Ychwanegwyd: 14/11/2022 Dyddiad cyhoeddi: 2022 900 Cymraeg Yn Unig

Cymru’r 18fed ganrif hir

Disgrifiad

'Cymru’r 18fed ganrif hir. Adnoddau Cymraeg o Gasgliad Salisbury Prifysgol Caerdydd'

Ceir yma arolwg ac ambell eitem digidol o Gasgliadau Arbennig Llyfrgell Dyniaethau Prifysgol Caerdydd i gasglu, disgrifio a chategoreiddio ffynonellau gwreiddiol yn y Gymraeg o’r ddeunawfed ganrif hir.

Mae’r adnodd digidol hwn yn addas i ystod eang o ymchwilwyr – o athrawon CA4 a CA5 a’u disgyblion, myfyrwyr ac ymchwilwyr ar gyfer doethuriaeth a thu hwnt.

Y categorïau a ddyfeisiwyd ac sy’n weladwy ar dabiau ar frig bob tudalen yw:

  • Crefydd
  • Cymdeithas
  • Addysg
  • Ofergoelion
  • Gwrachyddiaeth
  • Chwedlau
  • Yr Iaith Gymraeg
  • Cymru a’r Byd
  • Gwleidyddiaeth.

Ceir is-gategorïau ym mhob un o’r categorïau, wedi eu lleoli ar ochr chwith tudalen pob categori. O dan ‘Crefydd’, e. e., ceir gweithiau wedi eu rhestru o dan: Yr Eglwys Sefydledig, Methodistiaid, Bedyddwyr, Annibynwyr, Crynwyr, Undodwyr, Y Nefoedd ac Uffern, a Pregethau Gwleidyddol. O dan ‘Cymdeithas’, e. e., ceir: Y Werin, Crefftwyr, Y Dosbarth Canol, Merched, Boneddigion.

Yn ychwanegol, digideiddiwyd eitemau pwysig nodweddiadol o gategori a’u gwelyo yn y rhestr mewn ffordd i’r (d)defnyddiwr(aig) eu chwyddhau heb golli’r manylder, gwneud anodiadau, a’u lawrlwytho. Defnyddiwyd y rhaglen Alma newydd sbon ar gyfer hyn, sydd yn caniatáu defnydd llawn. Dynodir eitemau sydd wedi eu ddigideiddio drwy gynnwys dolen.
 

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch, UG/Safon Uwch
Perthyn i
Hanes, Cymraeg, Addysg Grefyddol
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Casgliad
mân lun Cymru'r 18fed ganrif

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.