Addasiad Cymraeg o Pearson BTEC National Business – Student Book 1 ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio BTEC Tystysgrif Busnes, Tystysgrif Estynedig a'r Diploma Sylfaenol. Mae'r llyfr yn cynnig cefnogaeth i fyfyrwyr drrwy'r holl unedau gorfodol ac ystod o'r unedau dewisol, yn eu plith: Archwilio Busnes; Datblygu Ymgyrch Farchnata; Rheoli Digwyddiad; ac Ymchwilio i Wasanaeth Cwsmeriaid.
Gwerslyfrau BTEC Cenedlaethol Busnes
Astudiaethau Achos Busnes
Mae’r pecynnau hunan astudio yma’n defnyddio astudiaeth achos Cymreig i gyflwyno damcaniaethau busnes i ddysgwyr mewn colegau addysg bellach. Mae’r pecynnau wedi cael eu hanelu at ddysgwyr ar lefel tri ond gallant fod yn berthnasol i ddysgwyr ar lefelau is ac uwch hefyd.
Mae’r adnoddau yn cyflwyno:
- Nodweddion gwasanaeth cwsmer da
- Nodweddion busnes mân-werthu
- Rheoli cadwyn gyflenwi
- Rheoli digwyddiad
- Adeiladu tîm mewn busnes
Yn ogystal â’r pecynnau, ceir dolen at yr astudiaethau achos ar ffurf fideo ar wahân.
Adnoddau E-Ddysgu Consortiwm Addysg Ôl-16 Gwynedd ac Ynys Môn
Cyfres o adnoddau rhyngweithiol dwyieithog e-ddysgu ar y pynciau isod:
- Manteision astudio Gofal Plant trwy’r Gymraeg neu’n Ddwyieithog
- Manteision astudio Adeiladwaith trwy’r Gymraeg neu’n Ddwyieithog
- Manteision astudio Busnes trwy’r Gymraeg neu’n Ddwyieithog
- Manteision astudio Arlwyaeth trwy’r Gymraeg neu’n Ddwyieithog
- Ailsefyll Mathemateg TGAU
- Ailsefyll Cymraeg TGAU
- Peirianneg Lefel 3
- Cerddoriaeth Lefel A
- Ffrangeg Lefel A
- TGCh Lefel AS
Gweminarau Busnes i Ddysgwyr Mewn Colegau Addysg Bellach (Tymor yr Hydref 2022)
Cyfres o weminarau i roi cyfle i ddysgwyr drafod eu pwnc trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd y gweminarau yn trafod:
- Sefydlu Busnes Bach
- Brandio
- Masnach Ar-lein
- Moeseg/Amgylchedd
- Defnyddio'r Gymraeg
- Ariannu Busnes
- Busnes B2B
- Cyfundrefn 'cyhoeddus'
- Busnes Cymdeithasol
ac yn cael eu cynnal ar brynhawiau Mercher rhwng 14:00-15:00 rhwng 28 Medi 2022 a'r 14 Rhagfyr 2022.
Echelgais
Adnodd cyfrwng Cymraeg ar wefan HWB sy'n canolbwyntio ar 6 maes; Amaethyddiaeth, Busnes, Drama, Twristiaeth a Hamdden, Iechyd a Gofal a Blynyddoedd Cynnar a'r Cyfryngau.
Astudiaethau Busnes: Economi Cymru
Nod yr unedau hyn yw cyflwyno gwahanol agweddau ar economi Cymru, ddoe a heddiw.
Mae pob uned yn cynnwys:
- crynodeb
- darlith ar ffurf cyflwyniadau fideo
- cwis aml-ddewis
- cwestiynau seminar
- llyfryddiaeth
Mae’r holl unedau a restrir isod i’w cael yma mewn un pecyn.
Cyfranwyr y thema hon yw:
- Guto Ifan
- Dr Rhys ap Gwilym
- Dr Edward Jones
- Elen Bonner
- Sam Parry
Cynhyrchwyd y deunyddiau hyn â chefnogaeth Cronfa Adfer a Buddsoddi Addysg Uwch Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Cynhadledd Iaith a Busnes
Cynhadledd ar Farchnata, Busnes ac ieithoedd lleiafrifol
Cynhadledd ar gyfer darlithwyr, myfyrwyr a gweithwyr ym maes marchnata a'r Gymraeg ar 24 Mehefin 2022 ar Gampws y Bae, Prifysgol Abertawe, Ffordd Fabian, Abertawe SA1 8EN.
Bydd y gynhadledd yn cyflwyno a thrafod ymchwil sydd yn edrych ar faterion sy’n ymwneud â’r Gymraeg ac ieithoedd eraill, megis Llydaweg, Gwyddeleg, neu Fasgeg, a maes Busnes.
Mynediad a lluniaeth am ddim. Cofrestrwch i fynychu. Croeso i bawb. Mae'r gynhadledd yn y Gymraeg - does dim cyfieithu ar y pryd. Manylion pellach: s.jobbins@colegcymraeg.ac.uk
Amserlen
10:00 - Coffi / Ymgynnull
10:30 - Croeso gan Yr Athro Elwen Evans CF, Dirprwy Is-ganghellor a Deon Gweithredol, Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Abertawe
10:45 - Siaradwr gwadd: Mari Stevens, Prif Swyddog Marchnata, Ogi: Hunaniaith: rôl y Gymraeg wrth farchnata yng Nghymru – ac ar draws y byd
11:15 - Sesiwn 1
Ieithoedd Lleiafrifol a Marchnata Lle (Cadeirydd: LlÅ·r Roberts)
- Cyfraniad Ieithoedd Lleiafrifol at greu Brand Unigryw wrth Farchnata Lle - Rhydian Harry (Prifysgol Abertawe)
- Pop Up Gaeltacht: adfywio dinesig ac ieithyddol? - Dr Osian Elias (Prifysgol Abertawe)
- Gwnaed yn Llydaw: Brand rhanbarthol. Model i Gymru? - Dr Robert Bowen (Prifysgol Abertawe/Caerdydd)
12:30 - Cinio (Ystafell GH014)
13:15: Siaradwr gwadd: Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr, Canolfan Uwchefrydiad Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru: Gwersi Basgeg - Cymharu Cymru a Gwlad y Basg
13:45 - Sesiwn 2
Y Cyd-destun Cymreig (Cadeirydd: Dr Robert Bowen)
- Dylanwad polisïau, gweithgareddau a thueddiadau economaidd ar y Gymraeg - Elen Bonner (Prifysgol Bangor)
- Cyflwyniad i Farchnata: datblygu gwerslyfr Cymreig yn ogystal â Chymraeg - LlÅ·r Roberts (Prifysgol De Cymru)
- Defnyddio cwmnïau Cymreig ar gyfer dysgu dulliau ymchwil a sgiliau ymarferol i fyfyrwyr busnes Cymraeg a rhyngwladol - Yr Athro Eleri Rosier (Prifysgol Caerdydd) a Dr Rhian Thomas (Prifysgol De Cymru)
15:00 - Panel Trafod (Cadeirydd: Yr Athro Eleri Rosier)
15:30 - Gorffen
Astudiaethau Busnes - Entrepreneuriaeth a Strategaeth Busnes
Mae’r adnoddau hyn yn diffinio ac yn archwilio’r thema ‘entrepreneuriaeth’, gan roi sylw manwl i’r elfennau sy’n rhaid eu hystyried wrth gynllunio, dechrau, datblygu a llwyddo mewn busnes.
Mae pob uned yn cynnwys:
- crynodeb
- darlith ar ffurf cyflwyniadau fideo
- cwis aml-ddewis
- cwestiynau seminar
- llyfryddiaeth
Cyfranwyr y thema hon yw:
- Dr Robert Bowen
- Dr Eleri Rosier
- Dr Kelly Young
- Nerys Fuller-Love
- Jonathan Fry
- Gareth Hall Williams
Mae’r holl unedau a restrir isod i’w cael yma mewn un pecyn:
Cynhyrchwyd y deunyddiau hyn â chefnogaeth Cronfa Adfer a Buddsoddi Addysg Uwch Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
E-lyfr Cyflwyniad i Farchnata
Cyflwyniad i Farchnata yw’r gwerslyfr Cymraeg cyntaf erioed ym maes marchnata. Mae wedi ei gynllunio i fod o gymorth i fyfyrwyr sy’n astudio Busnes, Rheolaeth, Cyfathrebu a Marchnata yn y brifysgol neu’r coleg, ynghyd ag ar gyfer defnydd ymarferol gan fusnesau ac ymarferwyr cyfathrebu a marchnata mewn sefydliadau gwirfoddol a chyhoeddus. Mae’n cynnwys nifer o elfennau rhyngweithiol ac amlgyffwrdd a gellir ei ddefnyddio ar gyfrifiaduron, tabledi a ffonau clyfar.
Y Broses Bidio Digwyddiadau
Mae'r adnoddau yma yn cyflwyno'r broses bidio digwyddiadau gan gynnwys ystyriaeth o safbwyntiau Llywodraeth Seland Newydd a chymhwyso'r broses bidio digwyddiadau ar gyfer Cwpan Y Byd FIFA 2026.
Mae sleidiau PowerPoint, recordiad Panopto a chwis ar gael. Maent yn addas ar gyfer myfyrwyr Prifysgol, addysg bellach neu disgyblion ysgolion uwchradd.
Datblygwyd yr adnoddau gan Jonathan Fry - Darlithydd mewn Busnes a Rheolaeth, Prifysgol Aberystwyth
Adnoddau Astudiaethau Busnes Lefel 3 BTEC
Astudiaethau Busnes (L3): sesiynau dysgu cyfunol
30 o sesiynau dysgu cyfunol ar gyfer dysgwyr sy’n astudio cwrs Astudiaethau Busnes (lefel 3).
Mae modd gweld y sesiynau yn eich porwr drwy ddilyn y dolenni isod. Mae hefyd modd i golegau lawrlwytho'r cynnwys er mwyn eu gosod o fewn eu llwyfannau dysgu lleol. Mae'r ffeil zip yn cynnwys ffeiliau SCORM ar gyfer yr holl unedau.
Mae cynnwys y sesiynau hyn yn ddwyieithog, ond dim ond yn Gymraeg mae modd ateb y cwestiynau.
Hawlfraint Heart of Worcestershire College ar ran The Blended Learning Consortium a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’r adnoddau hyn i gael eu defnyddio mewn sefydliadau addysgiadol yn unig ac ni ddylid eu haddasu na’u hailwerthu.