Ydych chi’n arwain neu’n darlithio ar y cwrs TAR AHO (Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg, Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol)? Oes gennych chi fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg ac sy’n awyddus i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol? Os felly, mae’r adnodd hwn wedi’i gynllunio i’ch cefnogi chi.
Mae’r gyfres yn cynnwys chwe fideo sy’n cynnwys aelodau staff sy’n addysgu’n ddwyieithog yn y sector addysg bellach a phrentisiaethau, ac sydd wedi cwblhau’r cwrs TAR AHO yn ddiweddar. Mae’r fideos hyn yn cynnig mewnwelediadau gwerthfawr i’w profiadau, ynghyd â chynghorion ymarferol ac enghreifftiau o arfer da y gellir eu rhannu gyda’ch myfyrwyr wrth iddynt baratoi i fynd i weithio yn y sector.
Mae yna hefyd Becyn Rhannu Arfer Da, sy'n cynnig arfer da ac arloesol i chi annog a chefnogi myfyrwyr TAR i ddefnyddio eu sgiliau iaith Gymraeg.
