Teclyn yw hwn sy'n cynnwys gwybodaeth am adnoddau, rhaglenni ac apïau ymarferol y gall staff eu defnyddio i wella'u Cymraeg a defnyddio i wella Cymraeg eu dysgwyr. Mae'r wefan yn hollol ddwyieithog ac yn addas i bawb, beth bynnag eich sgiliau iaith Gymraeg.
Teclyn Iaith
Gwerslyfrau BTEC Cenedlaethol Busnes
Addasiad Cymraeg o Pearson BTEC National Business – Student Book 1 ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio BTEC Tystysgrif Busnes, Tystysgrif Estynedig a'r Diploma Sylfaenol. Mae'r llyfr yn cynnig cefnogaeth i fyfyrwyr drrwy'r holl unedau gorfodol ac ystod o'r unedau dewisol, yn eu plith: Archwilio Busnes; Datblygu Ymgyrch Farchnata; Rheoli Digwyddiad; ac Ymchwilio i Wasanaeth Cwsmeriaid.
Gwerslyfrau BTEC Cenedlaethol Chwaraeon
Addasiad Cymraeg o 'BTEC National Sports Student Book 1', 'BTEC National Sports Student Book 2', a 'BTEC National Sports Units 1 and 2 Revision Workbook' ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio BTEC y Dystysgrif, y Dystysgrif Estynedig, y Diploma Sylfaenol a'r Diploma Estynedig. Mae'r llyfr yn cefnogi'r myfyrwyr drwy'r holl unedau gorfodol a'r ystod o unedau dewisol megis: Anatomeg a Ffisioleg; Iechyd, Chwaraeon a Lles; Seicoleg Chwaraeon; Datblygiad Proffesiynol mewn Chwaraeon. Manyleb 2016.*
*Noder bod manyleb newydd wedi cael ei chyhoeddi erbyn hyn, am wybodaeth bellach, edrychwch ar wefan Cymwysterau yng Nghymru.
Gyrfaeoedd Portffolio yn y Celfyddydau Gweledol
Adnodd o wefan Hwb am yrfaoedd i ddysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 3 ac ymlaen sy'n tynnu sylw at yr hyn y mae'n ei olygu i gael gyrfa bortffolio yn y celfyddydau gweledol. Mae'r adnodd yn cynnwys 15 fideo sy'n dangos cyfleoedd yn y celfyddydau gweledol, gan gynnwys celf mewn gofal iechyd, addysg, celf gyhoeddus, arddangos a gweithio mewn orielau.
Artistiaid o Gymru: Dehongli Celf
Strategaeth i helpu disgyblion o bob oedran ddehongli celf. Daw'r darnau yma o gasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru a daw'r adnodd o wefan Hwb Llywodraeth Cymru.
Fferm Ddiogel
*Mae angen penwisg 'Oculus Quest 2' i ddefnyddio fersiwn VR yr adnodd hwn. Mae fersiwn AR ar gael hefyd ac mae modd lawrlwytho a defnyddio'r fersiwn hon ar ffôn neu dabled.*
Y profiad VR gorau i unrhyw un sydd â diddordeb mewn diogelwch fferm!
Mae Fferm Ddiogel wedi’i dylunio i helpu dysgwyr i nodi a deall peryglon posibl ar y fferm, yn ogystal â dysgu sut i’w hosgoi mewn ffyrdd diogel ac ymarferol. Archwiliwch iard y fferm, lle byddwch yn dysgu am y peryglon sy'n gysylltiedig â lleoliadau amaethyddol ac offer a geir yn gyffredin ar y fferm. Ymwelwch â'n canolfan hyfforddi ATV, lle byddwch yn dysgu am beryglon reidio ATVs. Yn olaf, gallwch gael profiad o weithio gydag anifeiliaid mewn amgylchedd diogel a rheoledig, gan ddysgu am y risgiau sy'n gysylltiedig â thrin da byw.
Mae ein ap yn cynnwys pum avatar cyfeillgar, Ceri, Bevan, Jack, Yana, a Geth, a fydd yn eich arwain trwy bob senario, gan roi awgrymiadau a chyngor defnyddiol ar hyd y ffordd. Byddant yn eich helpu i nodi peryglon, deall y risgiau posibl y maent yn eu hachosi, a sut i osgoi'r risgiau hynny.
Perffaith ar gyfer darlithwyr ac aseswyr sydd eisiau addysgu elfennau ymarferol o'r cwricwlwm mewn amgylchedd diogel a rheoledig.
Mae sain yr adnodd hwn yn Gymraeg gydag is-deitlau Saesneg a Chymraeg.
*Mae angen penwisg 'Oculus Quest 2' i ddefnyddio fersiwn VR yr adnodd hwn. Mae fersiwn AR ar gael hefyd ac mae modd lawrlwytho a defnyddio'r fersiwn hon ar ffôn neu dabled.*
Ap Chwaraeon trwy'r Gymraeg
Nod yr ap hwn yw cefnogi dysgwyr, prentisiaid a gweithwyr sydd angen cefnogaeth i allu defnyddio’r Gymraeg yn hyderus mewn sefyllfaoedd proffesiynol sy’n ymwneud â Chwaraeon. Mae'r ap wedi'i rannu mewn i'r unedau canlynol:
- Geirfa ac ymadroddion cyffredinol
- Sgwrsio
- Chwaraeon
- Y Corff
- Y System Sgerbydol
- Cymalau
- Ffitrwydd
- Cymorth Cyntaf
- Hyfforddi
Gweminarau Diwydiannau Creadigol i Ddysgwyr mewn Colegau Addysg Bellach (Tymor y Gwanwyn 2023)
Cyfres o weminarau i roi cyfle i ddysgwyr drafod eu pwnc trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd y siaradwyr gwadd canlynol yn dod i siarad gyda'r dysgwyr:
11.01.23 - Iwan England Pennaeth Di - Sgript S4C
18.01.23 - Naomi Hughes Arbenigwr Dylunio a Thechnoleg
25.01.23 - Izzy Rabey - Cyfarwyddwr Theatr a Cherddor
01.02.23 - Llio James - Dylunydd tecstiliau
08.02.23 - Rhuannedd Richards – Cyfarwyddwr BBC Cymru
15.02.23 - Huw Aaron -Awdur a Dylunydd
22.02.23- HANNER TYMOR
01.03.23 - Elan Elidyr - Dawnswraig
08.03.23 - Steffan Dafydd - Dylunydd a Cherddor
15.03.23 - Efa Blosse Mason - Animeiddiwr
22.03.23 – Taith
Bydd y gweminarau yn cael eu cynnal ar brynhawiau Mercher rhwng 14:00-15:00 rhwng 11/01/23 – 22/03/23 gan eithrio hanner tymor.
Pecyn Adnoddau Amaethyddiaeth
Mae'r adnodd hwn yn cynnwys yr unedau isod:
- Iechyd a Diogelwch mewn Amaethyddiaeth
- Ffisioleg Anifeiliaid
- Cynhyrchu Cnydau
- Systemau Sylweddol a Chydrannau Allweddol y Tractor
Crëwyd yr adnodd hwn gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar sail Deunyddiau Dysgu Amaeth, adnodd a grëwyd yn wreiddiol gan Sgiliaith (2002). Awduron yr adnodd gwreiddiol oedd Lowri Evans, Ian Harries, Mary Richards a Rhys Williams, ac fe’i golygwyd gan Penri James.
Prentis-iaith Lefel Hyder
Mae'r cyrsiau byr hyn ar gyfer prentisiaid sydd yn awyddus i fagu eu hyder i ddefnyddio'u Cymraeg yn y gweithle. Maent yn galluogi'r prentisiaid i gwblhau rhywfaint o'u cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg.
SUT I DDEFNYDDIO'R ADNODDAU?
Mae'r pum uned gyntaf yn cyflwyno pwysigrwydd yr iaith Gymraeg fel sgìl ar gyfer y gweithle tra bod cynnwys unedau 6 wedi’i deilwra ar gyfer gwahanol feysydd. Hynny yw felly, bydd pawb yn cwblhau Uned 1-5 Cyffredinol ac yna'n dewis y fersiwn sy'n addas iddyn nhw ar gyfer Uned 6.
Dyma’r pump llwybr galwedigaethol penodol y mae uned 6 wedi’i deilwra ar ei gyfer:
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Gofal Plant
- Gwasanaethau Cyhoeddus
- Amaethyddiaeth
- Adeiladwaith
Os nad ydych yn dilyn un o'r llwybrau uchod, yna byddwch yn gallu cwblhau Uned 6 (Cyffredinol).
PA LEFEL SY'N ADDAS?
Mae Prentis-iaith ar gael ar bedair lefel:
- Prentis- iaith: Lefel Ymwybyddiaeth (ar gyfer prentisiais sydd ond gyda rhywfaint neu ddim sgiliau iaith Gymraeg)
- Prentis-iaith: Lefel Dealltwiraeth (ar gyfer prentisiaid sydd eisoes â pheth dealltwriaeth o'r Gymraeg)
- Prentis-iaith: Lefel Hyder (ar gyfer prentisaid sydd am fagu hyder i ddefnyddio'u Cymraeg)
- Prentis-iaith: Lefel Rhuglder (ar gyfer prentisiaid sydd yn rhugl yn y Gymraeg)
DARPARWYR A CHOLEGAU
Mae'r cyrsiau hyn hefyd ar gael drwy byrth dysgu y prif ddarparwyr prentisiaethau yng Nghymru ac mae modd i ddarparwyr lawr lwytho'r cynnwys fel ffolder zip i fedru gwneud hyn (gweler y ddolen isod).
Mae modd argraffu tystysgrif yn awtomatig ar ôl cwblhau yr unedau unigol ond gellir hefyd lawr-lwytho tystysgrifau i gyd fynd â'r unedau isod.
Prentis-iaith Lefel Rhuglder
Mae'r cyrsiau byr hyn ar gyfer prentisiaid rhugl i'w cynorthwyo i ddefnyddio'u Cymraeg yn y gweithle. Maent yn galluogi'r prentisiaid i gwblhau rhywfaint o'u cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg.
SUT I DDEFNYDDIO'R ADNODDAU?
Mae'r pum uned gyntaf yn cyflwyno pwysigrwydd yr iaith Gymraeg fel sgìl ar gyfer y gweithle tra bod cynnwys unedau 6 wedi’i deilwra ar gyfer gwahanol feysydd. Hynny yw felly, bydd pawb yn cwblhau Uned 1-5 Cyffredinol ac yna'n dewis y fersiwn sy'n addas iddyn nhw ar gyfer Uned 6.
Dyma’r pump llwybr galwedigaethol penodol y mae uned 6 wedi’i deilwra ar ei gyfer:
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Gofal Plant
- Gwasanaethau Cyhoeddus
- Amaethyddiaeth
- Adeiladwaith
Os nad ydych yn dilyn un o'r llwybrau uchod, yna byddwch yn gallu cwblhau Uned 6 (Cyffredinol).
PA LEFEL SY'N ADDAS?
Mae Prentis-iaith ar gael ar bedair lefel:
- Prentis- iaith: Lefel Ymwybyddiaeth (ar gyfer prentisiais sydd ond gyda rhywfaint neu ddim sgiliau iaith Gymraeg)
- Prentis-iaith: Lefel Dealltwiraeth (ar gyfer prentisiaid sydd eisoes â pheth dealltwriaeth o'r Gymraeg)
- Prentis-iaith: Lefel Hyder (ar gyfer prentisaid sydd am fagu hyder i ddefnyddio'u Cymraeg)
- Prentis-iaith: Lefel Rhuglder (ar gyfer prentisiaid sydd yn rhugl yn y Gymraeg)
DARPARWYR A CHOLEGAU
Mae'r cyrsiau hyn hefyd ar gael drwy byrth dysgu y prif ddarparwyr prentisiaethau yng Nghymru ac mae modd i ddarparwyr lawr lwytho'r cynnwys fel ffolder zip i fedru gwneud hyn (gweler y ddolen isod).
Mae modd argraffu tystysgrif yn awtomatig ar ôl cwblhau yr unedau unigol ond gellir hefyd lawr-lwytho tystysgrifau i gyd fynd â'r unedau isod.
Sesiynau Adolygu Carlam Cymru
Recordiadau o sesiynau adolygu mewn gwahanol feysydd a gomisiynwyd gan e-sgol ar gyfer myfyrwyr TGAU, Uwch Gyfrannol a Safon Uwch yn ystod 2021.
Ceir sesiynau adolygu TGAU ar y pynciau:
- Mathemateg
- Cymraeg
- Cymraeg Ail Iaith
- Bioleg
- Ffiseg
- Cemeg
- Hanes
- Daearyddiaeth
Ceir sesiynau adolygu UG ar y pynciau:
- Mathemateg
- Cymraeg
- Bioleg
- Ffiseg
- Cemeg
- Hanes
- Daearyddiaeth
Ceir sesiynau adolygu safon uwch ar y pynciau:
- Mathemateg
- Cymraeg
- Bioleg
- Cemeg
- Hanes
- Daearyddiaeth
- Seicoleg