Panel o academyddion yn rhannu eu profiadau a’u cyngor ynghylch cyhoeddi academaidd yng nghwmni'r Athro Huw Morgan, Dr Hannah Sams, Dr Sam Parry, Dr Geraint Palmer-Liyu a Dr Rhiannon Marks. Mae’r drafodaeth yn addas i ymchwilwyr sy’n awyddus i ddysgu rhagor am y broses o gyhoeddi eu gwaith. Cynhaliwyd y digwyddiad yn y Llyfrgell Genedlaethol ar 25 Mehefin 2026.
Cyhoeddi Academaidd
Cyflwyniad i Wasg Prifysgol Cymru
Cyflwyniad i Wasg Prifysgol Cymru gan Uwch Olygydd Comisiynu, Cymraeg a Phynciau Cymreig y wasg, Dr Llion Wigley. Yn y cyflwyniad hwn, ceir trosolwg o gefndir y wasg ynghyd â chanllaw manwl i’r broses o gyflwyno a chyhoeddi cyfrolau.
Cyflwyniad i Gwerddon
Cyflwyniad i e-gyfnodolyn academaidd y Coleg Cymraeg, Gwerddon, gan yr is-olygydd, Dr Hywel Griffiths. Mae Gwerddon yn gyfnodolyn mynediad agored sy’n cyhoeddi ymchwil Cymraeg gwreiddiol mewn ystod eang o feysydd academaidd. Ei nod yw symbylu a chynnal trafodaeth academaidd ar draws ystod eang o feysydd, a chreu cronfa o waith ysgolheigaidd at ddefnydd myfyrwyr ymchwil ac academyddion cyfrwng Cymraeg. Mae Gwerddon yn gydnaws â gofynion y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) ac yn gweithredu cyfundrefn arfarnu annibynnol yn ogystal ag arddel y safonau golygyddol uchaf. Yn y cyflwyniad hwn, ceir trosolwg o gefndir Gwerddon ynghyd â chanllaw manwl i’r broses o gyflwyno a chyhoeddi erthyglau yn y cyfnodolyn.
Cynhadledd Ymchwil 2026
Cynhelir y Gynhadledd Ymchwil ar 25–26 Mehefin yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, a chaiff ei ffrydio ar sianel YouTube y Coleg. Gweler rhagor o wybodaeth ar wefan y Coleg, a bydd recordiadau o'r papurau i'w gweld isod yn dilyn y gynhadledd. Mae modd gweld y posteri ymchwil a arddangosir yn y gynhadledd drwy glicio ar y dolenni isod.
Cyflwyniad i NVivo
Cyfres o fideos yn rhoi cyflwyniad i NVivo gan Emma Grigorian, ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol Met Caerdydd. Mae NVivo yn feddalwedd gyfrifiadurol a ddefnyddir i gasglu, trefnu, dadansoddi a dehongli data ansoddol. Gellir ei defnyddio i ddadansoddi data o ddulliau ymchwil ansoddol megis cyfweliadau, grwpiau ffocws, holiaduron a thrawsgrifiadau drwy godio’r data ac adnabod themâu a phatrymau. Cynhelir gweithdy ar-lein ar 1 Mehefin am 2pm i gyd-fynd â’r adnodd hwn. Gallwch gofrestru ar gyfer y gweithdy yma.
Cyflwyniad i SPSS
Cyfres o fideos yn rhoi cyflwyniad i SPSS gan Dr Awel Vaughan-Evans, Darllenydd mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor. Mae SPSS yn feddalwedd gyfrifiadurol a ddefnyddir i gasglu, dadansoddi a dehongli data meintiol gan ddefnyddio dulliau ystadegol. Gellir ei ddefnyddio i ddadansoddi data o ddulliau ymchwil ansoddol megis holiaduron, cyfweliadau a grwpiau ffocws drwy godio’r wybodaeth ansoddol a’i throi’n ddata meintiol. Cynhelir gweithdy ar-lein ar 5 Mehefin am 11am i gyd-fynd â’r adnodd hwn. Gallwch gofresru ar gyfer y gweithdy yma.
Podlediad Ymchwil ar y Gweill
Podlediad sy’n rhoi llwyfan i ymchwilwyr ledled Cymru rannu eu gwaith a’u syniadau. Bob pennod, mae Jonathan Davies, deiliad ysgoloriaeth ymchwil y Coleg Cymraeg, yn siarad gyda gwestai newydd i archwilio eu maes ymchwil, y cwestiynau sy’n eu hysgogi, a’r effaith ar gymdeithas. O’r gwyddorau naturiol i’r celfyddydau creadigol, mae’r podlediad yn cynnig cipolwg hygyrch ac ysbrydoledig ar ystod eang o bynciau. P'un ai ydych chi'n ymchwilydd, yn fyfyriwr neu’n syml yn mwynhau darganfod syniadau newydd, mae croeso i chi ymuno â’r sgwrs.
Cynhadledd Ymchwil 2025
Cynhaliwyd y Gynhadledd Ymchwil ar 26–27 Mehefin ym Mhrifysgol Aberystwyth a'r Llyfrgell Genedlaethol, ac fe’i ffrydiwyd ar sianel YouTube y Coleg. Mae modd gweld recordiadau o'r sesiynau a chopiau o'r posteri ymchwil drwy glicio ar y dolenni isod.
TestunRhydd
Mae TestunRhydd yn eich helpu i ddadansoddi a delweddu data testun rhydd yn Gymraeg a Saesneg, megis data o arolygon a holiaduron. Mae TestunRhydd yn eich galluogi i gynnal hyd at chwe math gwahanol o ddadansoddi data testunol ar gyfer pob ffeil. Nid oes angen i chi allu codio nac i ddysgu sut i greu graffiau, chwaith - mae TestunRhydd yn gwneud y gwaith caled ar eich cyfer! Datblygwyd yr adnodd hwn fel rhan o brosiect ymchwil ar y cyd rhwng cydweithwyr o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Caerhirfryn
Llesiant Ymchwilydd Cymru
Adnodd ar-lein yw Llesiant Ymchwilydd Cymru (RWC) a gynlluniwyd i alluogi ymchwilwyr doethurol i feithrin ymdeimlad o lesiant iach. Gall eich helpu i lywio eich taith ddoethurol, dod yn fwy gwydn a nodi ffyrdd buddiol o weithio. Gallwch ddisgwyl enghreifftiau a adnoddau am weithio gyda’ch goruchwylwyr, rheoli’ch amser, a chadw’ch cymhelliant. Bu ymchwilwyr doethurol o brifysgolion ar draws Cymru yn ymwneud â chreu adnoddau. Datblygwyd yr adnodd hwn gan academyddion a staff gwasanaethau proffesiynol sy’n ymwneud ag addysg ddoethurol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol Aberystwyth mewn cydweithrediad gyda phrifysgolion eraill Cymru.
Darlith Flynyddol Edward Lhuyd
Mae Darlith Edward Lhuyd yn gyflwyniad blynyddol ar wahanol agweddau o fywyd academaidd a chyfoes Cymru a'r byd. Ceir amrywiaeth eang o themâu gan gynnwys daeareg, llenyddiaeth, ecoleg neu hanes. Trefnir y ddarlith rhwng y Coleg a Chymdeithas Ddysgedig Cymru. Noder, ni fu darlithoedd yn 2020 - 2022 oherwydd Covid-19.
Deallusrwydd artiffisial ac ymchwil
Cyflwyniad gan Dr Seren Evans ar ei gwaith ymchwil i rôl Deallusrwydd Artiffisial mewn rhagfynegi anafiadau digyswllt i’r goes o fewn Rygbi’r Undeb, a recordiad o drafodaeth banel ar ddeallusrwydd artiffisial a'i oblygiadau, ei heriau a’i gyfleoedd i ymchwilwyr gyda: Dr Cynog Prys, Uwch ddarlithydd, Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol, Prifysgol Bangor Dr Seren Evans, Darlithydd, Gwyddorau Chwaraeon, Prifysgol Bangor Dr Neil Mac Parthaláin, Uwch ddarlithydd, Cyfrifiadureg, Prifysgol Aberystwyth Yr Athro Huw Morgan, Ffiseg, Prifysgol Aberystwyth Cynhaliwyd y digwyddiad yn Aberystwyth ar 27 Mehefin 2024.
