Mae’r adnoddau hyn yn cyflwyno cysyniadau craidd cyfraith contract a’r materion sy’n gallu codi wrth benderfynu a yw’r partïon wedi dod i gytundeb. Bwriad y deunyddiau yw darparu sylfaen dda i fyfyrwyr sy’n astudio cyfraith contract. Mae pob uned yn cynnwys: crynodeb darlith ar ffurf cyflwyniadau fideo cwis aml-ddewis cwestiynau seminar llyfryddiaeth Cyfranwyr y thema hon yw: Dr Hayley Roberts Dr Angharad James. Mae’r holl unedau a restrir isod i’w cael yma mewn un pecyn. Cynhyrchwyd y deunyddiau hyn â chefnogaeth Cronfa Adfer a Buddsoddi Addysg Uwch Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Y Gyfraith: Cyfraith Contract
Ysgrifennu Academaidd
Mae’r pecyn hwn yn cyflwyno sgiliau trosglwyddadwy i fyfyrwyr israddedig y Gyfraith, ac yn eu paratoi ar gyfer aseiniadau ysgrifenedig, gan atgyfnerthu eu hyder wrth iddynt feistroli cywair academaidd. Datblygwyd yn 2018. Addasiad mwyaf diweddar: Chwefror, 2022
Sylfeini'r Gyfraith Gyhoeddus – Keith Bush
E-lyfr cynhwysfawr yn egluro Cyfraith Gyhoeddus a Chyfraith Cyfansoddiadol Cymru a'r DU. Mae'r fersiwn diwygiedig hwn o'r gyfrol wreiddiol a gyhoeddwyd yn 2016, yn adlewyrchu'r newidiadau pwysig a ddaeth yn sgil Deddf Cymru 2017, yn ogystal ag effaith 'Brexit' ar ddeddfwriaeth ac ar ddatganoli. Adnodd angenrheidiol i fyfyrwyr y gyfraith yng Nghymru a chyfrol anhepgor i unrhyw un sydd â diddordeb yn y maes. Cyhoeddwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, 2021.
Cynhadledd y Gyfraith a Throseddeg 2021
Cynhadledd ar-lein ar gyfer myfyrwyr is-raddedig ac ôl-raddedig, neu unrhyw un sydd â diddordeb yn y maes, a gynhaliwyd ar 4 Mawrth 2021. Roedd y gynhadledd yn trafod gwahanol agweddau o'r Gyfraith yng Nghymru heddiw. Cafwyd gair o groeso gan yr Arglwydd Lloyd-Jones, Ynad yng Ngoruchaf Lys y Deyrnas Unedig a chyflwyniad gyda sesiwn cwestiwn ac ateb gan Jeremy Miles AS, Cwnsler Cyffredinol Cymru. Yn ogystal â hyn, cafwyd panel galwedigaethol gan ddwy gyfreithwraig broffesiynol a hefyd trafodaeth lle gofynnwyd am farn myfyrwyr ar ddysgu'r Gyfraith a Throseddeg drwy gyfrwng y Gymraeg yn ein prifysgolion. Cliciwch isod i wylio recordiadau o'r gynhadledd:
Darlith Flynyddol 2011: Seiliau Cyfansoddiadol y Ddeddfwrfa Gymreig
Darlith Flynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 2011: Seiliau Cyfansoddiadol y Ddeddfwrfa Gymraeg, gan yr Athro Richard Wyn Jones. Traddodwyd y ddarlith yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a'r Fro.
Cyfraith Hywel Dda
Dyma'r man cychwyn ar gyfer darganfod mwy am Gyfraith Hywel neu system gyfreithiol Cymru yn yr oesoedd canol. Ariannwyd datblygiad y wefan gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Adolygiad Barnwrol
Cyfres o chwe darlith gan Manon George, Prifysgol Caerdydd, ar Adolygiad Barnwrol.
Osian Rees a Huw Pritchard, 'Gwersi o Ogledd Iwerddon: Awdurdodaeth Gymreig a dyfodol addysg gyfreithiol yng N...
Arweiniodd datganoli at wahaniaethau sylweddol rhwng cyfraith Cymru a chyfraith Lloegr. Yn ogystal, mae'r drafodaeth ynghylch yr angen i sefydlu awdurdodaeth gyfreithiol Gymreig ar wahân i Loegr wedi dechrau o ddifrif. Gyda hyn mewn golwg, mae'r erthygl yn edrych ar addysg gyfreithiol yng Nghymru, ac yn ystyried pa ddatblygiadau sy'n angenrheidiol er mwyn ymateb i'r heriau a'r cyfleoedd a ddaw yn sgil datganoli, yn ogystal ag unrhyw ddatblygiadau pellach y byddai galw amdanynt pe sefydlid awdurdodaeth Gymreig. Yn sgil hynny, mae'r erthygl yn amlinellu rhai o ddarganfyddiadau allweddol prosiect ymchwil empeiraidd a gynhaliwyd yng Ngogledd Iwerddon, sydd – fel awdurdodaeth fechan â llywodraeth ddatganoledig o fewn y Deyrnas Unedig – yn cyflwyno safbwynt dadlennol. Osian Rees a Huw Pritchard, 'Gwersi o Ogledd Iwerddon: Awdurdodaeth Gymreig a dyfodol addysg gyfreithiol yng Nghymru', Gwerddon, 16, Hydref 2013, 40-62.
R. Gwynedd Parry, 'Rheithgorau Dwyieithog: Penbleth Geltaidd?' (2011)
Er nad yw'r gyfundrefn cyfiawnder troseddol wedi ei datganoli, mae elfennau o weinyddu cyfraith trosedd, sef y broses o weithredu'r gyfraith, wedi datblygu strwythurau ac agweddau Cymreig neilltuol. Gwelir hyn yng nghyswllt polisïau Llywodraeth y Cynulliad o ran atal troseddu, yn enwedig troseddu ymysg pobl ifanc, er enghraifft. Mewn ffordd, mae hunaniaeth Cymru o fewn y cyfansoddiad wedi arwain at greu rhai prosesau a pholisïau Cymreig neilltuol o ran gweinyddu cyfiawnder troseddol. Mae'r papur hwn yn ystyried pwnc penodol sy'n ymwneud â chyfiawnder troseddol a'i berthynas â hunaniaeth, a hynny mewn dwy awdurdodaeth. Y cwestiwn o dan y chwyddwydr yw, a ddylid sicrhau'r hawl i alw rheithgorau dwyieithog mewn rhai achosion troseddol yng Nghymru ac yn Iwerddon. Byddaf yn dadansoddi'r berthynas rhwng gwasanaeth rheithgor fel rhwymedigaeth a braint dinasyddiaeth, a chymhwysedd siaradwyr Gwyddeleg a Chymraeg fel gr?p ieithyddol ar gyfer gwasanaeth rheithgor. Bydd y dadansoddiad hefyd yn ystyried y berthynas rhwng y syniad o wasanaeth rheithgor fel braint dinasyddiaeth a hawliau a buddiannau siaradwyr unigol o fewn y system cyfiawnder troseddol. Dangosir yma fod hwn yn bwnc sydd yn mynnu gwerthusiad amlochrog ac o gyfuniad o safbwyntiau. Mae'r papur hefyd yn ymdrin â'r gwrthwynebiad i reithgorau dwyieithog, gan ystyried sut y gall caniatáu rheithgorau dwyieithog fod yn gyson â'r egwyddor o ddethol rheithgor ar hap (dyma sail y prif wrthwynebiad i reithgorau dwyieithog yng Nghymru ac Iwerddon), gan sicrhau tribiwnlys cynrychioliadol, cymwys, teg a diduedd. R. Gwynedd Parry, 'Rheithgorau Dwyieithog: Penbleth Geltaidd?', Gwerddon, 9, Rhagfyr 2011, 9-36.