Adnodd rhyngweithiol byr sy'n cyflwyno rhannau o'r corff i ddefnyddwyr yn Gymraeg. Mae cyfle i ymarfer labeli'r corff ac i ddysgu am y termau lluosog.
Dysgu Rhannau'r Corff
Dogfennau a dolenni:

Adborth
Dim yn gweld beth rydych chi eisiau? Problem gyda'r ffeiliau? Oes gennych awgrym? Anfonwch eich adborth i ni.
Casgliadau Cysylltiedig
Cynhadledd Wyddonol 2023
Bwriad y gynhadledd yw rhoi llwyfan i ymchwil wyddonol flaenllaw gan wyddonwyr Cymraeg. Mae rhoi’r cyfle i wyddonwyr drin a thrafod y Gwyddorau drwy gyfrwng y Gymraeg yn greiddiol i’r Coleg ers ei sefydlu ac mae’r gynhadledd yn mynd o nerth i nerth. O ddylunio cyffur newydd i drafod micro-blastig, mae’n gyfle i ni drin a thrafod amrywiol destunau o fewn y Gwyddorau.
Eleni, mi fydd y gynhadledd yn un hybrid ac yn cael ei chynnal yn Ystafell y Cyngor, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ar Ddydd Iau 15fed Mehefin 2023.
Cynhelir y gynhadledd yn y Gymraeg ac mi fydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael. Mae croeso cynnes i bawb sy’n ymddiddori yn y gwyddorau i gofrestru ar gyfer y gynhadledd drwy ddilyn y ddolen isod. Bydd opsiwn i ddatgan a ydych am ymuno â ni wyneb yn wyneb neu ar-lein.
Galwad i gyfrannu
Gofynnir am bapurau o unrhyw ddisgyblaeth wyddonol (STEM). Croesawn gyflwyniadau gan fyfyrwyr ôl-radd, neu ymchwilwyr gyrfa gynnar, yn ogystal ag academyddion profiadol.
Bydd y cyflwyniadau yn 20 munud o hyd gyda 10 munud o gwestiynau gan y gynulleidfa i ddilyn
Yn ogystal, anogir cyfranwyr i gyflwyno erthygl i'w hystyried ar gyfer ei chyhoeddi yng nghyfnodolyn ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sef Gwerddon (www.gwerddon.cymru). Gallwch weld enghreifftiau o gyflwyniadau’r gorffennol yma: https://www.porth.ac.uk/cy/collection/cynhadledd-wyddonol-2019 https://www.porth.ac.uk/cy/collection/cynhadledd-wyddonol-2021
Gofynnir i bawb sy’n dymuno cyflwyno yn y gynhadledd ddarparu teitl a chrynodeb o’u herthygl (nid mwy na 300 gair) at l.rees@colegcymraeg.ac.uk erbyn 24 Mawrth 2023. Yn ôl ein harfer, byddwn yn recordio’r cyflwyniadau a’u huwchlwytho i’r Porth Adnoddau.
Cystadleuaeth Posteri
Dylai’r poster fynegi syniad gwyddonol trwy gyfrwng y Gymraeg. Gellir defnyddio poster sydd eisoes wedi cael ei greu yn barod fel rhan o fodiwl.
Bydd dwy gystadleuaeth poster; un i fyfyrwyr israddedig ac un i fyfyrwyr ôl-raddedig.
Bydd gwobr o £50 yr un i enillwyr y ddau gategori.
Prentis-iaith Lefel Rhuglder
Mae'r cyrsiau byr hyn ar gyfer prentisiaid rhugl i'w cynorthwyo i ddefnyddio'u Cymraeg yn y gweithle. Maent yn galluogi'r prentisiaid i gwblhau rhywfaint o'u cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg.
SUT I DDEFNYDDIO'R ADNODDAU?
Mae'r pum uned gyntaf yn cyflwyno pwysigrwydd yr iaith Gymraeg fel sgìl ar gyfer y gweithle tra bod cynnwys unedau 6 wedi’i deilwra ar gyfer gwahanol feysydd. Hynny yw felly, bydd pawb yn cwblhau Uned 1-5 Cyffredinol ac yna'n dewis y fersiwn sy'n addas iddyn nhw ar gyfer Uned 6.
Dyma’r pump llwybr galwedigaethol penodol y mae uned 6 wedi’i deilwra ar ei gyfer:
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Gofal Plant
- Gwasanaethau Cyhoeddus
- Amaethyddiaeth
- Adeiladwaith
Os nad ydych yn dilyn un o'r llwybrau uchod, yna byddwch yn gallu cwblhau Uned 6 (Cyffredinol).
PA LEFEL SY'N ADDAS?
Mae Prentis-iaith ar gael ar bedair lefel:
- Prentis- iaith: Lefel Ymwybyddiaeth (ar gyfer prentisiais sydd ond gyda rhywfaint neu ddim sgiliau iaith Gymraeg)
- Prentis-iaith: Lefel Dealltwiraeth (ar gyfer prentisiaid sydd eisoes â pheth dealltwriaeth o'r Gymraeg)
- Prentis-iaith: Lefel Hyder (ar gyfer prentisaid sydd am fagu hyder i ddefnyddio'u Cymraeg)
- Prentis-iaith: Lefel Rhuglder (ar gyfer prentisiaid sydd yn rhugl yn y Gymraeg)
DARPARWYR A CHOLEGAU
Mae'r cyrsiau hyn hefyd ar gael drwy byrth dysgu y prif ddarparwyr prentisiaethau yng Nghymru ac mae modd i ddarparwyr lawr lwytho'r cynnwys fel ffolder zip i fedru gwneud hyn (gweler y ddolen isod).
Mae modd argraffu tystysgrif yn awtomatig ar ôl cwblhau yr unedau unigol ond gellir hefyd lawr-lwytho tystysgrifau i gyd fynd â'r unedau isod.
Prentis-iaith Lefel Hyder
Mae'r cyrsiau byr hyn ar gyfer prentisiaid sydd yn awyddus i fagu eu hyder i ddefnyddio'u Cymraeg yn y gweithle. Maent yn galluogi'r prentisiaid i gwblhau rhywfaint o'u cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg.
SUT I DDEFNYDDIO'R ADNODDAU?
Mae'r pum uned gyntaf yn cyflwyno pwysigrwydd yr iaith Gymraeg fel sgìl ar gyfer y gweithle tra bod cynnwys unedau 6 wedi’i deilwra ar gyfer gwahanol feysydd. Hynny yw felly, bydd pawb yn cwblhau Uned 1-5 Cyffredinol ac yna'n dewis y fersiwn sy'n addas iddyn nhw ar gyfer Uned 6.
Dyma’r pump llwybr galwedigaethol penodol y mae uned 6 wedi’i deilwra ar ei gyfer:
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Gofal Plant
- Gwasanaethau Cyhoeddus
- Amaethyddiaeth
- Adeiladwaith
Os nad ydych yn dilyn un o'r llwybrau uchod, yna byddwch yn gallu cwblhau Uned 6 (Cyffredinol).
PA LEFEL SY'N ADDAS?
Mae Prentis-iaith ar gael ar bedair lefel:
- Prentis- iaith: Lefel Ymwybyddiaeth (ar gyfer prentisiais sydd ond gyda rhywfaint neu ddim sgiliau iaith Gymraeg)
- Prentis-iaith: Lefel Dealltwiraeth (ar gyfer prentisiaid sydd eisoes â pheth dealltwriaeth o'r Gymraeg)
- Prentis-iaith: Lefel Hyder (ar gyfer prentisaid sydd am fagu hyder i ddefnyddio'u Cymraeg)
- Prentis-iaith: Lefel Rhuglder (ar gyfer prentisiaid sydd yn rhugl yn y Gymraeg)
DARPARWYR A CHOLEGAU
Mae'r cyrsiau hyn hefyd ar gael drwy byrth dysgu y prif ddarparwyr prentisiaethau yng Nghymru ac mae modd i ddarparwyr lawr lwytho'r cynnwys fel ffolder zip i fedru gwneud hyn (gweler y ddolen isod).
Mae modd argraffu tystysgrif yn awtomatig ar ôl cwblhau yr unedau unigol ond gellir hefyd lawr-lwytho tystysgrifau i gyd fynd â'r unedau isod.
Am Blant - podlediad
Podlediad sy’n trin a thrafod pynciau sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc yng Nghymru heddiw yn ogystal a chael gwybod barn plant a phobl ifanc
Podlediad #1: Beth yw Plentyndod?
Yn y podlediad cyntaf hwn mae Dr Nia Young, Dr Sian Wyn Siencyn, Rowena Hughes Jones a Ceryl Davies yn trafod beth ydy ystyr plentyndod, beth mae'n olygu i fod yn blentyn yng Nghymru heddiw ac a ydy cymdeithas yn gwrando ar lais y plentyn.
Podlediad #2: Beth yw ieuenctid?
Yn y bennod yma Dr Nia Young, Dr Sian Wyn Siencyn, Owain Gethin Davies, a Ceryl Davies yn trafod beth yw ieuenctid?
Sut beth ydy bod yn berson ifanc yng Nghymru heddiw?
Podlediad #3: Beth sydd ei angen ar blentyn...?
Beth sydd ei angen ar blentyn er mwyn tyfu, datblygu a ffynnu?
Yn y podlediad hwn mae Ian Keith Jones (Pennaeth Ysgol San Sior, Llandudno) yn ymuno efo Dr Nia Young, Dr Siwan Roberts, Dr Margiad William a Rowena Hughes Jones o Ysgol Gwyddorau Addysg, Prifysgol Bangor i drafod beth sydd ei angen ar blentyn i ddatblygu a ffynnu. Pa mor bwysig ydy modelau rol, cysondeb a sefydlogrwydd? Beth ydy bod yn riant da?
Podlediad #4: Hawliau Plant
Yn y podlediad yma mae Rowena Hughes Jones, Dr Ceryl Davies, Gwenan Prysor, Arwyn Roberts a Chomisiynydd Plant Cymru, Yr Athro Sally Holland, yn ymuno efo Rhian Tomos i drafod hawliau plant a phobol ifanc.
Ydy plant yn gwybod pa hawliau sydd ganddyn nhw? A oes angen ychwanegu at yr hawliau yng ngoleuni Cofid 19?
Podlediad #5: Llais Rhieni
A ydy agweddau cymdeithas wedi newid tuag at blant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu neu anableddau corfforol a sut mae'r cyfnod Cofid wedi effeithio arnyn nhw? Ydan ni'n gwrando digon ar y rhieni a'r gofalwyr?
I gael gwybod mwy gwrandewch ar Elin Llwyd Morgan (mam Joel sydd ag awtistiaeth), Siôn Meredith, tad Huw (sydd a Syndrom Down), Dr Nia Young (darlithydd ym Mhrifysgol Bangor), Bethan Morris Jones, (Pennaeth Ysgol Pendalar, Caernarfon) a Lora Glynwen Williams, Swyddog Ansawdd, Gwasanaeth ADYaCH Gwynedd a Môn.
Podlediad #6: Beth ydy chwarae?
Beth ydy chwarae? Pa bryd rydan ni'n rhoi'r gorau i chwarae? Beth ydy pwrpas chwarae?
Gwrandewch ar y 6ed podlediad yn y gyfres o bodlediadau AM BLANT i glywed y drafodaeth gan aelodau'r panel a sylwadau pobl ifanc am eu profiadau nhw o chwarae.
Podlediad #7: Sut mae cerddoriaeth, celf a drama yn cyfrannu at ddatblygiad plentyn?
Podlediad wedi recordio’n fyw ar faes Eisteddfod Tregaron gyda Dr Gwenllian Lansdown Davies, Cerys Edwards, Elen ap Robert, Dr Mair Edwards a Dr Nia Young.