Ychwanegwyd: 13/10/2020 Dyddiad cyhoeddi: 2020 1.4K

Adnodd hyfforddi i gefnogi gweithio dwyieithog: Urddas, iaith a gofal

Disgrifiad

Mae’r pecyn canlynol ar gyfer unigolion sy’n dymuno cyflwyno sesiwn hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith i’w dysgwyr. Hyd y sesiwn yw un awr.

Mae’r cwrs yn addas ar gyfer:

  • myfyrwyr Lefel 1, 2, 3, 4 a 5 iechyd a gofal cymdeithasol neu ofal plant
  • tiwtoriaid ac aseswyr mewn colegau
  • myfyrwyr gofal/gwaith cymdeithasol neu ofal plant mewn prifysgolion.

Mi allai hefyd gael ei ddefnyddio fel rhan o hyfforddiant mewn swydd ar gyfer gweithwyr yn y meysydd uchod a gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru.

Nod y pecyn yw arfogi hyfforddwyr i gyflwyno gwybodaeth am iaith a thrafod sut i weithio’n ddwyieithog gyda’u dygwyr.

Cyflwynir y pecyn ar ffurf PowerPoint gyda nodiadau hyfforddwr i gefnogi pob sleid. Mae’r nodiadau hyfforddwr yn cyflwyno sgript arweiniol, yn ogystal ag yn cynnig ambell i syniad am sut i gyflwyno tasgau ac annog y dysgwyr i fod yn rhagweithiol yn y sesiwn. Datblygwyd yr adnoddau gan Gofal Cymdeithasol Cymru.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Ôl-16 a Galwedigaethol
Perthyn i
Gofal Plant, Iechyd a Gofal
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Casgliad
logo gofal cymdeithasol cymru

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.