Pūtahitanga: gair te reo Māori (yr iaith Māori) sy’n disgrifio cymuned yn dod at ei gilydd er mwyn cydweithio ar syniad, pwnc, neu her benodol. Mae’r gair yn ymgorffori ethos y prosiect ymchwil sy’n ei ddefnyddio fel teitl: Prosiect Pūtahitanga. Dyma brosiect sy’n archwilio cerddoriaeth boblogaidd, iaith a hunaniaeth yn y cyd-destun Cymreig a’r cyd-destun Māori. Fel rhan o’r prosiect, cafodd Dr Elen Ifan o Brifysgol Caerdydd Grant Arloesi gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i redeg gweithdai yn Aotearoa (Seland Newydd) a Chymru gyda cherddorion sy’n defnyddio’r iaith Māori a’r iaith Gymraeg yn eu gwaith. Mae’r adnodd hwn yn rhannu clipiau o’r gweithdy yng Nghaerdydd ac yn cynnwys gweithgareddau i’ch cynnwys chi yn ein ymchwil hefyd. Mae wedi’i gynllunio ar gyfer myfyrwyr addysg uwch yn bennaf, ond mae hefyd yn berthnasol i unrhyw un sy’n ymddiddori mewn cerddoriaeth boblogaidd Gymraeg ac mae’r daflen waith yn addas ar gyfer lefel UG a Safon Uwch hefyd. Bwriad y prosiect yn ei hanfod yw dod o hyd i bwyntiau cyswllt rhwng profiadau cerddorion sy’n defnyddio dwy iaith leiafrifol (y Gymraeg a te reo (yr iaith) Māori), gan geisio deall yr heriau amrywiol sy’n wynebu’r cymunedau cerddorol hyn, ond heb gymharu’n uniongyrchol. Mae’r prosiect yn defnyddio dulliau ymchwil creadigol ac yn cynnwys cynulleidfaoedd yn yr ymchwil. Mae’r adnodd hwn yn rhan o’r gwaith hwnnw. Mae’r ffeiliau fideo yn cynnwys cyflwyniad gan y prif ymchwilydd a chlipiau o weithdy a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd 2023. Mae’r daflen waith yn arwain y sawl sy'n defnyddio'r adnodd drwy'r gweithgareddau, eu hannog i ymwneud gyda themâu’r prosiect, meddwl am beth sy’n berthnasol neu’n bwysig iddyn nhw, ac yn gwahodd ymatebion creadigol i’r ymchwil.
Prosiect Pūtahitanga: Cerddoriaeth, Iaith, a Hunaniaeth
Am Filiwn: Podlediad
Podlediad sy’n trin a thrafod agweddau ar fyd addysg sy’n datblygu disgyblion i fod yn siaradwyr Cymraeg yng nghyd-destun anelu at filiwn o siaradwyr. Bydd y podlediad yn apelio at unrhyw un sy’n dilyn cwrs hyfforddi athrawon, yn athro newydd gymhwyso, neu’n aelod o’r gweithlu addysg. Bydd o ddiddordeb hefyd i unrhyw un sydd eisiau gwybod mwy am rôl byd addysg wrth anelu at gyrraedd miliwn o siaradwyr. Mae'n adnodd arbennig o dda i gydfynd â'r Fframwaith Cymwyseddau Iaith i Ymarferwyr Addysg.
Separado! (2012)
Mae'r seren bop Gymreig Gruff Rhys (Super Furry Animals) yn ein tywys ar wibdaith dros sawl cyfandir i ddarganfod ewythr colledig ym Mhatagonia - y gitarydd mewn poncho, René Griffiths. Ym 1880, yn dilyn ras geffylau ddadleuol wnaeth arwain at farwolaeth amheus, rhwygwyd teulu Gruff Rhys pan ymunodd Dafydd Jones a'i deulu ifanc â'r fintai i'r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia, De America. Ni fu cysylltiad rhwng y ddwy gangen deuluol am bron i ganrif, tan ddaeth René Griffiths i Gymru ym 1974 i wefreiddio cynulleidfaoedd gyda'i ganeuon serch Hisbaenaidd. Dilyna'r cyfarwyddwr Dylan Goch daith Gruff Rhys trwy theatrau, clybiau nos a thai te Cymru, Brasil ac Andes yr Ariannin, wrth iddo ddarganfod hanes ei deulu, Cymry Patagonia, a'u hetifeddiaeth gerddorol. Soda, 2012. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Ffrainc a Cymru 1830–1880: Dehongliadau Ffrengig o Genedl Ddiwladwriaeth – Paul O'Leary
Prif amcan yr e-lyfr hwn gan yr Athro Paul O'Leary yw archwilio'r modd y cafodd Cymru ei dehongli gan sylwebyddion a theithwyr Ffrangeg eu hiaith yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gwneir hyn trwy gyflwyno ffynonellau yn yr iaith wreiddiol gyda chyfieithiadau i'r Gymraeg o destunau nad ydynt, hyd yn hyn, wedi'u defnyddio gan haneswyr. Maent yn dangos yr amrywiaeth o drafodaethau am Gymru a gafwyd yn Ffrainc, yn bennaf yn yr hanner canrif rhwng tua 1830 a'r 1870au pan drawsnewidiwyd Cymru gan dwf yn y boblogaeth (yng ngwlad a thref) a diwydiannu prysur. Mae'r ffynonellau yn ymwneud â thair thema oedd yn ganolog i fywyd yr oes: y duedd ymhlith rhai carfannau o bobl i wrthryfela yn erbyn awdurdod mewn cyfnod o newidiadau cymdeithasol ac economaidd sylfaenol; yr ysfa i wybod am wreiddiau ac effeithiau twf diwydiant a masnach; a safle iaith ddiwladwriaeth a'i diwylliant mewn cyfnod pan oedd gwledydd Ewrop yn ymdrechu i greu cymunedau cenedlaethol uniaith ac unffurf.
Manon Mathias, 'Meiddio Byw': Agwedd y llenor at fywyd yng ngohebiaeth George Sand, Gustave Flaubert, Kate Rob...
Yn yr erthygl hon, cymherir llythyron adnabyddus Kate Roberts a Saunders Lewis â gohebiaeth dau o awduron blaenllaw Ffrainc y bedwaredd ganrif ar bymtheg, Gustave Flaubert a George Sand, gan ystyried gwerth a phwrpas gohebiaeth i lenorion. Yn ogystal â dyfnhau ein dealltwriaeth o waith Kate Roberts a Saunders Lewis, y mae'r erthygl hefyd yn gosod gohebiaeth Sand a Flaubert mewn cyd-destun gwahanol ac yn ystyried datblygiad gohebiaeth lenyddol ar hyd y blynyddoedd. Deuir i gasgliadau gwreiddiol drwy ddangos bod llythyron llenyddol yn parhau i gyflawni swyddogaeth hollbwysig i awduron yn yr ugeinfed ganrif: cynnig anogaeth a chyngor, cyfle i ddianc rhag eu hamgylchiadau, ac arf hanfodol yn eu brwydr yn erbyn gwagedd cymdeithas fodern. Manon Mathias, '“Meiddio Byw”: Agwedd y llenor at fywyd yng ngohebiaeth George Sand, Gustave Flaubert, Kate Roberts a Saunders Lewis', Gwerddon, 12, Rhagfyr 2012, 79-95.
Rhianedd Jewell, 'Iaith a hunaniaeth yng ngwaith Grazia Deledda' (2013)
Bwriad yr erthygl hon yw tynnu sylw at nodweddion diddorol gwaith Grazia Deledda (1871-1936), awdures o Sardinia sydd heb dderbyn sylw beirniadol digonol. Mae'r erthygl yn trafod y berthynas rhwng hunaniaeth, iaith ac adrodd mewn dwy nofel bwysig gan Deledda, sef La madre (Y Fam) ac Il segreto dell'uomo solitario (Cyfrinach y dyn unig). Dadansoddir sut y mae'r ddau brif gymeriad yn ceisio deall eu hunaniaethau, gan wynebu eu gofidion a'u gobeithion am fywyd. Gwelwn ar y naill law bod rhyngweithio ieithyddol yn hanfodol i rai, tra bod iaith ei hun yn arf sy'n galluogi eraill i reoli hunaniaeth. Rhianedd Jewell, 'Iaith a hunaniaeth yng ngwaith Grazia Deledda', Gwerddon, 15, Gorffennaf 2013, 9-24.
Seiriol Dafydd, 'Ailddiffinio cyfeillgarwch yn nofel Michael Roes Geschichte der Freundschaft (2010)' (2013)
Mae'r erthygl hon yn dadansoddi'r modd y mae Michael Roes yn ailddiffinio cyfeillgarwch yn ei nofel Geschichte der Freundschaft (Hanes Cyfeillgarwch) drwy ddefnyddio testunau llenorion ac athronwyr eraill. Ar ôl gosod nofel Roes yn ei chyd-destun hanesyddol a diwylliannol, bydd yr erthygl yn cymharu Geschichte der Freundschaft â nofel Tahar Ben Jelloun, Partir / Leaving Tangier (2006). Mae rhan olaf yr erthygl yn dadansoddi defnydd Roes o ryngdestunau sy'n ymwneud â chyfeillgarwch rhwng dynion. Canolbwyntir ar ddefnydd Roes o elfennau a fenthycodd o destunau Friedrich Nietzsche a Michel Foucault, er mwyn yn taflu goleuni ar ymdriniaeth Roes ar thema ganolog y nofel, sef cyfeillgarwch rhwng dynion, a natur perthynas gyfunrywiol. Seiriol Dafydd, 'Ailddiffinio cyfeillgarwch yn nofel Michael Roes Geschichte der Freundschaft (2010)', Gwerddon, 15, Gorffennaf 2013, 25-40.
Sophie Smith, 'Chwilio am oddrychedd yn L'homme rompu gan Tahar Ben Jelloun' (2013)
Yn dilyn crynodeb o ddamcaniaethau diweddar ynglÅ·n â gwrywdod a hunaniaeth, mae'r erthygl hon yn canolbwyntio ar y portread o wrywdod yn L'Homme rompu (Y Dyn Toredig), sef nofel gan un o awduron mwyaf adnabyddus Moroco, Tahar Ben Jelloun. Yn ogystal â chyfeirio at y fframwaith theoretig er mwyn dadlau bod L'Homme rompu yn arddangos sut mae pwysau disgwrsaidd yn effeithio ar unigolion, cynigir ystyriaeth fanwl o bortread gwrywdod a hunaniaeth yn y nofel, a thrwy gyfeirio at ei chwaer-nofel answyddogol, La Femme rompue (Y Ddynes Doredig) gan Simone de Beauvoir, cwestiynir i ba raddau y mae'r datganiad dirfodol am ddewis yr unigolyn a goddrychedd yn parhau i fod yn gywir yn sgil yr hinsawdd damcaniaethol cyfredol. Sophie Smith, 'Chwilio am oddrychedd yn L'homme rompu gan Tahar Ben Jelloun', Gwerddon, 15, Gorffennaf 2013, 41-59.