gerald Williams, Yr Ysgwrn i Barc Cenedlaethol Eryri. Dyma lle magwyd y bardd, a chawn weld sut y cafodd y ffermdy a'r tai allan eu trawsnewid yn ganolfan i ymwelwyr fodern, i warchod etifeddiaeth Hedd Wyn i'r dyfodol. Dilynwn ôl troed y bardd i Abercynon, i ddysgu am y tri mis y treuliodd yno fel glöwr, cyn symud ymlaen i Lerpwl i ymweld â rhai o'r lleoliadau a fyddai wedi bod yn gyfarwydd iddo yn ystod ei gyfnod yno yn hyfforddi fel milwr. Yn Ffrainc a Belg, dilynwn gamau olaf y bardd, a chlywed am y modd y cwblhaodd ei awdl fuddugol i Eisteddfod Genedlaethol 1917 tra'n martshio i gyfeiriad y frwydr a fyddai'n hawlio ei fywyd. Tra bod Hedd Wyn ei hun wedi tyfu yn eicon cenedlaethol, felly hefyd y gadair a enillodd yn Eisteddfod Birkenhead - Y Gadair Ddu. Yn Sanclêr, ar ymweliad â gweithdy Hugh Hayley, y dyn sy'n gyfrifol am y gwaith adfer arni, caiff Ifor ryfeddu ar waith cerfio cywrain y Belgiad Eugeen Vanfleteren, ffoadur o'r rhyfel a ymsefydlodd yn Birkenhead ac a gomisynwyd i greu'r Gadair. Gyda chymorth rhai o lythyrau'r bardd, erthyglau papur newydd, a chyfweliadau prin a recordiwyd gyda'i ffrindiau a'i deulu yn ystod y 60au a'r 70au, mae Ifor yn ail-asesu bywyd ac etifeddiaeth y bardd. Pam fod y stori hon yn parhau i gydio yn'om ni? Beth fyddai Hedd Wyn wedi ei gyflawni petai ond wedi cael byw? Efallai bod rhain yn gwestiynau na ellir eu hateb yn llawn, ond mae un peth yn sicr, y bydd enw Hedd Wyn yn parhau i atsain ar hyd yr oesau.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Henry Richard: Yr Apostol Heddwch (2013)
Un o'r Cymry mwyaf blaengar a fu erioed: dyn a wrthwynebai ryfel ymhob ffurf a siâp ac un a oedd ymhell o flaen ei amser. Mererid Hopwood sy'n cymryd golwg ar ddylanwad parhaus Henry Richard yn ei waith dros gymod a heddwch. Tinopolis, 2013.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
I'r Gad
Rhaglen ddogfen yn edrych ar hanes y chwe dyn a ddanfonwyd i garchar ym 1969 am fod yn aelodau o gorff FWA [Free Wales Army].
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Modiwl Dehongli'r Gorffennol (HCG2011)
Cyflwyniadau i gyd-fynd gyda'r modiwl prifysgol Dehongli'r Gorffennol (HCG2011).
Bydd angen mewngofnodi i gael mynediad i'r cyflwyniadau isod.
Rhestr y cyflwyniadau:
- Cyflwyniad i Hanes Marcsaidd (Yr Athro Gareth Williams)
- Cyfraniad Keith Thomas (Yr Athro Gareth Williams)
- Datblygiadau a phroblemau gyda dehongliadau Marcsaidd, a cyfraniadau Christopher Hill a Raymond Williams (Yr Athro Gareth Williams)
- Dehongliadau Marcsaidd o Galileo a William Harvey (Yr Athro Gareth Williams)
- Cymdeithas a diwylliant yng Nghymru yn y 19eg a'r 20fed Ganrif (Yr Athro Gareth Williams)
- Ysgrifennu Hanes Cymru (Dr John Davies)
- Hanes Marcsiadd (Dr Martin Wright)
- Ysgrifennu Hanes Cymru (Yr Athro Prys Morgan)
Dilyn Ddoe: Eryr Mewn Coler Gron (1997)
Drama-ddogfen sy'n olrhain y gwrthdaro rhwng dau safbwynt gwahanol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Un o'r personau mwyaf amlwg yn yr ymgyrch recrwitio ar gyfer y fyddin Gymreig oedd y Parchedig John Williams, Brynsiencyn, ond roedd y newyddiadurwr ifanc E. Morgan Humphreys yn anniddig ynglyn a'r orfodaeth filwrol a ddaeth i rym ym 1917. Elidir, 1997.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Dilyn Ddoe: Hynt Dau Gymro – Lloyd George a William Morris (1996)
Prin iawn yw'r Cymry sydd wedi eu hethol yn Brif Weinidogion. Mae'n siwr mai David Lloyd George yw'r unig un sy'n dod i feddwl llawer ohonom. Ond ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd Cymro Cymraeg arall yn Brif Weinidog, a hynny'n bell o rif 10 Stryd Downing - ym mhen draw'r byd yn Awstralia. William Morris Hughes oedd ei enw a hanes y g?r hwnnw a'i berthynas â Lloyd George fydd dan sylw yn y rhaglen hon yng nghyfres Dilyn Ddoe. Elidir, 1996.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.