Gwefan Addysgwyr Cymru sy'n cynnwys manylion am y gwahanol yrfaoedd sydd ar gael mewn:
- Ysgolion
- Addysg Bellach
- Dysgu Seiliedig ar Waith
- Gwaith Ieuenctid
- Addysg Oedolion
- Hyrwyddwyr Addysg
Gwefan Addysgwyr Cymru sy'n cynnwys manylion am y gwahanol yrfaoedd sydd ar gael mewn:
Mae’r rhestr chwarae yma yn cynnwys 5 cwrs ar-lein ar gyfer ymarferwyr addysgu ôl-16 i archwilio’r defnydd o fodelau a damcaniaethau technoleg dysgu i’w helpu i ddatblygu eu dulliau dysgu cyfunol. Mae’r cyrsiau byr hyn wedi’u cynllunio mewn modd hyblyg i’ch galluogi i ‘blymio i mewn ac allan’. Mae’r cyrsiau wedi’u datblygu gan arbenigwyr Jisc, yn dilyn argymhellion gan Estyn, ac wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru.
Podlediad sy’n trin a thrafod pynciau sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc yng Nghymru heddiw yn ogystal a chael gwybod barn plant a phobl ifanc
Podlediad #1: Beth yw Plentyndod?
Yn y podlediad cyntaf hwn mae Dr Nia Young, Dr Sian Wyn Siencyn, Rowena Hughes Jones a Ceryl Davies yn trafod beth ydy ystyr plentyndod, beth mae'n olygu i fod yn blentyn yng Nghymru heddiw ac a ydy cymdeithas yn gwrando ar lais y plentyn.
Podlediad #2: Beth yw ieuenctid?
Yn y bennod yma Dr Nia Young, Dr Sian Wyn Siencyn, Owain Gethin Davies, a Ceryl Davies yn trafod beth yw ieuenctid?
Sut beth ydy bod yn berson ifanc yng Nghymru heddiw?
Podlediad #3: Beth sydd ei angen ar blentyn...?
Beth sydd ei angen ar blentyn er mwyn tyfu, datblygu a ffynnu?
Yn y podlediad hwn mae Ian Keith Jones (Pennaeth Ysgol San Sior, Llandudno) yn ymuno efo Dr Nia Young, Dr Siwan Roberts, Dr Margiad William a Rowena Hughes Jones o Ysgol Gwyddorau Addysg, Prifysgol Bangor i drafod beth sydd ei angen ar blentyn i ddatblygu a ffynnu. Pa mor bwysig ydy modelau rol, cysondeb a sefydlogrwydd? Beth ydy bod yn riant da?
Podlediad #4: Hawliau Plant
Yn y podlediad yma mae Rowena Hughes Jones, Dr Ceryl Davies, Gwenan Prysor, Arwyn Roberts a Chomisiynydd Plant Cymru, Yr Athro Sally Holland, yn ymuno efo Rhian Tomos i drafod hawliau plant a phobol ifanc.
Ydy plant yn gwybod pa hawliau sydd ganddyn nhw? A oes angen ychwanegu at yr hawliau yng ngoleuni Cofid 19?
Podlediad #5: Llais Rhieni
A ydy agweddau cymdeithas wedi newid tuag at blant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu neu anableddau corfforol a sut mae'r cyfnod Cofid wedi effeithio arnyn nhw? Ydan ni'n gwrando digon ar y rhieni a'r gofalwyr?
I gael gwybod mwy gwrandewch ar Elin Llwyd Morgan (mam Joel sydd ag awtistiaeth), Siôn Meredith, tad Huw (sydd a Syndrom Down), Dr Nia Young (darlithydd ym Mhrifysgol Bangor), Bethan Morris Jones, (Pennaeth Ysgol Pendalar, Caernarfon) a Lora Glynwen Williams, Swyddog Ansawdd, Gwasanaeth ADYaCH Gwynedd a Môn.
Podlediad #6: Beth ydy chwarae?
Beth ydy chwarae? Pa bryd rydan ni'n rhoi'r gorau i chwarae? Beth ydy pwrpas chwarae?
Gwrandewch ar y 6ed podlediad yn y gyfres o bodlediadau AM BLANT i glywed y drafodaeth gan aelodau'r panel a sylwadau pobl ifanc am eu profiadau nhw o chwarae.
Podlediad #7: Sut mae cerddoriaeth, celf a drama yn cyfrannu at ddatblygiad plentyn?
Podlediad wedi recordio’n fyw ar faes Eisteddfod Tregaron gyda Dr Gwenllian Lansdown Davies, Cerys Edwards, Elen ap Robert, Dr Mair Edwards a Dr Nia Young.
Pecyn adnoddau a ddatblygwyr gan Cymwysterau Cymru i gefnogi cyrff dyfarnu i ddarparu'r Cynnig Gweithredol.
Recordiad o ddarlith gan yr Athro Enlli Thomas o'r enw ‘Addysg, y pandemig a’r Gymraeg’.
Traddodwyd ar 26 Mai 2022.
Casgliad o adnoddau hylaw ar gyfer darlithwyr a hyfforddeion i hwyluso dysgu ac addysgu Cymraeg ail iaith ar draws y sector addysg cynradd. Gellir defnyddio'r matiau fel sail i ddarlithoedd, yn ganllaw ymarferol i hyrwyddo iaith achlysurol, ac fel cymorth i sicrhau cywirdeb wrth lunio taflenni, murluniau a modelu ysgrifennu.
Nid yw Cynllun Colegau Cymru yn bodoli bellach. Fe’i ddisodlwyd gan y Fframwaith Cymwyseddau Iaith i Ymarferwyr Addysg yn 2018. Dyma’r Fframwaith a fabwysiedir i fesur sgiliau iaith holl hyfforddeion ar gyrsiau Addysg Gychwynnol Athrawon. Mae’r tasgau a gweithgareddau iaith yn y deunyddiau isod yn parhau yn berthnasol ond nid yw’r cyfeiriadau penodol at y lefelau a’r camau oedd yn perthyn i Gynllun Colegau Cymru.
Beth am ddefnyddio meddalwedd cyfrifiadurol hwyliog yn eich addysgu ar-lein? Yma cewch ddysgu am wahanol blatfformau er mwyn creu profiadau dysgu amrywiol a defnyddiol ar gyfer eich myfyrwyr.
Yn yr adnodd hwn, cewch gyflwyniad i’r platfformau canlynol:
Cyflwynydd: Dr Nia Cole Jones
Mae Dr Nia Cole Jones yn uwch-ddarlithydd gyda’r Brifysgol Agored. Graddiodd â gradd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg o Brifysgol Aberystwyth, ac wedyn aeth yn ei blaen i astudio M.Phil a PhD ar ddatblygiad y Gymraeg ym meysydd chwaraeon a’r newyddion. Mae wedi gweithio mewn addysg uwch ers dros ddegawd, gan ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau iaith myfyrwyr ar draws pob lefel.
Amcanion y gweithdy
Cynnwys
Bydd y gweithdy ar-lein wedi ei rannu yn bedair rhan:
Cyflwynydd:
Dyddgu Hywel
Cefndir
Astudiodd Dyddgu gwrs ‘BSc (Anrh.) Dylunio a Thechnoleg Addysg Uwchradd yn arwain at Statws Athro Cymwysedig’ ym Mhrifysgol Bangor a graddiodd gyda gradd dosbarth cyntaf.
Bu’n ddarlithydd a thiwtor pwnc Dylunio a Thechnoleg Lefel A yng Ngholeg Meirion Dwyfor, cyn cael ei phenodi’n athrawes Dylunio a Thechnoleg yn Ysgol Gyfun Rhydywaun.
Erbyn hyn, mae wrth ei bodd yn gweithio fel uwch-ddarlithydd Addysg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, ac mae yno ers dros saith mlynedd bellach. Mae’n arbenigo mewn defnydd effeithiol o ddulliau addysgu, ymgysylltu â myfyrwyr a’r defnydd o dechnoleg.
Bydd y gweithdy hwn o fudd i fyfyrwyr ôl-radd sydd yn camu i’r byd addysgu am y tro cyntaf, ac eisiau datblygu ar lawr y dosbarth ac ar-lein wrth addysgu’n hyderus ac yn arloesol.
Cynhadledd ar-lein ac agored i bawb ar opsiynau gyrfa posib ym maes plant a phobl ifainc (heblaw addysgu). Cynhaliwyd y gynhadledd ar ddydd Mercher, 16 Chwefror 2022, drwy gyfrwng y Gymraeg (heb gyfieithu ar y pryd).
Mae modd gwylio recordiadau o'r sesiynau unigol isod:
Cynhadledd a gynhaliwyd ar 28 Ebrill 2021 ar gyfer myfyrwyr Seicoleg israddedig ac ôl-raddedig a phynciau cysylltiedig megis iechyd ac addysg. Croesawyd dysgwyr 17-18 oed yn y Gynhadledd.
Roedd cyflwyniadau'r bore yn dilyn themâu:
Yn y prynhawn, roedd Panel Gyrfaoedd gyda phobl yn cynrychioli’r gyrfaoedd canlynol:
Roedd hefyd cyfle i ofyn cwestiynau.
Gwelwyd cynnydd sylweddol yn y cyfraddau Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADCG) mewn dosbarthiadau yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mewn llenyddiaeth, cydnabyddir arwyddocâd agweddau athrawon tuag at ADCG wrth iddynt wneud penderfyniadau am atgyfeirio ac ymyrraeth (Anderson et al., 2012) a sut y mae eu hagweddau’n effeithio ar ymddygiad a chanlyniadau disgyblion (Rush a Harrison 2008). Mae angen i athrawon ddarparu cefnogaeth i’r plant hyn ond, yn aml, maent yn teimlo’n amwys tuag at ADCG oherwydd diffyg gwybodaeth ddigonol (Alkahtani 2013), gwybodaeth anghyson ynghylch yr anhwylder (Dryer, Kiernan a Tyson 2013), gwahanol ddisgwyliadau diwylliannol (Moon 2012) a systemau addysgol (Timimi a Radcliffe 2005). Mae’r papur hwn yn darparu adolygiad o’r llenyddiaeth ynghylch agweddau athrawon tuag at ADCG, yn archwilio’r cyfyngiadau yn y llenyddiaeth gyfredol a’r pryderon ynghylch mesur agweddau athrawon tuag at ADCG. Mae’r papur yn gorffen gydag argymhellion ar gyfer y dyfodol.
Wrth gyhoeddi ei Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg yn Ebrill 2010, nododd Llywodraeth Cynulliad Cymru bod y system addysg Gymraeg wedi chwarae rôl arweiniol ym maes addysg ddwyieithog ledled Ewrop a'r byd yn ystod yr hanner can mlynedd diwethaf. Wrth i'r gyfundrefn ddatblygu yn sgil y cynnydd yn niferoedd y disgyblion sy'n dymuno addysg ddwyieithog yng Nghymru, pwysleisir ei bod yn hanfodol i ni gadw golwg ar y patrymau a'r modelau sydd ar gael mewn cymunedau dwyieithog eraill sy'n llwyddo i integreiddio dwyieithrwydd neu amlieithrwydd yn eu darpariaeth er mwyn i ni ddeall eu perthnasedd i'n sefyllfa benodol ni yng Nghymru. Mae'r erthygl hon yn bwrw golwg dros y datblygiadau diweddaraf ym maes addysg ddwyieithog ar y llwyfan rhyngwladol gan ystyried beth yw'r prif negeseuon sy'n eu hamlygu eu hunain wrth i addysg o'r fath barhau i ddatblygu i ateb anghenion disgyblion mewn cymunedau dwyieithog ac amlieithog ledled y byd yn yr unfed ganrif ar hugain. W. Gwyn Lewis, 'Addysg ddwyieithog yn yr unfed ganrif ar hugain: Adolygu'r cyd-destun rhyngwladol', Gwerddon, 7, Ionawr 2011, 66-88.
Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.