Ychwanegwyd: 11/04/2024 Dyddiad cyhoeddi: 2024 111 Cymraeg Yn Unig

Prosiect Pūtahitanga: Cerddoriaeth, Iaith, a Hunaniaeth

Disgrifiad

Pūtahitanga: gair te reo Māori (yr iaith Māori) sy’n disgrifio cymuned yn dod at ei gilydd er mwyn cydweithio ar syniad, pwnc, neu her benodol. Mae’r gair yn ymgorffori ethos y prosiect ymchwil sy’n ei ddefnyddio fel teitl: Prosiect Pūtahitanga. Dyma brosiect sy’n archwilio cerddoriaeth boblogaidd, iaith a hunaniaeth yn y cyd-destun Cymreig a’r cyd-destun Māori. 

Fel rhan o’r prosiect, cafodd Dr Elen Ifan o Brifysgol Caerdydd Grant Arloesi gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i redeg gweithdai yn Aotearoa (Seland Newydd) a Chymru gyda cherddorion sy’n defnyddio’r iaith Māori a’r iaith Gymraeg yn eu gwaith. Mae’r adnodd hwn yn rhannu clipiau o’r gweithdy yng Nghaerdydd ac yn cynnwys gweithgareddau i’ch cynnwys chi yn ein ymchwil hefyd.

Mae wedi’i gynllunio ar gyfer myfyrwyr addysg uwch yn bennaf, ond mae hefyd yn berthnasol i unrhyw un sy’n ymddiddori mewn cerddoriaeth boblogaidd Gymraeg ac mae’r daflen waith yn addas ar gyfer lefel UG a Safon Uwch hefyd.

Bwriad y prosiect yn ei hanfod yw dod o hyd i bwyntiau cyswllt rhwng profiadau cerddorion sy’n defnyddio dwy iaith leiafrifol (y Gymraeg a te reo (yr iaith) Māori), gan geisio deall yr heriau amrywiol sy’n wynebu’r cymunedau cerddorol hyn, ond heb gymharu’n uniongyrchol. Mae’r prosiect yn defnyddio dulliau ymchwil creadigol ac yn cynnwys cynulleidfaoedd yn yr ymchwil. Mae’r adnodd hwn yn rhan o’r gwaith hwnnw.

Mae’r ffeiliau fideo yn cynnwys cyflwyniad gan y prif ymchwilydd a chlipiau o weithdy a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd 2023. Mae’r daflen waith yn arwain y sawl sy'n defnyddio'r adnodd drwy'r gweithgareddau, eu hannog i ymwneud gyda themâu’r prosiect, meddwl am beth sy’n berthnasol neu’n bwysig iddyn nhw, ac yn gwahodd ymatebion creadigol i’r ymchwil.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch, Ôl-16 a Galwedigaethol, UG/Safon Uwch
Perthyn i
Cymraeg, Cerddoriaeth
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Adnodd Coleg Cymraeg Casgliad
mân lun prosiect Pūtahitanga

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.