Ychwanegwyd: 29/07/2026 Dyddiad cyhoeddi: 2026 5

Deallusrwydd Artiffisial a’r Gymraeg

Disgrifiad

Mae Deallusrwydd Artiffisial (DA) yn newid tirwedd addysg uwch yn gyflym. Mae’n dylanwadu ar y ffordd y mae myfyrwyr yn dysgu, sut mae staff yn cynllunio addysgu ac yn asesu, a sut mae sefydliadau’n cefnogi datblygiad academaidd a sgiliau digidol. Er bod DA yn cynnig cyfleoedd sylweddol, mae hefyd yn codi cwestiynau pwysig ynghylch uniondeb academaidd, llythrennedd digidol, tegwch a chynhwysiant.

Mae’r adroddiad hwn yn archwilio’r defnydd o Ddeallusrwydd Artiffisial yng nghyd-destun addysg uwch cyfrwng Cymraeg, gan roi sylw arbennig i’r cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu siaradwyr Cymraeg a defnyddwyr ieithoedd lleiafrifol

Mae’r adroddiad yn dod â gwaith ymchwil, profion ymarferol ac adborth gan staff a myfyrwyr ynghyd i ddarparu trosolwg o DA a’i oblygiadau i addysg cyfrwng Cymraeg. Amlygir enghreifftiau o arfer da a nodi ffyrdd o hyrwyddo defnydd cyfrifol, moesegol a chynhwysol o DA. Ceir yma ganllawiau ymarferol ar ddewis offer addas, ysgrifennu promptiau effeithiol, gwirio dibynadwyedd a chywirdeb cynnwys a gynhyrchir gan DA, gan fynd i’r afael â materion megis preifatrwydd, rhagfarn a thryloywder.

Gobeithiwn y bydd yr adroddiad yn sbardudno trafodaeth, arbrofi a chydweithio ar draws y sector er mwyn sicrhau bod siaradwyr Cymraeg yn gallu manteisio’n deg ar ddatblygiadau DA, gan gefnogi dull dwyieithog, cynhwysol a chyfrifol o ddefnyddio’r technolegau hyn mewn addysg uwch.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch, Ôl-16 a Galwedigaethol
Perthyn i
Trawsddisgyblaethol
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Adnoddau hyfforddiant
Ymchwil i Ddeallusrwydd Artiffisial - Cefnogwyd gan:  Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Canolfan Gwasanaethau Cymraeg

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.