Ychwanegwyd: 04/03/2022 Dyddiad cyhoeddi: 2022 1.7K Cymraeg Yn Unig

Sgiliau Ymchwil Ansoddol

Disgrifiad

Amcanion y gweithdai:

  • Cyflwyno mathau gwahanol o ddulliau ansoddol
  • Amlinellu’r hyn sydd angen ei ystyried cyn, yn ystod ac ar ôl cynnal ymchwil ansoddol
  • Ystyried y materion moesegol sydd y gysylltiedig ag ymchwil ansoddol
  • Amlinellu sut i ddadansoddi a chyflwyno data ansoddol. 

Cynnwys:

  • Mae gweithdy 1 yn archwilio’r mathau gwahanol o ddulliau ansoddol a dulliau creadigol. 
  • Mae gweithdy 2 yn edrych ar yr hyn sydd angen ei ystyried wrth drio cael mynediad at gyfranogwyr ein hymchwil a chyn cynnal yr ymchwil. 
  • Mae gweithdy 3 yn canolbwyntio ar yr hyn sydd angen ei ystyried yn ystod ac ar ôl cynnal ein hymchwil, yn ogystal â’r materion moesegol sydd yn gysylltiedig ag ymchwil ansoddol. 
  • Mae gweithdy 4 yn edrych ar sut i ddadansoddi a chyflwyno data ansoddol.
  •  

Cyflwynydd:  Dr Siôn Llewelyn Jones

Mae Siôn yn ddarlithydd yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd. Bu’n datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn yr ysgol ac mae’n addysgu nifer o fodiwlau, gan gynnwys modiwlau ymchwil. Mae gan Siôn brofiad helaeth o gynnal ymchwil ansoddol.   Bu’n gweithio ar nifer o brosiectau ymchwil ar gyfer gwahanol sefydliadau, megis Comisiynydd Plant Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru. Yn 2017, gorffennodd ei PhD. Ar gyfer ei ymchwil ddoethurol, archwiliodd Siôn i ddyheadau pobl ifanc a oedd yn mynychu ysgol cyfrwng Cymraeg ac ysgol cyfrwng Saesneg yng nghymoedd de Cymru. Yn y prosiectau ymchwil hyn, bu’n ymwneud â’u cynllunio a bu’n cyfweld â chyfranogwyr yn ogystal â chynnal grwpiau ffocws wyneb yn wyneb, ar-lein ac ar y ffôn.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch
Perthyn i
Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol, Rhaglen Sgiliau Ymchwil
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Adnodd Coleg Cymraeg Gweithdy/Gweminar
mân lun sgiliau ymchwil ansoddol

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.