Adnodd cyfrwng Cymraeg ar wefan HWB sy'n canolbwyntio ar 6 maes; Amaethyddiaeth, Busnes, Drama, Twristiaeth a Hamdden, Iechyd a Gofal a Blynyddoedd Cynnar a'r Cyfryngau.
Newyddiaduraeth o Bedwar Ban Byd 2023
Sesiynau ar-lein sy'n trafod gwaith a phrofiadau newyddiadurwyr sydd yn, neu wedi gweithio dramor, a phwysigrwydd a rôl y Gymraeg yn ei gyrfa. Cyfle i fyfyrwyr, dysgwyr, disgyblion ac academyddion sydd yn ymddiddori mewn newyddiaduraeth i glywed gan lu o newyddiadurwyr a’i holi. SEMINARAU 2023: Illtud Dafydd, 31 Ionawr 2023 (GWYLIWCH Y RECORDIAD) Newyddiadurwr chwaraeon gyda'r asiantaeth newyddion ryngwladol Agence France-Presse ym Mharis. Megan Davies, 15 Chwefror 2023 (GWYLIWCH Y RECORDIAD) Newyddiadurwr sydd wedi gweithio i Vogue ym Mharis cyn dychwelyd i Gymru i weithio i BBC Cymru. Andy Bell, 15 Mawrth 2023 (GWYLIWCH Y RECORDIAD) Newyddiadurwr, cynhyrchydd a gohebydd sydd wedi gweithio yn y byd darlledu yn Awstralia am dros dri degawd ac yn ‘lais Awstralia’ i gyfryngau Cymraeg.
Gŵyl MAP a'r Gynhadledd Theatr 2021
Aeth Gŵyl MAP a'r Gynhadledd Theatr AR-LEIN eleni! Roedd cyfle i ddangos a thrafod gwaith ymysg myfyrwyr theatr a pherfformio Cymru. Roedd hefyd cyfle i wrando ar actorion, dramodwyr a chyfarwyddwyr theatr yn trafod y flwyddyn ddiwethaf, a cyfle arbennig i edrych ar ddyfodol theatr. Cafodd ei gynnal ar Zoom, Dydd Mercher 21 Ebrill 2021 (10:00-16:00) Cewch wylio'r sesiwn banel o'r digwyddiad isod:
Dŵr, Haul, Gwynt, Golau (rhan o brosiect Seiniau Uchel, Carbon Isel)
Mae prosiect 'Seiniau Uchel, Carbon Isel', sef prosiect Prifysgol Bangor mewn partneriaeth gyda Phontio ag M-SParc, ac wedi ei noddi gan y Coleg Cymraeg, yn trefnu perfformiad cerddorol/fideo fydd yn cael ei ffrydio yn fyw ar sianel AM. Fel rhan o'r prosiect, fe fydd y pianydd a'r cyfansoddwr Tristian Evans yn perfformio’r gwaith aml-gyfrwng 30 munud ‘Dŵr, Haul, Gwynt, Golau’. Wedi’i ysbrydoli gan eiriau hen a newydd yn ymwneud â’r amgylchedd, mae Tristian wedi cyfansoddi darnau i’r piano mewn ymateb i’r argyfwng hinsawdd sydd yn ein gwynebu. Gan fabwysiadu’r broses o ailgylchu mewn cyd-destun creadigol, mae’n plethu hen alawon crefyddol, deunydd gweledol o’r archif, testunau o’r Beibl, a lleisiau ieuenctid, ac fe ddaw’r cyfan yn fyw mewn dau waith amlgyfrwng i’r piano. Mae Dŵr, Haul, Gwynt, Golau yn integreiddio geiriau amgylcheddol gan blant a phobl ifanc, yn ogystal â delweddau sy’n cyd-fynd hefo sgôr i’r piano. Yna perfformir Tir (Creadigaeth/Etifeddiaeth), sydd yn ymateb i’r syniad o greadigaeth ac etifeddiaeth o’r ddaear, wedi’i ddylanwadu gan gyfeiriadau Beiblaidd a chefndir teuluol y pianydd ym Môn yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Fe fydd y perfformiad yn para oddeutu hanner awr ar 25 Tachwedd 2020 (19:30) Cliciwch isod am fwy o wybodaeth