Araith a draddodwyd gan yr athronydd J. R. Jones yn Eisteddfod y Barri 1968 yn trafod y Cymry Cymraeg fel pobl a'u hawydd i oroesi.
Yr Ewyllys i Barhau – J. R. Jones
Y Meddwl Modern: Lenin – W. J. Rees
Lenin oedd y gwleidydd cyntaf mewn unrhyw wlad i greu chwyldro ar sail egwyddorion Karl Marx. Ai llwyddiant ai methiant fu'r hyn a gyflawnodd ef rhwng 1917 a'i farw ym 1924? Cyn y gellir gosod llinyn mesur ar yr hyn a wnaeth, y mae angen deall yr amgylchiadau y digwyddodd y Chwyldro Comiwnyddol ynddynt, amgylchiadau a oedd yn bur wahanol i'r rhai lle disgwyliasai Marx weld gweithredu ei syniadau. Disgrifir yn y gyfrol hon gyflwr pethau yn Rwsia cyn y Chwyldro, gan amlinellu'n gryno ddatblygiad y gymdeithas a'i sefydliadau. Eir ymlaen i roi braslun o yrfa gyffrous Lenin ac olrheinir rhediad ei syniadau wrth iddo ymlafnio i droi dadansoddiad Marx yn rhaglen o weithredu ymarferol.
Y Meddwl Modern: Wittgenstein – Walford Gealy
Cyfrifir Ludwig Wittgenstein gan lawer yn athrylith hynotaf yr ugeinfed ganrif mewn athroniaeth. Y mae hefyd yn unigryw yn ei faes gan iddo greu nid un athroniaeth ond dwy, y ddwy yn wreiddiol, dylanwadol a gwrthgyferbyniol. Ceisir yn y gyfrol hon esbonio mewn iaith seml ei ddau safbwynt sydd i'w gweld yn Tractatus Logico-Philosophicus ac yn yr Ymchwiliadau Athronyddol.
W. Gwyn Lewis, 'Addysg ddwyieithog yn yr unfed ganrif ar hugain: Adolygu'r cyd-destun rhyngwladol' (2011)
Wrth gyhoeddi ei Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg yn Ebrill 2010, nododd Llywodraeth Cynulliad Cymru bod y system addysg Gymraeg wedi chwarae rôl arweiniol ym maes addysg ddwyieithog ledled Ewrop a'r byd yn ystod yr hanner can mlynedd diwethaf. Wrth i'r gyfundrefn ddatblygu yn sgil y cynnydd yn niferoedd y disgyblion sy'n dymuno addysg ddwyieithog yng Nghymru, pwysleisir ei bod yn hanfodol i ni gadw golwg ar y patrymau a'r modelau sydd ar gael mewn cymunedau dwyieithog eraill sy'n llwyddo i integreiddio dwyieithrwydd neu amlieithrwydd yn eu darpariaeth er mwyn i ni ddeall eu perthnasedd i'n sefyllfa benodol ni yng Nghymru. Mae'r erthygl hon yn bwrw golwg dros y datblygiadau diweddaraf ym maes addysg ddwyieithog ar y llwyfan rhyngwladol gan ystyried beth yw'r prif negeseuon sy'n eu hamlygu eu hunain wrth i addysg o'r fath barhau i ddatblygu i ateb anghenion disgyblion mewn cymunedau dwyieithog ac amlieithog ledled y byd yn yr unfed ganrif ar hugain. W. Gwyn Lewis, 'Addysg ddwyieithog yn yr unfed ganrif ar hugain: Adolygu'r cyd-destun rhyngwladol', Gwerddon, 7, Ionawr 2011, 66-88.
Prydeindod – J. R. Jones
Trafodaeth gan yr athronydd J. R. Jones am hunaniaeth y Cymry Cymraeg a'u perthynas â Phrydain a Phrydeindod.
Rhian Hodges, 'Tua'r goleuni': Rhesymau rhieni dros ddewis addysg Gymraeg i'w plant yng Nghwm Rhymni' (2010)'
Mae'r system addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghymru eisoes yn arf cynllunio ieithyddol effeithiol er mwyn trosglwyddo'r iaith Gymraeg yng Nghymru. Yn ôl Cyfrifiad 2001 mae cynnydd amlwg ymhlith siaradwyr Cymraeg 3–15 oed, ac yn arbennig siaradwyr Cymraeg yn ne-ddwyrain Cymru ers canlyniadau Cyfrifiad 1991. Bwriad y papur hwn yw mynd tu hwnt i'r ystadegau meintiol a chanolbwyntio ar yr ansoddol drwy ddarganfod y prif resymau paham y mae rhieni yn dewis y system addysg hon i'w plant. Lleoliad yr astudiaeth yw Cwm Rhymni, sir Gaerffili. Gweinyddwyd ymhlith rhieni sectorau'r ysgolion meithrin, cynradd ac uwchradd yng Nghwm Rhymni gyfuniad o holiaduron meintiol a chyfweliadau ansoddol dwys er mwyn cyflawni'r astudiaeth hon. Y rhesymau dros ddewis addysg cyfrwng Cymraeg i'w plant yn ôl rhieni sectorau meithrin, cynradd ac uwchradd y sampl oedd rhesymau diwylliannol, addysgol, economaidd a phersonol, fel ei gilydd. Fodd bynnag, rhaid nodi o'r cychwyn mai rhesymau diwylliannol yw prif resymau rhieni'r ardal dros ddewis addysg cyfrwng Cymraeg i'w plant, yn hytrach na rhesymau economaidd a nodwyd mewn sawl astudiaeth flaenorol megis astudiaeth Williams et al, (1978) ar addysg ddwyieithog yn y Rhondda. Cam cyntaf mewn corpws o waith i'r dyfodol yw'r astudiaeth ac un sy'n gobeithio llenwi'r lacunae presennol ym maes Cymdeithaseg Iaith yng Nghymru, yn arbennig o ystyried bod yna ddiffyg amlwg mewn astudiaethau Cymdeithaseg Iaith drwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghymru. Rhian Siân Hodges, ''Tua'r goleuni': Rhesymau rhieni dros ddewis addysg Gymraeg i'w plant yng Nghwm Rhymni', Gwerddon, 6, Gorffennaf 2010, 9-33.
Rhys ap Gwent, 'Cynllun Llywodraeth Cymru i gyflwyno system caniatâd tybiedig ar gyfer rhoi organau' (2013)
Yn 2015, bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru'n cyflwyno cynllun caniatâd tybiedig ar gyfer rhoi organau. Yn fras, yn ôl y cynllun hwn, os na fynegwyd gwrthwynebiad gan oedolion yng Nghymru i roi eu horganau ar ôl iddynt farw, ac os na leisir gwrthwynebiad gan eu teuluoedd, tybir gan yr awdurdodau fod caniatâd wedi ei roi. Yn ôl y drefn bresennol, rhoddir cyfrifoldeb ar yr unigolyn i gofrestru fel rhoddwr, ond gyda gweithredu'r cynllun newydd, gofynnir i'r unigolyn ddatgofrestru os mai dyna yw ei ddymuniad. Cyflwynir yma werthusiad o'r cynllun o safbwynt cyfreithiol a moesegol. Rhys ap Gwent, 'Cynllun Llywodraeth Cymru i gyflwyno system caniatâd tybiedig ar gyfer rhoi organau', Gwerddon, 16, Hydref 2013, 63-77.
Lowri Cunnington Wynn '"Beth yw'r ots gennyf i am Gymru?": Astudiaeth o allfudo a dyheadau pobl ifanc o'r broy...
Mae’r erthygl hon yn ystyried allfudo ymysg pobl ifanc o’r bröydd Cymraeg eu hiaith o safbwynt eu dyheadau a’u gobeithion ar gyfer y dyfodol. Mae’r ymchwil doethur gwreiddiol (2014) yn seiliedig ar waith Hywel Jones (2010), sy’n dadlau bod pobl ifanc a anwyd y tu allan i Gymru oddeutu bedair gwaith yn fwy tebygol o fudo o Gymru na phobl ifanc a anwyd yma. Ceisiwyd sefydlu pa rai yw’r prif ffactorau sy’n effeithio ar gyfraddau allfudo ymysg pobl ifanc sydd heb eu geni yng Nghymru a’r rhai sy’n blant i rieni nad ydynt yn frodorion. Deuir i’r casgliad mai un o’r prif resymau dros allfudo ymysg y grŵp hwn yw ffactorau’n ymwneud â’r ymdeimlad o berthyn a’u lefelau integreiddio i’r cymunedau dan sylw, yn hytrach na ffactorau economaidd yn unig. Yn benodol, ystyrir sut mae diwylliant, cenedligrwydd ac ystyriaethau’n ymwneud â’r Gymraeg yn effeithio ar y duedd hon, sydd ag oblygiadau pwysig o safbwynt cadw siaradwyr Cymraeg yn yr ardaloedd Cymraeg ‘traddodiadol’.
Mike Pearson, 'D.J. a fi' (2007)
Mae 'D.J. a fi' yn tynnu ar agweddau ar waith yr awdur Cymraeg, D.J. Williams, ac yn archwilio eu potensial i ysbrydoli'r broses o greu perfformiad cyfoes sy'n benodol i safle, a hysbysu'r dadansoddiad ohono. Mae hunangofiant Williams, Hen DÅ· Fferm, yn rhoi cipolygon unigryw ar dirwedd plentyndod, natur leoledig y cof, dramayddiaeth adrodd storiau a rôl y storiwr. Mae'r awdur yn defnyddio'r cipolygon hyn i ddatblygu ac awgrymu nifer o ddulliau ymarferol a damcaniaethol o ran defnyddio cofiant, hanes teuluol, saerniaeth ddomestig a gwybodaeth leol mewn perfformiad a ddyfeisir. Gan gyfeirio'n helaeth at ei waith ei hun, 'Bubbling Tom' (2000), sef perfformiad unigol peripatetig a lwyfannwyd ym mhentref ei fagwraeth yn Swydd Lincoln wledig: taith dywysedig o amgylch y lleoedd yr oedd yn eu hadnabod yn saith oed – mae'n trafod pwysigrwydd gwaith Williams o ran ysbrydoli ffurfiau dramatig sy'n ceisio datgelu graen profiad drwy roi sylw i'r personol a'r cyfarwydd, manylion bywyd pob dydd a'i gyfansoddiad. Mike Pearson, 'D.J. a fi', Gwerddon, 1, Ebrill 2007, 13-26.
Myfanwy Davies, 'Dewis a'r dinesydd? Penderfyniadau iechyd a'u goblygiadau ar gyfer datblygu dinasyddiaeth Gym...
Mae lle arbennig i wasanaethau iechyd fel gofod i ddiffinio perthynas priodol y dinesydd â'r wladwriaeth fodern. Bu disgwyliad i unigolion ddewis ym maes iechyd yng Nghymru a Lloegr ers yr 1980au. Yn ddiweddar cyflwynwyd brechlyn newydd i ferched sy'n amddiffyn yn erbyn rhai mathau o gancr ceg y groth. Disgwylir i rieni gydsynio dros eu merched. Mae'r papur hwn yn adrodd canlyniadau'r astudiaeth ymchwil ansoddol fwyaf yn y byd ar y pwnc. Mae'n darlunio agweddau at ddewisiadau iechyd a thrafod profiadau rhieni wrth ddod i benderfynu i gydsynio ai peidio. Dadansoddir strategaethau rhieni wrth benderfynu, er eu hansicrwydd. Myfanwy Davies, 'Dewis a'r dinesydd? Penderfyniadau iechyd a'u goblygiadau ar gyfer datblygu dinasyddiaeth Gymreig', Gwerddon, 10/11, Awst 2012, 40-63.
Ni Fyn y Taeog Mo'i Ryddhau – J. R. Jones
Trafodaeth gan yr athronydd Cymreig, J. R. Jones, ar hunaniaeth y Cymry a pherthynas hynny gyda'r iaith Gymraeg, ei dirywiad a'r pwysau i gymhathu â'r diwylliant Prydeinig. Cyhoeddwyd hefyd fel rhan o gyfrol
Nia Davies Williams, 'Y Golau a Ddychwel': Cerddoriaeth a dementia yng Nghymru' (2012)'
Diben yr erthygl hon yw edrych ar foddau o ddefnyddio cerddoriaeth fel dull o gyfathrebu gyda chleifion sydd yn dioddef o ddementia, a hynny o fewn y cyd-destun Cymreig. Mae'r gwaith ymchwil yn seiliedig ar brofiadau'r awdur wrth ganu i gyfeiliant y delyn Geltaidd mewn uned asesu dementia a chartrefi henoed yn ardal Pen LlÅ·n yn ystod haf 2010, a'r rhyfeddod o weld cleifion oedd yn dioddef o ddementia yn cofio geiriau i ganeuon cyfarwydd pan nad oedd synnwyr i gael wrth sgwrsio â hwy. O ganlyniad, dyma fynd ati i astudio sut roedd cerddoriaeth yn medru bod o fudd i gleifion oedd yn dioddef o'r cyflwr hwn. Mae'r erthygl yn datgelu a dadansoddi'r canlyniadau hyn. Nia Davies Williams, ''Y Golau a Ddychwel': Cerddoriaeth a dementia yng Nghymru', Gwerddon, 10/11, Awst 2012, 113-31.