Dyma gyfres o fideos o ddarlithwyr addysg bellach a darparwyr prentisiaethau yn rhannu arfer dda ynglÅ·n â hyfforddi, addysgu ac asesu trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog beth bynnag fo'ch sgiliau iaith Gymraeg.
Dyma gyfres o fideos o ddarlithwyr addysg bellach a darparwyr prentisiaethau yn rhannu arfer dda ynglÅ·n â hyfforddi, addysgu ac asesu trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog beth bynnag fo'ch sgiliau iaith Gymraeg.
Amcanion y gweithdai:
Cyflwyno prif hanfodion Dulliau Ymchwil i fyfyrwyr ôl-radd gan ddilyn yr amcanion canlynol:
Cynnwys:
Mae’r gweithdai ar-lein hyn wedi eu rhannu yn dair rhan sy’n trin a thrafod cysyniadau allweddol ym maes dulliau ymchwil a’r camau allweddol wrth greu cynllun ymchwil.
Cyflwynydd: Dr Rhian Hodges
Mae Dr Rhian Hodges yn Uwch Ddarlithydd Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol yn Ysgol Hanes, Y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas ym Mhrifysgol Bangor ers dros ddegawd bellach. Mae’n addysgu modiwlau cyfrwng Cymraeg ym maes addysg, cymdeithaseg, cynllunio ieithyddol, cymdeithaseg cerddoriaeth a dulliau ymchwil ac wrth ei bodd yn dysgu ystod eang o bynciau gwahanol drwy’r Gymraeg.
Ei maes ymchwil arbenigol yw cynllunio ieithyddol, ac yn arbennig siaradwyr newydd y Gymraeg, defnydd cymunedol o’r Gymraeg, ac addysg cyfrwng Cymraeg fel dull adfywio’r Gymraeg yng Nghymru.
Mae’n dod yn wreiddiol o Fargoed, Cwm Rhymni ond mae hi wedi ymgartrefu ym Mangor ers cyfnod sylweddol bellach. Mae hi wedi hen arfer teithio lan a lawr yr A470 i weld teulu a ffrindiau’r cymoedd.
Bydd y gweithdai hyn o fudd i fyfyrwyr ôl-radd sydd wrthi’n cynllunio eu traethodau hir a thraethodau ymchwil gan mae’n cynnig cyfle i ystyried camau hollbwysig y broses ymchwil a sut mae’n berthnasol i’w hymchwil eu hunain.
Amcanion y gweithdai:
Cynnwys:
Cyflwynydd: Dr Siôn Llewelyn Jones
Mae Siôn yn ddarlithydd yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd. Bu’n datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn yr ysgol ac mae’n addysgu nifer o fodiwlau, gan gynnwys modiwlau ymchwil. Mae gan Siôn brofiad helaeth o gynnal ymchwil ansoddol. Bu’n gweithio ar nifer o brosiectau ymchwil ar gyfer gwahanol sefydliadau, megis Comisiynydd Plant Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru. Yn 2017, gorffennodd ei PhD. Ar gyfer ei ymchwil ddoethurol, archwiliodd Siôn i ddyheadau pobl ifanc a oedd yn mynychu ysgol cyfrwng Cymraeg ac ysgol cyfrwng Saesneg yng nghymoedd de Cymru. Yn y prosiectau ymchwil hyn, bu’n ymwneud â’u cynllunio a bu’n cyfweld â chyfranogwyr yn ogystal â chynnal grwpiau ffocws wyneb yn wyneb, ar-lein ac ar y ffôn.
Mae’r wefan hon yn cynnwys dros bum mil o fywgraffiadau cryno sy’n cyflwyno unigolion a wnaeth gyfraniad pwysig i fywyd cenedlaethol yng Nghymru neu’n ehangach.
Mae Llinell Amser ryngweithiol sy'n arddangos unigolion o'r Bywgraffiadur ar gael nawr. Gyrrir y llinell gan ddata agored cysylltiedig a chynnwys agored sy’n dod o brosiectau Wikimedia.
Mae gan yr iaith Gymraeg sawl nodwedd yn ei gramadeg sy'n anghyffredin iawn ar draws ieithoedd. Mae'r papur hwn yn edrych ar bum nodwedd o'r fath, ar eu prinder yn ieithoedd y byd ac ar eu lle yng ngramadeg y Gymraeg. Mae'n dangos bod amlder testunol pob nodwedd, yng nghorff Cymraeg llafar ac ysgrifenedig, yn prinhau. Mae'r pum nodwedd hyn, a oedd yn sefydlog yn y Gymraeg ers y cofnodion cynharaf ymhell dros fil o flynyddoedd yn ôl, yn ystod oes siaradwyr hÅ·n, wedi mynd yn ddewisol neu'n ddarfodol yn yr iaith lafar: mae gramadeg yr iaith wedi newid. Mae'n debygol bod y Gymraeg yn newid oherwydd dwyieithrwydd. Ynghyd â'r cynnydd yn y defnydd cyhoeddus o'r Gymraeg yn ddiweddar, cafwyd cynnydd yn y defnydd o'r Saesneg ym mywydau pob dydd siaradwyr Cymraeg. Mae'r siaradwr Cymraeg cyffredin bellach yn siarad mwy o Saesneg na Chymraeg, y tu allan i'r teulu o leiaf. Dangoswyd bod siarad ail iaith yn rhugl ac yn rheolaidd yn effeithio ar iaith gyntaf y siaradwr, yn fwy na thebyg i leihau'r baich seicolegol wrth newid yn gyson rhwng y ddwy iaith. Dadleuir, mewn sefyllfa o'r fath, ar draws ieithoedd, fod nodweddion anghyffredin o'u hanfod yn fwy tueddol o gael eu colli. Yn olaf, mae'r papur yn edrych yn gyflym iawn ar ddatblygiadau posibl yn y dyfodol. John D. Phillips, 'Effaith newidiadau diweddar ar hynodrwydd ieithyddol y Gymraeg', Gwerddon, 3, Mai 2008, 94-117.
Mae'r gronfa yn gatalog disgrifiadol o destunau a gyfieithwyd i'r Gymraeg o ddechrau'r ugeinfed ganrif ymlaen ym meysydd y dyniaethau, y celfyddydau a'r gwyddorau cymdeithasol. Detholwyd yn bennaf o blith testunau rhyddiaith a drama all fod o ddiddordeb ar gyfer ymchwil a dysgu ar lefel addysg uwch. Mewn ambell achos y mae cofnod yn arwain at y testun llawn ar-lein.
Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn darparu geiriadur ar-lein i fyfyrwyr a staff i hwyluso'r broses o astudio, addysgu ac ymchwilio drwy gyfrwng y Gymraeg ar lefel prifysgol. Mae'r geiriadur yn cynnwys termau technegol o ystod eang o feysydd academaidd, gan gynnwys Bioleg, Cemeg, Chwaraeon, y Gyfraith, Daearyddiaeth, Hanes, Busnes, Seicoleg, Rheoli Coetiroedd, y Diwydiannau Creadigol a Mathemateg a Ffiseg. Caiff ei ehangu'n gyson i gynnwys mwy o dermau a mwy o feysydd pwnc, ac fe nodir i ba faes y mae pob term yn perthyn. Ceir diffiniadau gyda'r termau hyn, gan gynnwys weithiau diagramau, hafaliadau a lluniau i egluro'r term yn well. Yn y diffiniadau, ceir dolenni at dermau eraill cysylltiedig.
Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.