Adnodd o wefan Hwb am yrfaoedd i ddysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 3 ac ymlaen sy'n tynnu sylw at yr hyn y mae'n ei olygu i gael gyrfa bortffolio yn y celfyddydau gweledol. Mae'r adnodd yn cynnwys 15 fideo sy'n dangos cyfleoedd yn y celfyddydau gweledol, gan gynnwys celf mewn gofal iechyd, addysg, celf gyhoeddus, arddangos a gweithio mewn orielau.
Gyrfaeoedd Portffolio yn y Celfyddydau Gweledol
Artistiaid o Gymru: Dehongli Celf
Strategaeth i helpu disgyblion o bob oedran ddehongli celf. Daw'r darnau yma o gasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru a daw'r adnodd o wefan Hwb Llywodraeth Cymru.
Lluniadu- Dobarth Meistr
Cymorth i athrawon a darlithwyr Celf a Dylunio ar godi sgiliau lluniadu dysgwyr yn seiliedig ar gymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch yn benodol ond gall fod o ddiddordeb i staff sy'n dysgu cyrsiau galwedigaethol ar lefelau 2 a 3 hefyd.
Mae'r pecyn yn darparu enghreifftiau ymarferol defnyddiol sy’n dangos yr holl wahanol fathau o luniadu y gellir eu hintegreiddio mewn cynlluniau gwaith. Fel yn achos ysgrifennu mae gan luniadu lawer o wahanol bwrpasau, ac mae’n bwysig bod myfyrwyr yn ymwybodol ohonynt a’u bod yn cael eu hargyhoeddi o werth caffael sgiliau priodol a fydd yn eu galluogi i ddatblygu eu syniadau creadigol a’u cyfleu’n weledol, ym mha ddisgyblaeth bynnag y byddant yn ei hastudio. Mae’r pecyn adnoddau hefyd yn cynnwys deg enghraifft o unedau gwaith sy’n sicrhau bod lluniadu, yn enwedig lluniadu arsylwadol ar sail ffynonellau gwreiddiol (nid ffotograffau), wrth wraidd cynlluniau gwaith cyrsiau sylfaen.
Celf a Dylunio ar y MAP 2023
"MYFYRWYR ARLOESI PERFFORMIO"
Nod ‘Celf a Dylunio ar y MAP’ yw cynnig cyfle unigryw i fyfyrwyr Celf a Dylunio cyfrwng Cymraeg i ddod ynghyd mewn un man i rannu a thrafod eu gwaith ac i elwa ar brofiad artistiaid ac eraill sy’n gweithio yn y diwydiant.
Thema’r ŵyl a chynhaliwyd yng Nghaerdydd oedd ‘Ail dehongli traddodiad’.
Mae’r fideo isod yn rhoi blas o’r ŵyl i chi.
Gweminarau Diwydiannau Creadigol i Ddysgwyr mewn Colegau Addysg Bellach (Tymor y Gwanwyn 2023)
Cyfres o weminarau i roi cyfle i ddysgwyr drafod eu pwnc trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd y siaradwyr gwadd canlynol yn dod i siarad gyda'r dysgwyr:
11.01.23 - Iwan England Pennaeth Di - Sgript S4C
18.01.23 - Naomi Hughes Arbenigwr Dylunio a Thechnoleg
25.01.23 - Izzy Rabey - Cyfarwyddwr Theatr a Cherddor
01.02.23 - Llio James - Dylunydd tecstiliau
08.02.23 - Rhuannedd Richards – Cyfarwyddwr BBC Cymru
15.02.23 - Huw Aaron -Awdur a Dylunydd
22.02.23- HANNER TYMOR
01.03.23 - Elan Elidyr - Dawnswraig
08.03.23 - Steffan Dafydd - Dylunydd a Cherddor
15.03.23 - Efa Blosse Mason - Animeiddiwr
22.03.23 – Taith
Bydd y gweminarau yn cael eu cynnal ar brynhawiau Mercher rhwng 14:00-15:00 rhwng 11/01/23 – 22/03/23 gan eithrio hanner tymor.
Celf a Dylunio ar y Map - 2022
MAP - Myfyrwyr, Arloesi, Perfformio
Gŵyl rithiol i fyfyrwyr Celf a Dylunio cyfrwng Cymraeg. Nod ‘Gŵyl Celf a Dylunio ar y MAP’ yw cynnig cyfle unigryw i fyfyrwyr Celf a Dylunio cyfrwng Cymraeg i ddod ynghyd mewn un man i rannu a thrafod eu gwaith ac i elwa ar brofiad artistiaid ac eraill sy’n gweithio yn y diwydiant. Cynhaliwyd yr ŵyl ar-lein eto eleni, gyda thair sesiwn yn ystod misoedd Chwefror a Mai.
- Wythnos 1: Cyflwyniadau gan yr artistiaid Luned Rhys Parri a Meinir Mathias
- Wythnos 2: Cyflwyniad gan y dylunydd graffeg Guto Evans
- Wythnos 3: Lansiad arddangosfa gelf rithiol Golwg ar Gelf
Arddangosfa Golwg ar Gelf
Arddangosfa arbrofol yw 'Golwg ar Gelf' sy'n gyfle i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg, sydd yn astudio ar draws meysydd Celf a Dylunio, rannu eu gwaith yn rithiol.
Bilbao, Belffast a Bala
Yr artist a’r beirniad celf Iwan Bala fydd yn edrych ar gelf gyhoeddus yng Nghymru a thramor ac yn holi, beth yn union yw celf gyhoeddus.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Byd o Liw: Y Rhyfel Mawr (2008)
Yn y rhaglen hon a fydd yn cofio'r Rhyfel Mawr 90 mlynedd ar ôl iddi orffen, mae Osi yn edrych ar gynfas eang o fudiadau celf y cyfnod a ddarluniodd ryfel mewn ffordd gwbl newydd a chwyldroadol. Cyn y Rhyfel Mawr, roedd arlunwyr yn dueddol o ramantu rhyfeloedd a milwyr trwy ddarluniau a oedd yn aml iawn wedi'u comisiynu.Ond mae arlunwyr y Rhyfel Byd Cyntaf yn dangos dioddefaint a chreulondeb rhyfel mewn ffyrdd uniongyrchol a blaengar. Fe ddylanwadodd y rhyfel yn drwm ar gynnwys lluniau. Mae'r rhaglen yn dangos sut y gwnaeth yr arlunwyr yma ddarlunio rhyfel fel rhywbeth creulon ac annynol er gwaethaf pwysau o lywodraethau gwledydd fel Prydain, Ffrainc a'r Almaen i arlunwyr bortreadu rhyfel fel rhywbeth nobl, aruchel i hybu propaganda rhyfel. Gan ffilmio ar feysydd y gad yn Ffrainc a Fflandrys, cawn weld sut y gwnaeth profiadau tywyll rhyfel ddylanwadu ar arlunwyr Ewropeaidd fel Otto Dix, Picasso, Stanley Spencer, David Jones a Frank Brangwyn. Zip TV, 2008.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Cymru yn Washington (2009)
Dilynwn yr artist Angharad Pearce Jones wrth iddi baratoi arddangosfa Cymru yng Ngŵyl Bywyd Gwerin y Smithsonian yn Washington DC. Byddwn hefyd yn dilyn rhai o'r Cymry fu'n perfformio yn yr ŵyl, yn cynnwys 'Parti Cut Lloi', y bardd Ceri Wyn Jones, a'r artist Christine Mills, ac yn clywed ymateb y gynulleidfa yno iddynt. Cwmni Da, 2009.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Casgliadau Celf Arlein
Catalog o’r holl baentiadau a cherfluniau yng nghasgliadau Adran Celf Amgueddfa Cymru, a’r gweithiau ar fenthyciad tymor hir o Ymddiriedolaeth Derek Williams. Hefyd yn rhan o’r casgliad mae tua tri deg mil o ddarluniau, lluniau dyfrlliw, printiau a ffotograffau a tua un fil ar ddeg o weithiau celf gymwysedig.
Y Geiriadur Celf
Wrth astudio Celf a Dylunio ar gyfer Safon Uwch Gyfrannol a Safon Uwch bydd y myfyriwr angen dod o hyd i ystyr geiriau arbenigol a darganfod mwy am fudiadau celf. Mae'r Geiriadur Celf wedi ei lunio ar gyfer ateb y gofyn hwn. Mae'n cynnwys esboniadau clir a chynhwysfawr ar gyfer cofnodion sy'n allweddol ar gyfer myfyrwyr Celf a Dylunio yng Nghymru.