Sioned Dafydd, cyflwynydd Sgorio - Mae'r sgwrs yma gyda'r gyflwynwraig chwaraeon, Sioned Dafydd, ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithio ym maes cyfathrebu chwaraeon. Mae Sioned yn cyflwyno rhaglenni ac eitemau ar raglenni 'Sgorio' ar S4C ac ar Sky Sport. Mae hi'n siarad gyda Dr Non Vaughan Williams, uwch-ddarlithydd mewn Cyfryngau a Chyfathrebu ym Mhrifysgol Abertawe, ar sut mae’r Gymraeg (yn ogystal â astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn y brifysgol) wedi agor drysau iddi yn y diwydiant, ei phrofiadau o fod yn gyflwynydd benywaidd yn y maes, gan gynnwys yr uchafbwyntiau a’r heriau o’r swydd. Trafodaeth Chwaraeon a’r Cyfryngau - Gabriella Jukes, cyflwynydd ar Sky Sport, y nofwraig ryngwladol Medi Roberts, a Cathy Williams, Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu, Tîm Cymru Gemau'r Gymanwlad 2026. Mae’r panel yn trafod yr heriau o baratoi a chyflwyno ar y cyfryngau a’r cyfryngau cymdeithasol, a hefyd o fod ar ochr arall y drafodaeth wrth ddelio gyda’r wasg a’r cyfryngau fel athletwraig, cynhyrchydd cynnwys ac fel pennaeth cyfathrebu. Maent mewn trafodaeth ag Andrew Weeks, darlithydd yn adran Newyddiaduraeth, Cyfryngau, a Diwylliant (JOMEC), Prifysgol Caerdydd.
Cynhadledd Cyfathrebu Chwaraeon Menywod – Gweithio yn y Maes
Unedau Diwydiannau Creadigol
Mae'r casgliad hwn yn cynnwys chwech pecyn e-ddysgu ar y meysydd canlynol: Busnes o fewn y Diwydiannau Creadigol Celf a Dylunio o fewn y Diwydiannau Creadigol Cyfathrebu ac ymchwil ym maes y Cyfryngau Creadigol Archwilio’r Celfyddydau Perfformio ac Ymarfer Proffesiynol Llwybrau Gyrfa a chyfleoedd o fewn y Diwydiannau Creadigol yng Nghymru Y diwydiant cerddoriaeth ac ymarfer proffesiynol Mae'r pecynnau yn addas ar gyfer dysgwyr sy'n astudio'r cymwysterau perthnasol ar lefelau 2 a 3 mewn colegau addysg bellach.
Byd Rhithiol Gwrth-Hiliaeth Llywodraeth Cymru
Ar y cyd â mXreality, ac wrth weithio â thimau sy’n arbenigo yn y pwnc o Goleg Caerdydd a’r Fro, mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu amgylchedd metafyd 3D trochol, hygyrch ac eang, sy’n cynnwys pum ardal yn ymwneud â gwahanol themâu. Maent yn edrych ymlaen at rannu profiadau, straeon a hanesion gyda chi. Gwahoddir chi i ymgysylltu â phrofiad dysgu trochol, a fydd yn gwella eich dealltwriaeth o’r byd. Wrth ichi archwilio’r byd hwn, gofynnir ichi ymgysylltu â’r adnoddau a myfyrio ar eu harwyddocâd. Dyma gyfle i chi ddysgu am y diwylliannau a’r traddodiadau sy’n ffurfio rhan o’n cyd-hunaniaeth. Mae'r Metafyd yn cynnwys yr ardaloedd canlynol: Profiadau Mae’r Metafyd Profiadau wedi’i leoli ar stryd o dai pâr cynrychiadol yng Nghymru, gyda mynediad at chwe thŷ (tri ar bob ochr o’r stryd). Ym mhob un o’r tai, gallwch ddysgu mwy am gefndir a diddordebau’r unigolion sy’n byw yno drwy wylio’r fideo sy’n chwarae ar y teledu a thrwy glicio ar rai o’r eitemau rhyngweithiol (a nodwyd gan eicon tri smotyn) yn yr ystafell fyw. Astudiaethau Trochol Mae’r Metafyd Astudiaethau Trochol yn cynnwys prif ardal lefel is a thair ardal lefel uwch. Mae gan y brif ardal amrywiaeth o eitemau o ddiddordeb geometregol oherwydd eu siapiau a’u patrymau, sy’n dangos y cysylltiad rhwng mathemateg, gwyddoniaeth a natur. Gallwch ddysgu mwy am yr eitemau hyn drwy glicio arnynt. Mae Cod QR i’w weld ar banel ger rhai eitemau hefyd, y gellir ei sganio gyda chamera eich ffôn symudol er mwyn gweld fersiwn 3D neu Realiti Estynedig (AR) o’r eitem ar eich dyfais. Mae’r lefel uwch yn cynnwys: ystafell Mathemateg – yn galluogi ymwelwyr i archwilio pwysigrwydd a hanes rhifau a siapiau mathemategol a geometregol Ystafell Gwallt a Harddwch – yn galluogi ymwelwyr i ymgyfarwyddo â hanes a gwreiddiau gwallt a harddwch Ystafell Dyfeisiadau – yn addysgu ymwelwyr am rai dyfeisiadau arwyddocaol a chyfraniadau cynnar i fywyd cyfoes Llinell Amser y Byd Mae Metafyd Llinell Amser y Byd yn cynnwys prif ardal ganolog a phedwar rhanbarth daearyddol, a gallwch gael mynediad at bob un ohonynt drwy dwnnel o’r ardal ganolog. Mae pob twnnel yn arddangos gwybodaeth sy’n cyflwyno cefndir, hunaniaeth a delwedd unigolyn cynrychiadol o’r rhanbarth hwnnw. Mae pob un o’r pedwar rhanbarth (y manylir arnynt isod), yn cynnwys pedwar cyfnod amser, sy’n galluogi ymwelwyr i brofi pensaernïaeth, delweddau a gwybodaeth gynrychiadol mewn perthynas â’r oes hynafol, yr oesoedd canol, y cyfnod modern cynnar, a’r byd heddiw. Y pedwar rhanbarth sydd ar gael yn y Metafyd hwn yw: Affrica, Is-gyfandir India, Y Dwyrain Canol a Gogledd Ewrop. Wrth ichi symud o gwmpas llinell amser y byd, yn yr ardal ganolog ac ym mhob un o’r rhanbarthau, mae eitemau rhyngweithiol y gallwch glicio arnynt yn cysylltu â fideos sy’n cyflwyno gwybodaeth ychwanegol ddefnyddiol. Mae Codau QR ar gael yn rhai o’r rhanbarthau hefyd, y gellir eu sganio gyda chamera eich ffôn symudol er mwyn gweld fersiwn 3D neu Realiti Estynedig (AR) o’r eitem ar eich dyfais. Y Cwricwlwm Mae'r adran hon yn eich galluogi i ymgysylltu ag amrywiaeth eang o bynciau y saeniwyd yn ofalus er mwyn sichrau y bydd eu cynllun yn wrth-hiliol. Mae'r adran yn cynnwys y pynciau canlynol: Cymdeithaseg Gwallt a Harddwch Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ffeministiaeth Ddu Gwleidyddiaeth Mathemateg Astudiaethau Ffilm Athroniaeth Affricanaidd Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill Addysg Sylfaenol i Oedolion Anghenion Dysgu Ychwanegol Sesiwn tiwtorial
Gweminarau Diwydiannau Creadigol i Ddysgwyr mewn Colegau Addysg Bellach (Tymor y Gwanwyn 2023)
Cyfres o weminarau i roi cyfle i ddysgwyr drafod eu pwnc trwy gyfrwng y Gymraeg. Daeth y siaradwyr gwadd canlynol i siarad gyda'r dysgwyr: 11.01.23 - Iwan England Pennaeth Di - Sgript S4C 18.01.23 - Naomi Hughes Arbenigwr Dylunio a Thechnoleg 25.01.23 - Izzy Rabey - Cyfarwyddwr Theatr a Cherddor 01.02.23 - Llio James - Dylunydd tecstiliau 08.02.23 - Rhuannedd Richards – Cyfarwyddwr BBC Cymru 15.02.23 - Huw Aaron -Awdur a Dylunydd 01.03.23 - Elan Elidyr - Dawnswraig 08.03.23 - Steffan Dafydd - Dylunydd a Cherddor 15.03.23 - Efa Blosse Mason - Animeiddiwr 22.03.23 – Taith Ceir dolenni i wylio'r sesiynau â recordiwyd isod.
Echelgais
Adnodd cyfrwng Cymraeg ar wefan HWB sy'n canolbwyntio ar 6 maes; Amaethyddiaeth, Busnes, Drama, Twristiaeth a Hamdden, Iechyd a Gofal a Blynyddoedd Cynnar a'r Cyfryngau.
Newyddiaduraeth o Bedwar Ban Byd 2023
Sesiynau ar-lein sy'n trafod gwaith a phrofiadau newyddiadurwyr sydd yn, neu wedi gweithio dramor, a phwysigrwydd a rôl y Gymraeg yn ei gyrfa. Cyfle i fyfyrwyr, dysgwyr, disgyblion ac academyddion sydd yn ymddiddori mewn newyddiaduraeth i glywed gan lu o newyddiadurwyr a’i holi. SEMINARAU 2023: Illtud Dafydd, 31 Ionawr 2023 (GWYLIWCH Y RECORDIAD) Newyddiadurwr chwaraeon gyda'r asiantaeth newyddion ryngwladol Agence France-Presse ym Mharis. Megan Davies, 15 Chwefror 2023 (GWYLIWCH Y RECORDIAD) Newyddiadurwr sydd wedi gweithio i Vogue ym Mharis cyn dychwelyd i Gymru i weithio i BBC Cymru. Andy Bell, 15 Mawrth 2023 (GWYLIWCH Y RECORDIAD) Newyddiadurwr, cynhyrchydd a gohebydd sydd wedi gweithio yn y byd darlledu yn Awstralia am dros dri degawd ac yn ‘lais Awstralia’ i gyfryngau Cymraeg.
Hwb Sgiliau Hanfodol (Yr Urdd)
BETH YW'R HWB? Mae’r Hwb yn cynnig cymwysterau a hyfforddiant pwrpasol yn y meysydd Cyfathrebu, Rhifedd a Llythrennedd Digidol. Mae modd i unigolion weithio tuag at gymwysterau Sgiliau Hanfodol Mynediad 2 i Lefel 3, neu weithio i wella sgiliau wrth ymgymryd â rhaglen dysgu arall. Mae’r Hwb yn agored i ddarparwyr hyfforddiant i fedru cyfeirio dysgwyr sydd am ymgymryd â chymwysterau Sgiliau Hanfodol drwy gyfrwng y Gymraeg. BETH MAE'R RHAGLEN DYSGU YN CYNNWYS? Asesiadau Cychwynnol Cynllun dysgu unigol Mynediad at weithdai rhithiol Sesiynau 1:1 Mynediad at adnoddau, recordiadau o sesiynau ac e-portffolio Tasgau gwaith annibynnol sy’n cael eu hasesu a fydd adborth yn cael eu darparu Tasg o dan reolaeth a thasg gadarnhaol (gan gynnwys tasgau ymarfer) Tystysgrifau
