Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi gweithio gyda’r sector i ddatblygu adnoddau Sgiliau Hanfodol Cymru i gynorthwyo gyda’r addysgu a’r dysgu ar gyfer Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu ar Lefel 1 a 2.
Mae’r adnoddau wedi’u cynllunio i adlewyrchu sefyllfaoedd gwaith go iawn y gallech chi ddod ar eu traws mewn gofal cymdeithasol, ac maen nhw'n ymdrin â gwahanol ganlyniadau dysgu y mae angen i chi eu gwybod i gwblhau eich cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru.
Nid yw’r adnoddau’n orfodol. Gallwch chi eu gwneud i gyd neu ddewis y rhai fydd yn eich helpu fwyaf.
Mae’r adnoddau hyn wedi’u bwriadu i gefnogi dysgu ac felly nid ydyn nhw'n disodli gweithgareddau addysgu nac asesu. Maen nhw wedi’u cynllunio i ddangos lle mae sgiliau Sgiliau Hanfodol Cymru yn cael eu cymhwyso mewn lleoliadau ymarfer, ac efallai na fyddan nhw'n ymdrin â’r holl ganlyniadau dysgu yn llawn.
