Dyma gyfres o fideos o ddarlithwyr addysg bellach a darparwyr prentisiaethau yn rhannu arfer dda ynglÅ·n â hyfforddi, addysgu ac asesu trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog beth bynnag fo'ch sgiliau iaith Gymraeg.
Dyma gyfres o fideos o ddarlithwyr addysg bellach a darparwyr prentisiaethau yn rhannu arfer dda ynglÅ·n â hyfforddi, addysgu ac asesu trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog beth bynnag fo'ch sgiliau iaith Gymraeg.
Cynhadledd ar-lein ac agored i bawb ar opsiynau gyrfa posib ym maes plant a phobl ifainc (heblaw addysgu). Cynhaliwyd y gynhadledd ar ddydd Mercher, 16 Chwefror 2022, drwy gyfrwng y Gymraeg (heb gyfieithu ar y pryd).
Mae modd gwylio recordiadau o'r sesiynau unigol isod:
Adnodd digidol sy'n cynnwys gwybodaeth am swyddi a chyfleoedd yn y maes iechyd a gofal yng Nghymru.
Datblygwyd gwefan Tregyrfa gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC). Bwriad Tregyrfa yw rhannu gwybodaeamth am y cyfoeth o gyfleoedd gwaith sydd ar gael o fewn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'r maes gofal.
Prentis Iaith Lefel Ymwybyddiaeth neu Prentis Iaith Dealltwriaeth?
Cwblhewch y cwis isod i ddarganfod pa un sy'n addas ar eich cyfer chi.
Mae'r cyrsiau byr hyn ar gyfer prentisiaid sydd eisoes â pheth dealltwriaeth o'r Gymraeg ac sydd am ehangu'u dealltwriaeth o sut y gellir defnyddio'u Cymraeg yn y gweithle. Maent yn galluogi'r prentisiaid i gwblhau rhywfaint o'u cwrs yn y Gymraeg.
SUT I DDEFNYDDIO'R ADNODDAU?
Mae'r pum uned gyntaf yn cyflwyno pwysigrwydd yr iaith Gymraeg fel sgìl ar gyfer y gweithle tra bod cynnwys unedau 6 wedi’i deilwra ar gyfer gwahanol feysydd. Hynny yw felly, bydd pawb yn cwblhau Uned 1-5 Cyffredinol ac yna'n dewis y fersiwn sy'n addas iddyn nhw ar gyfer Uned 6.
Dyma’r pump llwybr galwedigaethol penodol y mae uned 6 wedi’i deilwra ar ei gyfer:
Os nad ydych yn dilyn un o'r llwybrau uchod, yna byddwch yn gallu cwblhau Uned 6 (Cyffredinol).
PA LEFEL SY'N ADDAS?
Mae Prentis-iaith ar gael ar ddwy lefel:
Os nad ydych chi’n siŵr pa adnodd sy’n addas ar eich cyfer, defnyddiwch y Cwis Adnabod Lefel
DARPARWYR A CHOLEGAU
Mae'r cyrsiau hyn hefyd ar gael drwy byrth dysgu y prif ddarparwyr prentisiaethau yng Nghymru ac mae modd i ddarparwyr lawr lwytho'r cynnwys fel ffolder zip i fedru gwneud hyn (gweler y ddolen isod).
Mae modd argraffu tystysgrif yn awtomatig ar ôl cwblhau yr unedau unigol ond gellir hefyd lawr-lwytho tystysgrifau i gyd fynd â'r unedau isod.
Dyma 6 cyflwyniadau ar gyfer cwrs Lefel 2: Gofal, Chwarae, Dysgu, a Datblygiad Plant: Craidd.
Mae'r cyflwyniadau yn cwmpasu'r themâu isod yn unol â manyleb y cwrs:
Casgliad o adnoddau i gefnogi addysgwyr sy’n dymuno cyflwyno mwy o Gymraeg wrth addysgu'r cwrs Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plentyn: Craidd yw’r adnodd hwn.
Mae'r casgliad wedi'i greu er mwyn cefnogi addysgwyr wrth iddynt gynllunio a gosod gweithgareddau gwaith dosbarth neu dystiolaeth yn seiliedig ar sgiliau Cymraeg y dysgwyr.
Mae’r casgliad yn cynnwys:
• canllaw er mwyn esbonio sut mae defnyddio’r adnodd.
• dogfennau 'Mapio’r Cyfleoedd i gyflwyno’r Gymraeg' fesul uned craidd.
• posteri dwyieithog gyda thermau allweddol ar gyfer pob uned.
• adnodd sy’n darparu syniadau i ddysgwyr er mwyn ddefnyddio’r Gymraeg ar leoliadau gwaith.
Adnodd rhyngweithiol byr sy'n cyflwyno rhannau o'r corff i ddefnyddwyr yn Gymraeg. Mae cyfle i ymarfer labeli'r corff ac i ddysgu am y termau lluosog.
Mae’r casgliad hwn yn cynnwys 5 o sesiynau dysgu cyfunol ar gyfer dysgwyr sy'n astudio cyrsiau Gofal Plant Lefel 2 & 3. Nodir yn nheitl yr adnoddau ar gyfer pa lefel mae'r adnodd yn addas.
Mae modd gweld y sesiynau yn eich porwr drwy ddilyn y dolenni isod. Mae hefyd modd i golegau lawr lwytho'r cynnwys er mwyn eu gosod o fewn eu llwyfannau dysgu lleol. Mae'r ffeil zip yn cynnwys ffeiliau SCORM ar gyfer yr holl unedau.
Mae cynnwys y sesiynau hyn yn ddwyieithog, ond dim ond yn Gymraeg mae modd ateb y cwestiynau.
Hawlfraint Heart of Worcestershire College ar ran The Blended Learning Consortium a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’r adnoddau hyn i gael eu defnyddio mewn sefydliadau addysgiadol yn unig ac ni ddylid eu haddasu na’u hailwerthu.
Dyma gyfres o bosteri sy'n cynnwys geirfa allweddol dwyieithog i gefnogi'r cwrs Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd. Mae poster geirfa unigol ar gyfer y 5 uned:
Adnodd i ddysgwyr Cyfnod Allweddol 3 ddarganfod mwy am yrfa yn y sector gofal cymdeithasol (blynyddoedd cynnar). Bydd dysgwyr yn gallu gwylio gweminar ac yn cwblhau llyfr gwaith
Isod ceir ddolen i'r adran adnoddau ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae'r adnoddau yma'n berthnasol ar gyfer addysgwyr a dysgwyr yn y meysydd Iechyd a Gofal Plant.
Yn ogystal, mae dolen i ddogfen sy'n nodi'r adnoddau ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru sy’n berthnasol ar gyfer unedau penodol o fewn y cyrsiau Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 2 a 3.
Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.