Fideo o Helen Dobson (Gweithiwr Cymdeithasol) sy'n rhan o ymgyrch #GofalwnCymru 2020
Roedd Helen yn athrawes gyflenwi mewn ysgolion cynradd am ddeng mlynedd ar hugain, ond un diwrnod penderfynodd ei bod eisiau gwneud mwy i wneud gwahaniaeth, felly gwnaeth ei MSc mewn Gofal Cymdeithasol a daeth yn Weithiwr Cymdeithasol.
Gallwch weld rhagor o astudiaethau achos ar wefan Gofalwn.Cymru
Fideo Gofalwn Cymru (Helen Dobson, Gwaith Cymdeithasol)
Sally Baker et al., 'Trafodaeth feirniadol o gyfraniad defnyddwyr gwasanaeth at addysg gwaith cymdeithasol yng...
Mae'r erthygl hon yn adrodd canfyddiadau gwaith cychwynnol a wnaed i asesu cyfraniad defnyddwyr gwasanaeth/gofalwyr at addysg gwaith cymdeithasol mewn sefydliad addysg uwch yng Nghymru ac mae'n trafod yn feirniadol gyfraniad defnyddwyr gwasanaeth/gofalwyr at addysg gwaith cymdeithasol. Mae swyddogaeth defnyddwyr gwasanaeth/gofalwyr yn y cyd-destun hwn yn parhau i fod yn amwys. Awgrymwn y caiff hyn ei adlewyrchu yn sylwadau'r defnyddwyr gwasanaeth/gofalwyr, sy'n adrodd yn aml am werth eu cyfraniad at addysg gwaith cymdeithasol yn nhermau'r manteision personol – therapiwtig yn aml – iddynt hwy o gymryd rhan. Mae myfyrwyr gwaith cymdeithasol yn frwdfrydig am gyfraniad defnyddwyr gwasanaeth/gofalwyr at eu haddysg, ac yn credu ei fod yn werthfawr, ond roedd ganddynt syniadau amrywiol am sut a beth y gallai ac y dylai'r defnyddwyr gwasanaeth/gofalwyr ei gyfrannu. Sally Baker, Hefin Gwilym, a Brian J. Brown, 'Trafodaeth feirniadol o gyfraniad defnyddwyr gwasanaeth at addysg gwaith cymdeithasol yng Nghymru', Gwerddon, 8, Gorffennaf 2011, 28-44.
Darlith Edward Lhuyd 2015: Heneiddio a Gofal
Heneiddio a Gofal: Ein Cyfrifoldeb a'n Braint' – Darlith Flynyddol Edward Lhuyd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chymdeithas Ddysgedig Cymru 2015.Traddodwyd gan yr Athro Mari Lloyd-Williams ar nos Fercher 4 Tachwedd 2015 yn y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.
Academi Cynhadledd Achos
Mae'r clipiau yma yn olrhain hanes cynhadledd achos er mwyn gwarchod plant. Mae’r clipiau yn cynnig enghraifft i fyfyrwyr o’r modd y cynhelir Cynhadledd Achos. Yn yr achos hwn, trafodir dau blentyn ifanc o’r enw Siân a Dylan. Mae Siân yn bump oed, a Dylan yn fabi deunaw mis oed. Pwrpas cynnal y Gynhadledd Achos yw i benderfynu a ddylai’r plant barhau ar y gofrestr amddiffyn plant ai peidio. Mae'r fideo wedi ei rannu mewn i 8 rhan. Dychmygol yw’r cymeriadau yn yr adnodd hwn, ond mae’r math yma o sefyllfa yn gyffredin iawn o fewn cyd-destun y Gynhadledd Achos.
CAEA Ymwybyddiaeth Iaith – Gwaith Cymdeithasol
Adnodd rhyngweithiol sy'n anelu at greu’r amodau i fyfyrwyr gwaith cymdeithasol fedru rhoi eu hun yn sgidiau’r defnyddiwr a theimlo a deall pam fod gwasanaeth yn Gymraeg yn ystyriaeth bwysig.
Mae’r modiwl yn cynnwys 5 uned sy’n hoelio sylw ar:
- Ddeall anghenion iaith;
- Mynd dan groen y profiad dwyieithog;
- Ystyried cyd-destun y Gymraeg – ei chyflwr cyfoes a pheth o’i hanes ac effaith hynny ar ddefnyddwyr gwasanaeth;
- Dadansoddi’r berthynas rhwng iaith a grym, oblygiadau strategaeth Mwy na geiriau a’r cynnig rhagweithiol, a
- Dod yn barod i ymarfer a gweithredu’n unol â gofynion Mwy na geiriau.
Yn ddelfrydol, dylai myfyrwyr weithio eu ffordd trwy'r deunyddiau o uned 1 i 5 wrth i drafodaeth a dysgu adeiladu fesul tipyn o'r naill i'r llall. Fodd bynnag, mae'r unedau hefyd yn hunangynhwysol i raddau helaeth, a gellir defnyddio unedau, neu rannau o uned, ar y cyd â modiwlau neu ddeunyddiau dysgu eraill.