Podlediad sy’n trin a thrafod pynciau sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc yng Nghymru heddiw yn ogystal a chael gwybod barn plant a phobl ifanc
Podlediad #1: Beth yw Plentyndod?
Yn y podlediad cyntaf hwn mae Dr Nia Young, Dr Sian Wyn Siencyn, Rowena Hughes Jones a Ceryl Davies yn trafod beth ydy ystyr plentyndod, beth mae'n olygu i fod yn blentyn yng Nghymru heddiw ac a ydy cymdeithas yn gwrando ar lais y plentyn.
Podlediad #2: Beth yw ieuenctid?
Yn y bennod yma Dr Nia Young, Dr Sian Wyn Siencyn, Owain Gethin Davies, a Ceryl Davies yn trafod beth yw ieuenctid?
Sut beth ydy bod yn berson ifanc yng Nghymru heddiw?
Podlediad #3: Beth sydd ei angen ar blentyn...?
Beth sydd ei angen ar blentyn er mwyn tyfu, datblygu a ffynnu?
Yn y podlediad hwn mae Ian Keith Jones (Pennaeth Ysgol San Sior, Llandudno) yn ymuno efo Dr Nia Young, Dr Siwan Roberts, Dr Margiad William a Rowena Hughes Jones o Ysgol Gwyddorau Addysg, Prifysgol Bangor i drafod beth sydd ei angen ar blentyn i ddatblygu a ffynnu. Pa mor bwysig ydy modelau rol, cysondeb a sefydlogrwydd? Beth ydy bod yn riant da?
Podlediad #4: Hawliau Plant
Yn y podlediad yma mae Rowena Hughes Jones, Dr Ceryl Davies, Gwenan Prysor, Arwyn Roberts a Chomisiynydd Plant Cymru, Yr Athro Sally Holland, yn ymuno efo Rhian Tomos i drafod hawliau plant a phobol ifanc.
Ydy plant yn gwybod pa hawliau sydd ganddyn nhw? A oes angen ychwanegu at yr hawliau yng ngoleuni Cofid 19?
Podlediad #5: Llais Rhieni
A ydy agweddau cymdeithas wedi newid tuag at blant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu neu anableddau corfforol a sut mae'r cyfnod Cofid wedi effeithio arnyn nhw? Ydan ni'n gwrando digon ar y rhieni a'r gofalwyr?
I gael gwybod mwy gwrandewch ar Elin Llwyd Morgan (mam Joel sydd ag awtistiaeth), Siôn Meredith, tad Huw (sydd a Syndrom Down), Dr Nia Young (darlithydd ym Mhrifysgol Bangor), Bethan Morris Jones, (Pennaeth Ysgol Pendalar, Caernarfon) a Lora Glynwen Williams, Swyddog Ansawdd, Gwasanaeth ADYaCH Gwynedd a Môn.
Podlediad #6: Beth ydy chwarae?
Beth ydy chwarae? Pa bryd rydan ni'n rhoi'r gorau i chwarae? Beth ydy pwrpas chwarae?
Gwrandewch ar y 6ed podlediad yn y gyfres o bodlediadau AM BLANT i glywed y drafodaeth gan aelodau'r panel a sylwadau pobl ifanc am eu profiadau nhw o chwarae.
Podlediad #7: Sut mae cerddoriaeth, celf a drama yn cyfrannu at ddatblygiad plentyn?
Podlediad wedi recordio’n fyw ar faes Eisteddfod Tregaron gyda Dr Gwenllian Lansdown Davies, Cerys Edwards, Elen ap Robert, Dr Mair Edwards a Dr Nia Young.
Am Blant - podlediad
Echelgais
Adnodd cyfrwng Cymraeg ar wefan HWB sy'n canolbwyntio ar 6 maes; Amaethyddiaeth, Busnes, Drama, Twristiaeth a Hamdden, Iechyd a Gofal a Blynyddoedd Cynnar a'r Cyfryngau.
Cynhadledd Gweithio gyda Phlant a Phobl Ifainc
Cynhadledd ar-lein ac agored i bawb ar opsiynau gyrfa posib ym maes plant a phobl ifainc (heblaw addysgu). Cynhaliwyd y gynhadledd ar ddydd Mercher, 16 Chwefror 2022, drwy gyfrwng y Gymraeg (heb gyfieithu ar y pryd).
- 1.00: Prif Siaradwr – Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin
- 2.00: Panel Cyflogadwyedd – Yr Urdd (Aled Pickard), Ysgol Berfformio Academy Arts ac actores (Jalisa Andrews), GISDA (Siân Elen Tomos), Chwarae Cymru (Matthew Jenkins)
- 2.50: TORIAD
- 3.00: Mentergarwch – sgwrs gyda Gwenllian Stephens ar sefydlu Meithrinfa Cwtsh yn Sir Gâr
- 3.30: Panel Cymhwyster Pellach – dysgu am ddilyn cyrsiau eraill ar ôl gadael y coleg, siaradwyr yn sôn am; therapi lleferydd (Catrin Phillips), gwasanaeth prawf (Eirian Evans), gwaith cymdeithasol (Gwenan Prysor, Prifysgol Bangor) ac ymchwil prifysgol (Cadi Siôn, Prifysgol Bangor)
- 4.15: Trafodaeth agored
- 4.30: Gorffen
Mae modd gwylio recordiadau o'r sesiynau unigol isod:
Tregyrfa
Adnodd digidol sy'n cynnwys gwybodaeth am swyddi a chyfleoedd yn y maes iechyd a gofal yng Nghymru.
Datblygwyd gwefan Tregyrfa gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC). Bwriad Tregyrfa yw rhannu gwybodaeamth am y cyfoeth o gyfleoedd gwaith sydd ar gael o fewn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'r maes gofal.
Adnodd hyfforddi i gefnogi gweithio dwyieithog: Urddas, iaith a gofal
Mae’r pecyn canlynol ar gyfer unigolion sy’n dymuno cyflwyno sesiwn hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith i’w dysgwyr. Hyd y sesiwn yw un awr.
Mae’r cwrs yn addas ar gyfer:
- myfyrwyr Lefel 1, 2, 3, 4 a 5 iechyd a gofal cymdeithasol neu ofal plant
- tiwtoriaid ac aseswyr mewn colegau
- myfyrwyr gofal/gwaith cymdeithasol neu ofal plant mewn prifysgolion.
Mi allai hefyd gael ei ddefnyddio fel rhan o hyfforddiant mewn swydd ar gyfer gweithwyr yn y meysydd uchod a gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru.
Nod y pecyn yw arfogi hyfforddwyr i gyflwyno gwybodaeth am iaith a thrafod sut i weithio’n ddwyieithog gyda’u dygwyr.
Cyflwynir y pecyn ar ffurf PowerPoint gyda nodiadau hyfforddwr i gefnogi pob sleid. Mae’r nodiadau hyfforddwr yn cyflwyno sgript arweiniol, yn ogystal ag yn cynnig ambell i syniad am sut i gyflwyno tasgau ac annog y dysgwyr i fod yn rhagweithiol yn y sesiwn. Datblygwyd yr adnoddau gan Gofal Cymdeithasol Cymru.