Podlediad sy’n trin a thrafod agweddau ar fyd addysg sy’n datblygu disgyblion i fod yn siaradwyr Cymraeg yng nghyd-destun anelu at filiwn o siaradwyr. Bydd y podlediad yn apelio at unrhyw un sy’n dilyn cwrs hyfforddi athrawon, yn athro newydd gymhwyso, neu’n aelod o’r gweithlu addysg. Bydd o ddiddordeb hefyd i unrhyw un sydd eisiau gwybod mwy am rôl byd addysg wrth anelu at gyrraedd miliwn o siaradwyr. Mae'n adnodd arbennig o dda i gydfynd â'r Fframwaith Cymwyseddau Iaith i Ymarferwyr Addysg.
Am Filiwn: Podlediad
Adnoddau Trawsieithu
Adnoddau gan Dr Alex Lovell, Prifysgol Abertawe i gynorthwyo gyda'r sgil o Drawsieithu, sy'n rhan o fanyleb Cymraeg Ail Iaith UG/Safon Uwch (U2 Uned 5, Adran B).
Adnoddau yn cynnwys:
- Gweithdy Iaith: Trawsieithu - darlith fideo
- Sleidiau PowerPoint Gweithdy Iaith Trawsieithu
- Taflen waith Trawsieithu
Mae'r adnoddau yn:
- ystyried beth yw 'trawsieithu' a beth yw'r manteision?
- trafod sut i ysgrifennu trawsieithiad effeithiol
- dadansoddi enghraifft dda
- cynnig tasgau i ymarfer sgiliau trawsieithu ymhellach
Adnoddau wedi eu creu gan Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe, o dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Panel Trafod: Yr Hengerdd a Dafydd ap Gwilym
Dyma gyfle gwerthfawr i glywed panel o arbenigwyr yn trafod Yr Hengerdd a cherddi Dafydd ap Gwilym.
Yn ystod y sesiwn, ceir trafodaeth ar waith Aneirin, Talieisin a Dafydd ap Gwilym gan arbenigwyr ar yr hengerdd a'r cywyddau, sef Yr Athro Jerry Hunter, Dr Aled Llion Jones a'r Athro Peredur Lynch, y tri o Adran y Gymraeg, Prifysgol Bangor.
Addas yn benodol ar gyfer disgyblion blwyddyn 13 sy'n astudio ar gyfer arholiad Cymraeg (Uned 5) ond o ddiddordeb yn ehangach hefyd i unrhyw un sydd â diddordeb yng ngwaith y beirdd hyn.
Sesiwn a recordiwyd yn Pontio, Bangor, yn ystod mis Mai 2023, mewn cydweithrediad rhwng Adran y Gymraeg Prifysgol Bangor a Pontio. Noddir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Chwilio am fwy o adnoddau adolygu? Gwyliwch ein sesiynau adolygu Ar-lên sydd ar gael yma neu yma.
Panel Trafod: Branwen
Dyma gyfle gwerthfawr i glywed panel o arbenigwyr yn trafod y chwedl, Branwen, ferch LlÅ·r.
Yn ystod y sesiwn, ceir trafodaeth ar amrywiol agweddau o’r chwedl gan arbenigwyr ar ryddiaith yr Oesoedd Canol, sef Yr Athro Jerry Hunter a Dr Aled Llion Jones, Prifysgol Bangor, a Dr Rhiannon Ifans.
Addas yn benodol ar gyfer disgyblion blwyddyn 13 sy'n astudio'r chwedl ar gyfer arholiad Cymraeg (Uned 5) ond o ddiddordeb yn ehangach hefyd i unrhyw un sydd â diddordeb yn rhyddiaith yr Oesoedd Canol.
Sesiwn a recordiwyd yn Pontio, Bangor, yn ystod mis Ebrill 2023, mewn cydweithrediad rhwng Adran y Gymraeg Prifysgol Bangor a Pontio. Noddir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Chwilio am fwy o adnoddau ar Branwen? Gwyliwch ein sesiynau adolygu Ar-lên sydd ar gael yma.
Panel Trafod: Hedd Wyn
Dyma gyfle gwerthfawr i glywed panel o arbenigwyr yn trafod y ffilm arobryn, Hedd Wyn, a sgriptiwyd gan Alan Llwyd ac a gyfarwyddwyd gan Paul Turner.
Yn ystod y sesiwn, geir trafodaeth ar amrywiol agweddau o’r ffilm gan gynnwys y cyd-destun hanesyddol a diwylliannol, y themâu yr ymdrinnir â hwy, y portread o’r cymeriadau a’r berthynas rhyngddynt yn ogystal â’r defnydd o symbolaethau o fewn y ffilm. Ystyrir hefyd bwysigrwydd a chyfraniad y ffilm o fewn cyd-destun Cymreig a rhyngwladol.
Panel yn cynnwys Dr Manon Wyn Williams a'r Athro Gerwyn Wiliams, Prifysgol Bangor, yr actor Huw Garmon a Naomi Jones, Pennaeth Treftadaeth yr Ysgwrn.
Addas yn benodol ar gyfer disgyblion blwyddyn 12 sy'n astudio'r ffilm ar gyfer arholiad llafar Cymraeg UG (Uned 1), ond o ddiddordeb yn ehangach hefyd i unrhyw un sydd â diddordeb yn yr hanes.
Sesiwn a recordiwyd yn Pontio, Bangor, yn ystod mis Mawrth 2023, mewn cydweithrediad rhwng Adran y Gymraeg Prifysgol Bangor a Pontio. Noddir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Chwilio am fwy o adnoddau ar Hedd Wyn? Gwyliwch ein sesiwn adolygu Ar-lên sydd ar gael yma.
Dewisa Lefel A Cymraeg: Ymgyrch ac adnoddau
Ymgyrch a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw Dewisa Lefel A Cymraeg sy'n ceisio annog rhagor o ddysgwyr ifanc i astudio Lefel A Cymraeg drwy ddarparu adnoddau hyrwyddo i godi ymwybyddiaeth o’r manteision di-ben-draw sydd gan yr iaith i fywyd academaidd, gwaith a chyfleoedd diwylliannol.
Mae gan yr ymgyrch, a lansiwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru, gynnwys y gall athrawon ac ysgolion ei ddefnyddio fel ffordd o ennyn diddordeb dysgwyr, rhieni a gofalwyr yn y Gymraeg drwy’r canlynol:
- Tynnu sylw at y ffaith bod Lefel A Cymraeg yn agor drysau i gyfoeth o lwybrau prifysgol
- Pwysleisio’r amrywiaeth o yrfaoedd a diwydiannau lle mae’r Gymraeg yn sgil gwerthfawr iawn
- Rhoi cipolwg ar ehangder ac amrywiaeth cwricwlwm Lefel A Cymraeg
- Arddangos Lefel A Cymraeg fel pwnc modern, creadigol a pherthnasol
- Gwahodd dysgwyr i ymuno â chymuned lewyrchus o siaradwyr Cymraeg sy’n angerddol am eu diwylliant, eu treftadaeth a’r iaith
Mae'r adnoddau yn cynnwys:
- Cynnwys gweledol: instazines, cardiau proffil, dyfyniadau, negeseuon holi ac ateb, negeseuon chwilio
- Fideos
- Posteri amrywiol
- Asedau cyfryngau cymdeithasol (GIFs)
- Pecyn cymorth athrawon
Gellir defnyddio a rhannu'r adnoddau yn ddigidol neu mewn print, ar y cyfryngau cymdeithasol neu drwy eu hymgorffori mewn cyflwyniadau a phrospectws.
Mae'r holl gynnwys ar gael yn ddwyieithog i'w lawrlwytho drwy'r ddolen Dropbox isod.
I gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch neu am y Gymraeg fel pwnc yn gyffredinol, cysylltwch â Dr Ffion Eluned Owen, Swyddog Hyrwyddo’r Gymraeg fel Pwnc y Coleg: ff.owen@colegcymraeg.ac.uk.
Cyfres Beirdd yr Uchelwyr
Mae Cyfres Beirdd yr Uchelwyr yn cyflwyno golygiadau safonol o farddoniaeth y beirdd a ganai yng Nghymru rhwng 1282 a chanol yr unfed ganrif ar bymtheg.
Mae’r Gyfres wedi ei hanelu at unrhyw un sydd am ddysgu mwy am farddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol – myfyrwyr ac ymchwilwyr Prifysgol, a hefyd unrhyw un sydd am ddysgu mwy am hanes ein traddodiad barddol, neu am hanes ryw ardal benodol ers talwm.
Os am ddysgu mwy am un bardd yn benodol, gellid dechrau drwy ddarllen y Rhagymadrodd i’w waith, cyn troi at y cerddi eu hunain. Mae digon o gymorth mewn aralleiriadau a nodiadau i helpu gyda’r dehongli.
Cyflwynir y cerddi yn orgraff heddiw a cheir nodiadau manwl ar bob cerdd sy'n esbonio unrhyw anawsterau yn y testun a hefyd y cyfeiriadau at bobl, lleoedd a chymeriadau hanesyddol a chwedlonol. O flaen gwaith pob bardd, ceir rhagymadrodd yn trafod bywyd y bardd, ei ddyddiadau, ei noddwyr a natur ei farddoniaeth. Ar ddiwedd pob cyfrol ceir mynegeion a rhestrau llawn o’r llawysgrifau a ddefnyddiwyd yn sail i’r golygiad.
Mae'r gwaith yn ffrwyth prosiect ymchwil a gynhaliwyd yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth gan dîm o ymchwilwyr dan nawdd Prifysgol Cymru, yr AHRC ac eraill.
Stori Fer: Pwy Fyth a Fyddai'n Fetel? (Adnoddau)
Adnoddau adolygu'r stori fer 'Pwy Fyth a Fyddai'n Fetel?' gan Mihangel Morgan (o'r gyfrol Saith Pechod Marwol), sef un o'r straeon byrion ar fanyleb Cymraeg Ail Iaith UG/Safon Uwch (U2 Uned 6: Defnyddio Iaith a'r Stori Fer).
Adnoddau yn cynnwys:
- Animeiddiad fideo o'r stori (gyda a heb isdeitlau)
- Darlith Fideo a chyflwyniad PowerPoint gan Yr Athro Tudur Hallam yn trafod y stori 'Pwy Fyth a Fyddai'n Fetel?'
- Darlith Fideo a chyflwyniad PowerPoint gan Yr Athro Tudur Hallam yn sôn am eirfa ac ymadroddion defnyddiol i'w defnyddio wrth drafod y stori fer
Adnoddau wedi eu creu gan Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe, o dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Panel Trafod: Dod â Siwan yn Fyw
Cyfle gwerthfawr i glywed panel o arbenigwyr ac wynebau cyfarwydd ym myd y ddrama Gymraeg yn trafod y ddrama Siwan gan Saunders Lewis.
Panel yn cynnwys Dr Manon Wyn Williams, Prifysgol Bangor, Dr Llio Mai, a'r actorion Ffion Dafis a Dyfan Roberts.
Yn ystod y sesiwn, ceir trafodaeth ar amrywiol agweddau o’r ddrama gan gynnwys ei hiaith, ei themâu, ei strwythur a’i chymeriadau gan hefyd ystyried ei chyfraniad o fewn cyd-destun y ddrama Gymraeg.
Addas yn benodol ar gyfer disgyblion blwyddyn 12 sy'n astudio'r ddrama ar gyfer arholiad llafar Cymraeg UG (Uned 1), ond o ddiddordeb yn ehangach hefyd i unrhyw un sydd â diddordeb mewn drama.
Sesiwn a recordiwyd yn Pontio, Bangor, yn ystod mis Mawrth 2023, mewn cydweithrediad rhwng Adran y Gymraeg Prifysgol Bangor a Pontio. Noddir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Chwilio am fwy o adnoddau ar Siwan? Gwyliwch ein sesiwn adolygu Ar-lên sydd ar gael yma.
Ar-lên 2023: Sesiynau Adolygu UG/Safon Uwch
Mae'r gweminarau adolygu byw hyn yn cael eu trefnu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer myfyrwyr blwyddyn 12 a 13 sy'n astudio Cymraeg Iaith Gyntaf UG/Safon Uwch. Bydd y sesiynau'n cael eu cynnal gan ddarlithwyr o adrannau Cymraeg prifysgolion Bangor, Aberystwyth, Abertawe a Chaerdydd, a llenorion ac academyddion blaenllaw eraill, gyda'r bwriad o gyfoethogi eich dealltwriaeth o rai o'r testunau llenyddiaeth yr ydych yn eu hastudio yn y dosbarth.
Bydd y sesiynau'n cael eu cynnal yn Gymraeg drwy Zoom rhwng 4.30-5.30pm ar brynhawniau Mercher, gyda'r sesiwn gyntaf ar bnawn Mercher 1 Mawrth 2023.
Amserlen:
- 1 Mawrth 2023: Dan Gadarn Goncrit (Mihangel Morgan), Dr Miriam Elin Jones, Prifysgol Abertawe (Bl.13)
- 8 Mawrth 2023: Mis Mai a Mis Tachwedd (Dafydd ap Gwilym), Iestyn Tyne (Bl.13)
- 15 Mawrth 2023: Blasu (Manon Steffan Ros), Dr Manon Wynn Davies (Bl.13)
- 23 Mawrth 2023: Un Nos Ola Leuad (Caradog Pritchard), Dr Siwan Rosser, Prifysgol Caerdydd (Bl.13) *Dydd Iau*
- 29 Mawrth 2023: Y Gymraeg mewn cyd-destun, Gruffydd Rhys Davies, Prifysgol Aberystwyth (Bl.13)
- 19 Ebrill 2023: 'Aneirin' (Iwan Llwyd), Dr Elis Dafydd, Prifysgol Bangor (Bl.12)
- 26 Ebrill 2023: 'Preseli' (Waldo Williams), Dr Elan Grug Muse (Bl.12)
- 3 Mai 2023: Ymarfer Papur Gramadeg, Yr Athro Peredur Lynch, Prifysgol Bangor (Bl.12)
Bydd y ddolen ar gyfer y digwyddiad yn cael ei hanfon atoch ar e-bost ar y diwrnod neu'r diwrnod cynt. Croeso i ddisgyblion, myfyrwyr, athrawon ac athrawon dan hyfforddiant. Ni fyddwn yn gallu eich gweld, ond bydd modd defnyddio'r botwm sgwrsio i gyfrannu neu ofyn cwestiwn.
Cofiwch ddilyn cyfrif Twitter @CymraegCCC a chyfrif Instagram @instagymraeg am fwy o wybodaeth a newyddion am y Gymraeg fel Pwnc.
I gofrestru, cliciwch ar y ddolen ffurflen gofrestru isod:
Gweminar Astudio Cymraeg yn y brifysgol (2022)
Ym mlwyddyn 12 neu 13? Eisiau gwybod mwy am astudio Cymraeg fel pwnc yn y brifysgol? Dewch i gael mwy o wybodaeth am yr hyn sydd ar gael, ac i glywed barn ein llysgenhadon sy'n astudio'r pwnc am eu cyrsiau a'u bywyd fel myfyrwyr y Gymraeg.
Cyflwyniad a recordiwyd ym mis Tachwedd 2022. Mae'n cynnwys:
- Cyflwyniad am astudio Cymraeg yn y brifysgol (hyd at 29 munud) e.e. Lle mae modd astudio? Beth sydd modd ei astudio - o ran cyrsiau a modiwlau? Pa gymorth ariannol sydd ar gael?
- Sgwrs rhwng ein interniaid (Aled a Hari) â'n llysgenhadon cyfredol am astudio Cymraeg yn y brifysgol (19 munud ymlaen)
Cyflwyniad cyfrwng Cymraeg yng nghwmni Aled (Prifysgol Bangor); Hari a Deio (Prifysgol Caerdydd); Elain (Prifysgol Aberystwyth); a Cara ac Elen (Prifysgol Abertawe).
Cymru’r 18fed ganrif hir
'Cymru’r 18fed ganrif hir. Adnoddau Cymraeg o Gasgliad Salisbury Prifysgol Caerdydd'
Ceir yma arolwg ac ambell eitem digidol o Gasgliadau Arbennig Llyfrgell Dyniaethau Prifysgol Caerdydd i gasglu, disgrifio a chategoreiddio ffynonellau gwreiddiol yn y Gymraeg o’r ddeunawfed ganrif hir.
Mae’r adnodd digidol hwn yn addas i ystod eang o ymchwilwyr – o athrawon CA4 a CA5 a’u disgyblion, myfyrwyr ac ymchwilwyr ar gyfer doethuriaeth a thu hwnt.
Y categorïau a ddyfeisiwyd ac sy’n weladwy ar dabiau ar frig bob tudalen yw:
- Crefydd
- Cymdeithas
- Addysg
- Ofergoelion
- Gwrachyddiaeth
- Chwedlau
- Yr Iaith Gymraeg
- Cymru a’r Byd
- Gwleidyddiaeth.
Ceir is-gategorïau ym mhob un o’r categorïau, wedi eu lleoli ar ochr chwith tudalen pob categori. O dan ‘Crefydd’, e. e., ceir gweithiau wedi eu rhestru o dan: Yr Eglwys Sefydledig, Methodistiaid, Bedyddwyr, Annibynwyr, Crynwyr, Undodwyr, Y Nefoedd ac Uffern, a Pregethau Gwleidyddol. O dan ‘Cymdeithas’, e. e., ceir: Y Werin, Crefftwyr, Y Dosbarth Canol, Merched, Boneddigion.
Yn ychwanegol, digideiddiwyd eitemau pwysig nodweddiadol o gategori a’u gwelyo yn y rhestr mewn ffordd i’r (d)defnyddiwr(aig) eu chwyddhau heb golli’r manylder, gwneud anodiadau, a’u lawrlwytho. Defnyddiwyd y rhaglen Alma newydd sbon ar gyfer hyn, sydd yn caniatáu defnydd llawn. Dynodir eitemau sydd wedi eu ddigideiddio drwy gynnwys dolen.